GOLWG AR WYBREN Y NOS – MIS GORFFENNAF 2020

Croeso i rifyn diweddaraf Golwg ar Wybren y Nos. Mae’r Heuldro Haf bellach wedi digwydd a’r nosweithiau dal yn olau. I’r rhai sy’n byw yn ne Lloegr, fe fydd gwir dywyllwch yn dychwelyd ar ddiwedd mis Gorfennaf, gan wneud y Llwybr Llaethog, nifylau a galaethau yn haws i’w gweld. Er gwaethaf diffyg gwir dywyllwch, mae gennym dargedau da i’w darganfod gyda’r llygaid noeth, ysbienddrych a thelesgop. Ewch allan ac edrychwch i fyny!
Chwiliwch Am Dair Seren
Mae dal yn bosibl i fwynhau thawelwch a phrydferthwch y wybren gyfnos â’i sêr llachar – edrychwch am Driongl yr Haf sy’n cynnwys Deneb, Altair a Vega.
Cymylau’r Nos Yn Tywynnu
©Cymylau Noctilucent gan Sam Price
Mae dal yn bosibl weld y cymylau Noctilucent yn yr wybren ogleddol, rhwng 90 ac 120 o funudau ar ôl machlud haul a’r un peth cyn y wawr yn ystod y mis.
Planedau
Mae Gorffennaf yn fis da i astudio’r planedau. Mae’r blaned Mercher ar yr Estyniad Gorllewinol Mwyaf ar yr 22ain o Orffennaf, sy’n golygu ei bod yn codi tua awr a hanner cyn y wawr, sy’n rhoi’r cyfle i chi astudio’r blaned sy’n agosaf i’r Haul. Mae’r diagram uchod yn esbonio beth mae’r termau megis Gwrthwynebiad ac Estyniad Dwyreiniol Mwyaf yn golygu. Fe allwch weld y blaned Mercher fel seren fach, yn digrynu gyda’r llygaid noeth, gan nad w’r planedau yn disgleirio cymaint â sêr.
Y planedau Iau a Sadwrn yw’r rhai pwysica y mis hwn, gyda chanol y mis yr amser gorau i’w hastudio. Ar noswaith y 5eg o Orffennaf, fe fydd cysylltiad dymunol o’r ddwy blaned ynghyd â’r Lleuad Lawn, yn codi o’r gorwel de ddwyrain. Gwyliwch nhw’n ymddangos i’r wybren pan fydd hi’n dechrau tywyllu o 10yh ymlaen. Ar yr 14fed o Orffennaf, fe fydd y blaned Iau yn cyrraedd gwrthwynebiad, y man ble fydd agosa i’r Ddaear, ac yn ymddangos yn fwy llachar. Defnyddiwch delesgop i ddarganfod bandiau o gymylau a sidelli, ac edrychwch ar ddawns lleuadau y blaned Iau, a ellir eu gweld fel sbeciau llachar trwy ysbienddrych. Ar y 20fed o Orffennaf, fe fydd y blaned Sadwrn hefyd yn cyrraedd gwrthwynebiad. Defnyddiwch delesgop er mwyn astudio’r cylchoedd ac i weld ychydig o’i lleuadau mwyaf llachar.
Fe fydd y blaned Mawrth yn codi o’r dwyrain am 11.45yh ar ddechrau’r mis a tua 10yh ar y diwedd. Mae cysylltiad hyfryd o’r blaned Mawrth a’r Lleuad yn ei chwarter olaf ar y 12fed o Orffennaf – edrychwch tua’r dwyrain o 10yh a gwyliwch y ddau gwrthrych yn codi.
Mae’r blaned Gwener yn rhagflaeni wybren y bore gyda’i harddwch, yn codi yn wybren y gogledd ddwyrain, am 2yb ar ddechrau’r mis ac 1yb ar y diwedd. Edrychwch am y lleuad ar ei chil yn mynd heibio’n agos at y blaned Gwener ar y 17fed o Orfennaf.
Fe fydd Lleuad Lawn ar y 5ed o Orffennaf a’r Lleuad Newydd ar yr 20fed o Orffennaf. Adwaenir y Lleuad Lawn hon fel Lleuad Fwch, y cyfnod pan maer heiddiau yn dechrau tyfu o ben y ceirw gwryw.
Cytser y Mis: Ercwlff
Mae cytser Ercwlff mewn man da ym mis Gorffennaf, ac yn darlunio dyn yn penlinio â phastwn uwch ei ben. Edrychwch am faen clo sêr y cytser a cheisiwch weld breichiau a choesau y cymeriad lliwgar hwn sydd wedi ymddangos mewn nifer o chwedlau. Roedd y Swmeriad yn cysylltu Ercwlff â’r arwr Gilgamesh, ac ym Mytholeg Roegaidd, fe wnaeth lwyddo i gwblhau nifer o gwestau a alwyd yn ‘Twelve labours of Hercules’, a osodwyd gan y Brenin Eurystheus o Tiryns, cymeriad yn Heracleidae, sef drama gan Euripides. Roedd cwestau amlwg yn cynnwys gorchfygu’r bwystfil aml ben o’r enw Hydra a Cancer y cranc. Rhestrwyd Ercwlff gan y seryddwr Groegaidd o’r Ail Ganrif Ptolemy.
Ceir dau gwrthrych yn ddwfn yn yr wybren sef y Clwstwr Mawr yn Ercwlff (M13) a M92, y ddau yn glystyrau crwn sy 22,180 a 26,740 o flynyddoedd golau i ffwrdd. Mae M13 yn cynnwys 3000,000 o sêr a M92, tua 330,000.
Er bod M13 yn fwy llachar, ac yn cynnwys ychydig llai o sêr na’i gymydog, mae ganddo ddwbl y radiws ac mae’n fwy agos atom ni. Fe allwch weld y ddau glwstwr yma gydag ysbienddrych, sy’n ymddangos fel gwrthrychau aneglur, a thrwy delesgop, fe fydd y sêr yn dechrau cydrannu.