Cyfarwyddiadau a pharcio

Home » Ymwelwch » Cyfarwyddiadau a pharcio

Cyfarwyddiadau

Ceir cludiant cyhoeddus da o Raeadr. Dyma ddolennau ddefnyddiol wrth i chi gynllunio’ch taith:

Traveline Cymru

I gwblhau’ch taith i Gwm Elan gallwch ddefnyddio gwasanaeth Tacsi S.P. Cars (Simon Price) – ffoniwch 01597 810666 gan roi 2 awr o rybudd ymlaen llaw. Mae’r gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae consesiynau ar gael.

Os ydych yn gyrru o Raeadr, dilynwch y B4518 i’r gorllewin allan o’r dref.  Mae arwydd i’r chwith i’r Ganolfan Ymwelwyr ar ôl tair milltir.

I ddefnyddwyr Sat Nav nodwch fod y côd post LD6 5HP yn mynd â chi bron i’r Ganolfan Ymwelwyr …. ond ar ôl i chi droi o’r B4518 anwybyddwch unrhyw gyngor i groesi’r bont haearn dros yr afon; gyrrwch yn lle dros y grid gwartheg ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr o’ch blaen. Os ydych chi’n teithio o’r Gogledd i Raeadr ar yr A470 bydd eich Sat Nav yn ceisio’ch anfon trwy bentref Llanwrthwl; nid yw hwn yn addas ar gyfer bysys moethus neu gerbydau mwy gan ei fod yn mynd â chi drwy lonydd gwledig a chul. Am daith fwy uniongyrchol ewch i Raeadr a throwch i’r chwith wrth y Cloc Coffa.

Parcio

Cost parcio car yn Cwm Elan yw £3.00 y diwrnod.

Rydyn ni wedi cyflwyno rheolaeth newydd ar barcio yng Nghwm Elan sy’n cael ei fonitro’n barhaus (ar ffurf System Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig) ynghyd ag opsiynau talu newydd. Bydd hyn yn creu profiad mwy hwylus, gan roi mwy o amser i chi fwynhau prydferthwch Cwm Elan.

Gall ymwelwyr dalu ag arian parod neu â cherdyn yn y ganolfan ymwelwyr, neu dalu â cherdyn credyd/debyd gan ddefnyddio’r peiriannau. Gallwch drefnu lle parcio ymlaen llaw a thalu am barcio trwy ddyfais symudol hefyd gan ddefnyddio ap NexusPay-GroupNexus (y gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio’r codau QR ar y safle).

Gall ymwelwyr rheolaidd brynu tocyn parcio blynyddol ar gyfer un cerbyd am £35.00. Bydd hyn yn gadael i chi barcio’r cerbyd hwnnw ar y safle mor aml ag y mynnwch chi am flwyddyn gron.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn darparu cyfleusterau bendigedig i ymwelwyr eu mwynhau. Er mwyn i hyn barhau, mae angen i ni godi tâl am barcio yn ein hatyniadau ymwelwyr. Byddwn ni’n defnyddio’r incwm i wasanaethu’r safleoedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal i safonau rhagorol, ac i ddarparu amgylchedd glân a thaclus.