
Ffermdy Penglaneinon
Yn fyr
- Cysgu 6
- Ger cronfa ddŵr Caban Coch
- Wedi’i osod â chyfleusterau modern
- Yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr, cerdded a gwylio adar
- Addas i gŵn
- Derbyniad ffôn symudol annibynadwy
Ffermdy traddodiadol hunan-arlwyol yw Ffermdy Penglaneinon wedi ei leoli ar fferm fynydd yng Nghwm Claerwen. Adeiladwyd y ffermdy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae wedi ei leoli yng nghanol coetiroedd, tiroedd pori a dolydd gwair traddodiadol. Ceir mynediad iddo i fyny trac serth, tua 0.4 milltir oddi ar y brif ffordd i Gwm Claerwen. Lleolir Penglaneinon ond 6.5 milltir o dref Rhaeadr lle y ceir cyfleusterau megis siopau, caffes, swyddfa bost, amgueddfa a chanolfan hamdden gyda phwll nofio.
Mae’r tŷ yn glyd a chynnes gyda gwres canolog ynghyd â thân llosgi coed yn yr ystafell fyw gyda darpariaeth o goed tân a boncyffion. Mae ystafell wely i ddau ac ystafell gawod ar y llawr waelod, er bod grisiau sengl ar hyd y llawr waelod.
Fe’i leolir mewn safle diarffordd yn edrych dros gronfa ddŵr Caban Coch, a Phenglaneinon yw’r unig dŷ i’w weld. Mae’n ddihangfa perffaith ar gyfer seibiant tawel yn y wlad, cerdded, gwylio adar neu syllu ar y sêr.
Llety
Cyfleusterau
Bath
Shower
Woodburner
Open Fire
Washing Machine
Tumble Dryer
Fridge
Freezer
TV & Freeview Channels
DVD
Payphone
Heating included
Electricity (via a generator) included
Linen & Towels provided
Logs & Kindling included
Picnic Area
Outdoor BBQ
Enclosed Garden
Travel Cot & High Chair
lleoliad

Archebwch Nawr
I archebu defnyddiwch y dewisydd mis uwchben y calendr er mwyn dewis eich mis dewisol. Gosodir yr adeilad o ddydd Sadwrn hyd ddydd Sadwrn felly mae’r rhifau amlwg yn dynodi pryd y gall y cyfnod llogi ddechrau. Ni ellir bwcio rhan o’r wythnos/Arhosiad byr ar-lein ond os oes ymholiadau ffoniwch 01597 810449 neu ebostiwch info@elanvalleytrust.org. Os oes unrhyw anhawster tra’n bwcio ffoniwch 01597 810449.