Ty Penbont
Mae Tŷ Penbont yn barod i’ch croesawu.
Wedi’i leoli yng nghanol Ystâd Cwm Elan, cyfle i fwynhau bwyd blasus a diod gyda golygfeydd godidog o’n hystafell haul olau.
Amser agor yr Ystafell De yw:
Oriau’r haf: 10yb - 6yp
Oriau’r gaeaf: 10yb - 4.30yp
Mae te prynhawn ar gael bob dydd am £14.50 y person
(bydd angen archebu lle ymlaen llaw).
Ar gyfer achlysur arbennig, neu am ychydig o faldod mae Prosecco wrth y gwydryn ar gael.
Rydym hefyd yn cynnig:
Llety En-suite Gwely a Brecwast
Ystafell gyfarfod ar log, gyda choffi, cinio bwffet a phecyn ar gyfer diwrnod cyfan
Partïon Preifat
Mae croeso i gŵn.
Am ragor o fanylion ac i archebu llety: www.penbonthouse.co.uk
Am ymholiadau ac i archebu lle yn yr ystafell de ebostiwch: info@penbonthouse.co.uk neu ffoniwch 01597 811515