Llwybr Cwm Elan
Dechrau Rhayader view
Pellter9 miles
Anhawster Multi-Access ?
Map OS Explorer 200
Route card not available
Llwybr llinellog yw Llwybr Cwm Elan sy’n dilyn hen lein Rheilffordd Gorfforaeth Birmingham. Mae’r llwybr yn dechrau yng Nghwmdauddwr, i’r gorllewin o Raeadr ac yn gorffen 13 cilomedr (9 milltir) yn bellach i fyny Cwm Elan ger Argae Craig Goch.
Pwrpas y llwybr yw i wella’r mynediad i Gwm Elan a’r wlad o’i gwmpas, yn arbennig ar gyfer y rhai llai abl. Llwybr ceffyl yw’r llwybr rhwng Craig Goch a Phen y Garreg. Fodd bynnag, llwybr caniataol a gytunwyd rhwng y tirfeiddianwyr, Dŵr Cymru Welsh Water, Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed a Cyngor Sir Powys yw’r llwybr hwn rhwng Pen y Garreg a Rhaeadr ac nid yw’n dilyn hawl tramwy
Mae’r llwybr ar agor ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a cheffylau. Fel ar lwybrau ceffyl, rhaid i seiclwyr a marchogwyr ceffyl ostwng i gerddwyr a’r llai abl.
Gweler y map isod am fanylion y gwyriad swyddogol sy'n dilyn y ffordd o Benbont i Graig Goch am 4.5km/2.7milltir.
Mae'r llwybr bryniog y mae Cerddwyr Powys yn ei awgrymu’n addas ar gyfer cerddwyr sy'n brofiadol wrth gerdded dros dir garw, sydd ag offer priodol ac â sgiliau darllen map yn unig. Nid yw'r daith yn dilyn llwybr, ac mae'n anaddas i farchogion, beicwyr a cherddwyr dibrofiad. Nid yw'n cynnig mynediad i bobl anabl.
Darganfod y llwybr hwn
Download GPX → For your recreational GPS device