Byncws Cwm Clyd

Byncws Cwm Clyd

Mae gan ein llety eang at bwrpas, bopeth sydd angen arnoch i gael amser da yn ystod eich arhosiad yng Nghwm Elan. Mae’r llety hunan arlwyol yn groesawgar a chyffyrddus gyda chyfleusterau wedi’u cynllunio’n addas sy’n eich galluogi i ymlacio ar ôl diwrnod yn yr awyr agored. Mae’r ardd heddychlon yn cynnig lle perffaith i fwynhau’r nosweithiau gyda lle i eistedd tu allan, a ffwrn cob.

Mae’r adeilad byncws yn cynnwys tri adeilad:

Mae gan y prif adeilad gegin wedi’i gynhesu’n llawn gyda ffwrn Rangemaster, ardal fwyta gyda llosgwr pren, un ystafell wely mynediad i gadair olwyn a chawodydd/ystafelloedd ymolchi. Sylwch nad oes cyfleusterau dynion/menywod ar wahân.

Mae’r ddau adeilad arall yn ardaloedd cysgu, a enwir y Cartws (cysgu chwech mewn dwy ystafell) a’r Tŷ Hir (cysgu 14 mewn tair ystafell y gellir eu cloi).

Felly, gall y safle cyfan gynnwys cyfanswm o 21 o bobl dros chwe ystafell, gan gynnwys yr ystafell wely mynediad i gadeiriau olwyn.

Gellir archebu’r Carthouse a’r Longhouse fel dau lety ar wahân.

Mae lleoliad Y Byncws yn hwylus ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr awyr agored megis cerdded, seiclo a physgota, ac yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr ym Mharc Wybren Dywyll Cwm Elan. Rydym yn cynnig awyrgylch ymlaciol gyda golygfeydd godidog a rhywbeth at ddant pawb.

Mae’n berffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau neu ar gyfer dau deulu yn dod at ei gilydd.

Y Tŷ Hir:

Y Tŷ Hir cyfan: £260
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £15 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.

Y Cartws:

Y Cartws cyfan (2 ystafell) – hyd at 6 o bobl: £120
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £15 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.