Dyffrynoedd Coll

Tŷ Cwm Elan – “Tŷ’r Bardd Shelley”

Roedd cymoedd boddedig afonydd Elan a’r Claerwen yn cynnwys plasdai mawr hanesyddol a oedd yn gysylltiedig â’r bardd Percy Bysshe Shelley.  Prynwyd ystâd Cwm Elan, a oedd yn cynnwys plasdy Cwm Elan, ym 1792 gan Thomas Grove.  Disgrifwyd pryd hynny fel:

10,000 o erwau diwerth, a thrawsnewidir ganddo ibaradwys.”

Nodwyd mewn llawlyfr taith lleol a gyhoeddwyd ym 1892, cyn dechrau ar waith yr argaeau:

“ .... prynwyd Ystâd Cwm Elan ar ddechrau’r ganrif ganMr Grove, gŵr bonheddig o Wiltshire, ac mae ei chyflwrcyfoethog a phryderth yn dyst i’w ofal warchodol ef.”

Ewythr i Shelley oedd y gŵr bonheddig yma o Wiltshire, a daeth y bardd, a arhosodd dwy waith yng Nghwm Elan, yn hoff iawn o dirwedd arw a mawreddog yr ardal leol.

Roed tŷ Cwm Elan yn sefyll ar lan dde Afon Elan, gyda lawnt dwt yn mynd i lawr at yr afon.  Yn ei lyfr “Lost Houses of Wales”, disgrifiodd Thomas Lloyd y tŷ fel un “heb fawr o rwysg, ond ei ymddangosiad Alpaidd, aruchel yn gweddu’n dda i’w leoliad.”

 

Tŷ Nantgwyllt

Roedd plasty mawr Nantgwyllt, un o ddau dŷ hanesyddol a gollwyd i gynllun argaeau Elan, yng nghwm is Afon Claerwen, yn agos at y cydlif ag Afon Elan.  Fel Cwm Elan, y tŷ mawr arall yn y cwm nesaf, roedd ganddo hefyd gysylltiad â Shelley, a oedd yn daer eisiau ei sicrhau ym 1812 fel cartref iddo ef a’i wraig newydd ifanc Harriet.

 Am ganrifoedd lawer, bu Nantgwyllt yn gartref teuluol hynafol i deulu Lewis Lloyd.  Nodwyd mai un o nodweddion trawiadol mewnol y tŷ oedd grisiau mawreddog a llydan iawn o hen dderw.

Heddiw mae’r fro eang yn y dwyrain yn gorwedd o dan ehangder mawr argae Caban Coch, sy’n cynnwys cymoedd is y ddwy afon gan orchuddio safle Tŷ Nantgwyllt.

Nodwyd mewn llawlyfr teithio a gyhoeddwyd ym 1892 bod “Plasty Nantgwyllt yn ffinio’r Claerwen, sydd, efallai, yn fwy prydferth nag Elan.  Ar y lawnt donnog rhwng y tŷ a’r nant ceir llarwydd coeth nodedig.”

Rhedodd y nant a gyfeirir ato yn y dyfyniad yma heibio i ochr ddwyreiniol y tŷ ac i lawr i Afon Claerwen islaw.  Heddiw mae’r ffordd sy’n arwain i fyny’r cwm i argae Claerwen o 1952 yn croesi nant Nantgwyllt dros bont fach, sy’n atgoffa ymwelwyr o safle’r tŷ colledig o dan y dŵr.

 

Atgofion

Cofnododd Hetty Price, merch i ffermwr a oedd yn byw yn Nyffryn Claerwen yn yr 1880au, rhai o’i hatgofion am y dyffrynoedd coll pan oedd hi yn ei saithdegau.  Roedd fferm ei thad ar ochr arall Afon Claerwen gyferbyn â’r “Plasdy mawreddog Nantgwyllt ble roedd y sgweier yn byw.”

Cawson ni ein tretio bob Nadolig, coeden Nadolig yn y parlwr yn Nantgwyllt, a’r merched ifanc yn gweini arnom.  Roeddem yn edrych ymlaen at hyn am fisoedd.”

Roedd yn hel atgofion am yr hen ysgol a fynychwyd gan blant y ddau gwm:

Roedd yr ysgol yn braf gyda’r tŷ ysgol ynghlwm, dan ofal Miss Gertrude Lewis Lloyd, chwaer y sgweier.  Roedd hi bob amser yn gwneud pethau da, yn rhoi dillad i’r plant tlodaf, a defnydd ar gyfer gwneud ffrogiau i’r merched”

Roedd hi’n cofio am yr eglwys fach a wasanaethodd y gymuned:

Yn is i lawr y ffordd o’r ysgol roedd eglwys Nantgwyllt ble roedd y rhan fwyaf o’r plant a’u rhieni o’r ddau gwm yn mynd i addoli bob prynhawn dydd Sul.  Roedd yr offeiriad yn dod yr holl ffordd o Raeadr ar gefn ei geffyl. Roedd ganddo farf hir, ac roeddwn ni’r plant yn llawn parchedig ofn ohono, a hefyd bonedd Nantgywllt.”

 

Ysgrifennodd Hetty Price am y Felin-Gro yn Nantgwyllt:

“Ger yr eglwys roedd y Felin, olwyn hen ffasiwn hyfryd a weithiwyd gan y nant, i lifio’r coed o’r Ystâd, a hefyd i falu’r ceirch a’r barlys.  Roedd y rhan fwyaf o’r ffermwyr yn mynd a’u grawn yno i’w falu yn yr hydref.  Roedd yno hefyd odyn er mwyn sychu’r grawn.  Gwnaethpwyd hyn yn ystod y nos, ac ymgasglai’r rhan fwyaf o’r dynion ifanc i gael amser da o gwmpas y tân mawr a losgai trwy’r nos.”

Mae Hetty Price hefyd yn sôn am y siop fach, a welir wrth ochr y ffordd ar hen gerdyn post sy’n dangos golygfa o Nantgwyllt:

“Lawr y ffordd roedd Siop Seth Thomas ble gwerthwyd y rhan fwyaf o bethau, blawd, nwyddau a photeli o losin, ond peth prin iawn oedd cael ceiniog i’w prynu.”

Mae hefyd yn disgrifio capel y Bedyddwyr yng Nghwm Elan, sydd wedi’i leoli o dan canol yr argae suddedig a thraphont Garreg Ddu ar y ffordd i lawr yr afon:

“Roedd cerrig camu i groesi’r afon i gapel bach y Bedyddwyr, ble roeddwn yn gweld y troëdigion yn cael eu bedyddio yn yr afon.  Cafodd hyn argraff mawr arnaf fel plentyn.

.... Wrth dalcen y Capel roedd bwthyn bach, ble roedd hen ddyn annwyl yn byw ar ei ben ei hun.  Roedd yn arfer arwain y canu yn y capel, ac roedd fy chwaer a minnau’n mwynhau y nosweithiau yno!  Oh!  Yr atgofion i gyd.  Mae’n rhy drist i feddwl amdanynt.”