Gyrru
- Gellir gweld ardal eang o’r Ystâd o’ch cerbyd.
- Mae’r ffordd yn cynnig golygfeydd da o’r argaeau a’r cronfeydd dŵr ac yn cystylltu â ffordd fynydd i Aberystwyth.
- Mae taflen sy’n cynnwys map ar gael o’r ddesg wybodaeth.
- Mae maes parcio mawr ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr a nifer o rai llai mewn gwahanol leoliadau o gwmpas y cwm.
- Clowch eich cerbyd pan fyddwch yn ei adael, ac ewch â phethau gwerthfawr gyda chi.
Gyrrwyr bysiau– dilynwch y ffordd glocwedd o gwmpas y cwm, gan fod y ffordd yn gul iawn mewn mannau. Gofynwch am becyn rhad ac am ddim ar gyfer gyrrwyr bysiau o’r Ganolfan Ymwelwyr am fwy o wybodaeth am yr Ystâd.