Ffermio ar Ystâd Elan

Ar hyn o bryd mae’r Ystâd wedi’i rannu yn 36 o ddaliadau amaethyddol, sy’n ymestyn yn ei gyfanswm i tua 17,500 hectar (43,000 erw).  Mae tenantiaid mewn 28 o’r daliadau a ffermir 8 yn uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan.  Mae’r daliad mwyaf dros 2,800 hectar (7,000 erw) tra mae’r lleiaf ond rhyw 18 hectar (44 erw).  Mae 24 tŷ fferm/tyddyn a’r gweddill yn dai gosod ar dir moel.

Nodweddion y ffermydd yw ardaloedd eang o fryniau agored ac ychydig o dir wedi’i ffensio a elwir yn ‘in bye’. 

Gwaharddwyd ffensio’r tir agored dan Adran 53 o Ddeddf Dŵr Corfforaeth Birmingham 1892, a rhoddodd i’r cyhoedd ‘y fraint ar bob adeg i fwynhau’r awyr, ymarfer corff ac adloniant’ ar dir y bryniau agored.  Hwn, i bob pwrpas, oedd yr hawl i grwydro dros gan mlynedd cyn ei gyflwyno drwy’r Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.

Mae ffermio defaid wedi bod yn brif weithgaredd amaethyddol ers ei gyflwyno rhyw 800 mlynedd yn ôl gan y Mynachod Sistersaidd.  Yn y cyfnod ‘diweddaraf’, ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan brynwyd yr Ystâd gan Gyngor Dinas Birmingham, mae magu defaid ar fryniau Cwm Elan a Dyffryn Claerwen wedi cael ei dderbyn i fod yn gydnaws â chasglu’r dŵr ar gyfer cyflenwi’r cyhoedd.

Ers diwedd yr 1980au mae arferion ffermio wedi cael eu dylanwadu gan olyniaeth o gynlluniau amaeth-amgylchedd sydd ar gael.  Dechreuwyd gyda Chynllun Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria, a dilynwyd gan Tir Gofal, ac yn fwya diweddar Cynllun Glastir.  Mae’r cynlluniau yma yn talu’r ffermwyr yn ariannol am fabwysiadu arferion ffermio sy’n llai buddiol ond yn dda i’r amgylchedd.

Click on an image to zoom

Mae’r gwaharddiad ar godi ffensys rhwng y gwahanol ffermydd wedi golygu bod system ffermio o breiddiau sefydlog wedi datblygu, lle mae’r defaid yn reddfol yn cadw at ran arbennig o fryn.  Dynodi’r y perchennog yn draddodiadol gan farc ar y glust sy’n unigol i man eu geni.  Mae marciau clust o wahanol siâp, enwau gwahanol ac yn cynnwys:  marc ‘spittle’, crop, twll, rhic cliced, rhic â thri toriad, marc ‘pikel, rhic bawd, hollt ayyb.  Yn fwy diweddar mae gofyn gan y Gymuned Ewropeaidd i dagio’r defaid yn electronig gyda rhif y praidd a rhif unigol, ond y marc clust traddodiadol sy’n parhau i fod y ffordd eithaf o adnabyddiaeth.  Mae tagiau o wahanol lliw yn nodi oedran y ddafad ond eto y ffordd draddodiadol o gyfrif y dannedd sy’n tycio. 

Ar hyn o bryd mae’n bosib bod 20,000 o ddefaid ar Ystâd Elan, sy’n llawer llai na lefelau’r stocyn y gorffennol sydd wedi bod cynifer â 50,000.  Mae’r defaid yn frîd Mynydd Cymreig sy’n fach, gwydn ac yn gallu goddef amodau llym y mynydd.  Yn draddodiadol, dim ond yr hesbinod (benywod yn y flwyddyn gyntaf) a fyddai wedi cael eu danfon i ffwrdd dros y gaeaf, ond gyda chyflwyniad y cynlluniau amaeth-amgylchedd mae cyfran o ddefaid sy’n cenhedlu yn cael eu danfon i ffwrdd dros y gaeaf mewn ymdrech i warchod y llystyfiant bregus.

Er fod y tiryn cael ei bori’n bennaf gan ddefaid mae nifer cyfyngedig o wartheg a merlod yn bresennol.  Caiff nifer y gwartheg eu rheoli er mwyn sicrhau na fydd cyfaddawu ar ansawdd y dŵr.  Fodd bynnag, o berspectif amgylcheddol, gwelir bod pori cymysg yn ddymunol dros ben ac felly mae’r potensial o gynyddu nifer y gwartheg yn cael ei ystyried.

 

Mewn blwyddyn arferol ar yr Ystâd digwydd yr wyna ym mis Ebrill, marcio clust ym mis Mai/Mehefin, cneifio yn ystod mis Gorffennaf, casglu’r defaid yn yr hydref ar gyfer eu gwerthu a’u hanfon i ffwrdd dros y gaeaf ym mis Medi/Hydref, a’r cylchrediad yn ailgychwyn ym mis Tachwedd gyda’r hyrddiau yn paru â’r defaid.   Mae’r arfer traddodiadol o drochi’r defaid, unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, er mwyn rheoli’r clêr chwythu a pharasitiaid eraillbron wedi mynd yn ofer, o blaid rheoli gan gyfuniad o moddion tywallt a chwistrelliadau.  Gan ddibynnu ar gynhwysyn penodol mewn golchion defaid,  roedd naill ai’n niweidiol i iechyd dynol neu i’r amgylchedd dyfrol.

Mae casglu’r defaid yn parhau i fod yn weithgaredd cymunedol sy’n cael ei ymgymryd ar sail ddwyochrog gyda ffermwyr cyfagos.  Defnyddir merlod weithiau i fugeilio, ond yn drist efallai, maent wedi eu disodli gan feiciau cwad. Ni ellir byth disoli’r cŵn defaid sy’n amhrisiadwy wrth gasglu ar eangderau mawr y bryniau agored.

Mae economeg ffermio ar Ystâd Elan, a’r ucheldiroedd yn gyffredinol, wedi bod yn ddibynnol yn gyfan gwbl ar gefnogaeth ariannol oddi wrth Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.  Gyda newidiadau Brexit ar ddyfod,  rydym y aros am benderfyniadau ar ffermio’r dyfodol a lle ffermio mewn darparu buddion amgylcheddol a chymdeithasol.  Am dros gan mlynedd mae ffermio defaid a chyflenwi dŵr i’r cyhoedd wedi cydfodoli’n hapus ar yr Ystâd, ac mae’r gweithgareddau hyn wedi cynnal y tirwedd arbennig a gwerth cadwraeth natur ar yr ardal, mewn cyfnod pan mae ehangder mawr yr ucheldiroedd wedi cael eu coedwigo neu wedi eu diwydiannu gan ffermwydd gwynt.