Cyfraniad Cwm Elan yn y ddau ryfel

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Y tro cyntaf i’r Fyddin Brydeinig ddod o hyd i  fryniau Cwmdauddwr oedd ym mis Medi 1903 pan gyrhaeddodd 13 o drenau yng nghorsaf Rhaeadr o Swindon yn cludo 434 o ddynion, 138 o geffylau a 6 o ddrylliau mawr y Magnelwyr Brenhinol.  Pencadlys y swyddogion oedd gwesty’r Lion Royal, Rhaeadr, tra roedd y rhengoedd eraill yn lletya mewn gwersyll pebyll ar gaeau ger Nannerth Fawr, Cwmdauddwr.  Roedd y ceffylau yn tynnu’r drylliau i frig Penrhiwen, tair milltir tu allan i Raeadr ar ffordd y mynydd i Aberystwyth.  Penderfynodd Swyddfa’r Rhyfel i arbrofi maes tanio newydd gyda golwg ar ddisodli’r meysydd tanio yn Lydd, a ddefnyddiwyd ar y pryd i danio ordnans trwm.  I ddechrau, dim ond dryllau y ‘Heavy Battery’ a anfonwyd.  Parhaodd yr ymarfer hyn am bythnefnos a bu rhaid i ffermdai Hirnant, Glanhirin a Throedrhiwdrain gael eu gwagio.

Erbyn 1908 roedd rhai o’r drylliau a oedd yn tanio ar y meysydd yn pwyso hyd at bum tunnell ac yn tanio sieliau yn pwyso hyd at 2801bs dros bellter o 5000 llath.  Eu pellter eithaf oedd 11,500 llath.

Ym mis Awst 1908 cyrhaeddodd nifer o swyddogion o Ysgol Magnelwyr, Shoeburyness, Raeadr ar gyfer arddangosfa saethu â magnelau chwe modfedd.  Taniwyd sieliau yn pwyso 280lb a gellid dilyn hediad rhain o’r safn dryll tan y ffrwydriad.  Ar y pumed o’r mis roedd tri bateri yn weithredolar y cyd, gan danio gyda drylliau caliber mawr 9.45, taniwyd 120 rownd o bellteroedd yn amrywio o 2,500 i 5,000 llath.

Yn ystod y cyfnod yma saethwyd y magnelau cyntaf allan o awyren yn yr ardal hon.

Ym 1910 cafwyd ymarfer saethu drylliau o hirbell (6 milltir)  gyda sieliau sêr yn y nos gan ddefnyddio magnelau caliber 6” a 9.45”.  Yn ystod y dydd taniwyd pellter o 9 milltir gan ddefnyddio sieliau 120lbs i’r drylliau 6” a 280lbs i’r drylliau 9.45.  Mae’n bosib gweld y craterau a wnaed gan y sieliau ar Esgair Cywion ac Esgair Crawnllwyn.  Gellir darganfod sirapnel hefyd o’r tanio cynnar hwn.

Ar ôl cyhoeddi rhyfel ar 4ydd o Awst 1914 tynnwyd y minteioedd a oedd yn hyfforddi yng Nghwm Elan a’u hanfon i Ffrainc.

Ar ôl y rhyfel codwyd cofeb i’r Cwnstabliaid Arbennig o Birmingham a oedd wedi diogelu’r gweithfeydd trin o fis Gorffennaf 1917 hyd fis Tachwedd 1918, gydag arian a godwyd gan danysgrifiadau. Adeiladwyd pistyll dŵr a chafn dŵr yn Abernant, rhyw 100 llath uchben argae Caban.

 

Yr Ail Ryfel Byd

O’r 2il o Fedi 1939 daeth gorchymyn o’r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn gwahardd defnyddio ffordd Cwm Elan rhwng Brick House a Phont ar Elan gan unrhyw fath o gerbydau.  Rhoddwyd gwarchodwyr ar ddwy ochr Cwm Elan a chaniatâd i’r trigolion, gweithwyr ayyb.  Gorchuddiwyd Tŵr y Foel â rhwydau, ei amgylchynu â weiren bigog a gosodwyd drysau dur dros y fynedfa.  Adeiladwyd tŷ bloc allan o bridd a cherrig ger y tŵr.  Atgyfnerthwyd y tŷ sialc, ger y gwelyau ffilter gyda blociau concrit mawr er mwyn creu pwyntiau cadarn.

Erbyn mis Awst 1939 roedd cynllun ar waith i rwystro’r ffordd gyfan rhwng Brick House a Phont ar Elan, a chau’r ffordd awr cyn machlud (ddim yn hwyrach na 8yh) a 8yb. Gosodwyd gwarchodwr, a oedd yn gyfarwydd â thrigolion yr ardal, wrth y ddau glwyd yn ystod yr oriau hyn er mwyn gadael y traffig lleol trwodd. Gosodwyd gwylwyr mewn mannau strategol yn y cwm.

Ym mis Medi 1940 darparwyd lloches cyrch awyr annhoradwy ar gyfer y plant a oedd yn mynychu Ysgol Cwm Elan.

Fel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu meddiant gorfodol ar wahanfa ddŵr Cwm Elan gan y fyddin ar gyfer ymarfer rhyfel a magnelaeth.  Ar 16eg o Orffennaf 1942 symudwyd tenantiaid Glanhirin, Nantybeddau a Chlaerwen o’u tyddynnod gyda’u heiddo yn unol â chytundeb Pwyllgor Ardaloedd Hyfforddi Arbennig Swyddfa’r Rhyfel a Chorfforaeth Birmingham.  Gorchmynwyd y tenantiaid fferm i orffen cneifio’u defaid cyn i’r ymgyrchoedd militaraidd ddechrau ar 1af o Awst 1942.

Roedd y Gorfforaeth hefyd yn pryderu am awyrennau yn ceisio glanio ar y cronfeydd dŵr, ac ymosodiadau ar y sefydliadau o’r dŵr, felly adeiladwyd system o rwystrau a rafftiau a’u gosod ar gronfa ddŵr Caban.  Gosodwyd rhwystrau o gwmpas Tŵr y Foel hefyd.  Gorchuddiwyd y falfiau llifddor gwan ar waelod y tŵr mewn graean a’u gorchuddio â llawr concrit ffug i osgoi niwed gan ffrwydron, a ellid cael eu gollwng i lawr y siafft.

Ym mis Hydref 1940 darparwyd cychod modur gan y Forlys a’u gosod ar nifer o’r cronfeydd dŵr.  Roedd criw o’r Llynges Frenhinol yn gofalu am y cychod gyda chriw â gynnau peiriant o’r Gwarchodlu Cartref lleol.  Adeiladwyd llithrfeydd ar gyfer lansio’r cychod modur.  Peidiodd y cynllun hwn ar ôl mis a chymerodd moduron arfog at y dyletswyddau.

Lleolwyd bateri AA a dau chwilolau ar ochr Sir Frycheiniog ger argae Caban, a dau bateri AA a chwiloleuadau ar ochr Sir Faesyfed ger cornel Carreg Ddu, tynnwyd rhain yn ôl ym 1943. Mae’r pillbocs concrit ym maes parcio’r Foel dal yn y fan a’r lle.  Mae pedwar pillbocs i gyd, tri ar y bryn o amgylch maes parcio’r Foel ac roedd un lle mae maes parcio Nantgwyllt heddiw.  Mae mynediad a dehongliad o’r pillbocsys yma yn cael eu cynnwys yng nghynllun Cysylltiadau Elan.

Yng nghyfnod cynnar adeiladu’r argaeau yng Nghwm Elan codwyd argae gwaith maen bach ar draws nant Nant y Gor, gan greu cronfa ddŵr 1,000,000 o alwyni ar y llethrau creigiog i fyny’r afon o Gaban Coch, gan ddarparu dŵr i bentref y labrwyr.  Ar ôl gorffen yr argaeau chwalwyd pentref y labrwyr ac chafwyd dŵr o’r cynllun newydd i’r pentref cerrig newydd.  Fodd bynnaf, arhosodd Nant y Gro yn gyfan, ar roedd yn faes profi pwysig ar gyfer arbrofion yn ymwneud ag amcanion militaraidd i dorri nifer o gyfresi o argaeau mawr yn Nyffryn Ruhr, yr Almaen, er mwyn atal cynhyrchu arfogaethau yn ardal ddiwydiannol y Ruhr.

Ym 1942 cynhaliodd Swyddfa’r Rhyfel profion cyfrinachol ar argae Nant y Gro gyda Barnes Wallis, peiriannydd eronomig.  Roedd pellenigrwydd yr argae o fantais ar gyfer yr arbrofion tra chyfrinachol, er mwyn eu cynnal o’r golwg. Crogwyd ffrwydryn o sgaffaldiau i’r dyfnder optimwm hanner ffordd ar hyd y argae 180 troedfedd a’i danio o bellter.  Roedd llwyddiant yr arbrawf wedi cadarhau y byddai angen cael dyfais ffrwydrol tanddwr mewn cysylltiad uniongyrchol â’r mur er mwyn dinistrio’r argae.  Canlyniad rhain ynghyd ag arbrofion cyfrinachol eraill oedd y ‘bouncing bomb’ gan Barnes Wallis a’r ymosodiad enwog gan ‘633 squadron’.  Gellir gweld peth o olion argae Nant y Gro heddiw, ac mae’n bosib cerdded i’r safle o’r Ganolfan Ymwelwyr.

 

Gyda chydnabyddiaeth i Brian Lawrence, Rhaeadr am lawer o’r wybodaeth hyn.