Seiclo ar y Ffyrdd

Mae gan Elan enw da am lwybrau seiclo mynydd naturiol, a adleisiwyd gan Red Bull trwy osod Elan in Wales ymhlith y deg uchaf o lwybrau seiclo mynydd.

Wedi’i leoli ymysg cefndir ysblennydd yr argaeau a’r cronfeydd dŵr Fictorianaidd, bryniau agored, hen reilffyrdd a choetiroedd, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd wrth i chi ddisgyn trwy’r cwm.

Ceir dewis o lwybrau, o ddechreuwyr i deithiau hirach a fwy technegol, ond mae croeso i bawb.  Mae ein gwasanaeth llogi beiciau o’r Ganolfan Ymwelwyr yn ddi-drafferth ac fe fyddwch ar gefn eich beic cyn pen dim, cliciwch yma am ragor o wybodath.

Bydd ein partneriaid o mbwales.com yn eich cysylltu’n hwylus i lwybrau Elan a Rhaeadr (gan gynnwys llawrlwythiadau GPX i’ch dyfais GPS:

 

The Ant Hills: 1 – 1.5 awr/9 cilomedr (Glas)

O gwmpas Caban:  1 awr/ 15 cilomedr (Coch)

Gwersyll Rhufeinig: 3-4 awr/32 cilomedr (Coch)

Cylchdaith Nannerth: 3 awr/29 cilomedr (Coch)

Golf Links: 1 awr/13 cilomedr (Coch)

Cylchdaith Dyffryn Gwy: 2 awr/19 cilomedr (Coch)

Bwthyn Du: 3-4 awr/30 cilomedr (Du)

Elan Epig: 7 awr/60 cilomedr (Du)

 

 

Am ganllaw i system lliw y llwybrau (anhawster), cliciwch yma.

Am wybodaeth ynglyn â ‘Rheolau’r Llwybrau’, cliciwch yma.

Fe fyddwn yn ychwanegu rhagor o lwybrau yn fuan. Cadwch lygad barcud ar y dudalen hon neu gofrestrwch am ein cylchlythyr sydd wrth droed ein gwefan.