Ymwelwyr ar Fysiau Moethus
Rydym yn croesawu nifer helaeth o ymwelwyr ar fysiau moethus trwy gydol y flwyddyn ac fe’ch cynghorwn i drefnu ymlaen llaw i sicrhau y cewch y gorau o’ch ymweliad. Gallwn e-bostio Pecyn Gweithredwr Bysiau manwl atoch. Rydym hefyd yn cynnig teithiau tywys o’r Ystâd gyda Cheidwad, gan gynnwys hyd yn oed ymweliad tu mewn i argae Pen y Garreg, cysylltwch â ni er mwyn trafod eich taith.
Nodwch bod rhaid i fysiau moethus ddilyn taith glocwedd o gwmpas y cwm oherwydd natur cul y ffordd! Cysylltwch â’n Tîm o Geidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr am ragor o wybodaeth am yr Ystâd. Rydym hefyd yn darparu lluniaeth am ddim ar gyfer gyrrwyr y bysiau moethus a’u Tywyswyr Taith.