Darganfod Elan
Mae nifer o resymau dros ymweld â Chwm Elan. Yn rhan o fynyddoedd garw y Cambria, mae Cwm Elan yn ardal hyfryd sydd heb ei ddifetha, a’r argaeau a’r cronfeydd dŵr yn ei wneud yn fwy hudolus gan greu tirwedd byw a syfrdanol. Mae’r golygfeydd yn odidog ac nid ydych byth ymhell oddi wrth bethau diddorol.
Cliciwch yma ar gyfer ffilm fer a greuwyd gan Fenter Mynyddoedd Cambria sy’n amlygu prydferthwch Mynyddoedd Cambria gan gynnwys Cwm Elan.
Mae Elan yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt, un o safleoedd pwysica Cymru gyda rywbeth i godi’ch calon trwy gydol y flwyddyn. Fe fyddwch yn rhyfeddu ar fentrau peirianneg y Fictoriaid wrth iddynt godi’r argaeau a’r rheilffyrdd a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adeiladu.
Mae llawer iawn i’w ddarganfod ac mae ein tîm o Geidwaid ar gael i gynnig mwy o wybodaeth.