Rhywogaethau Prin Cwm Elan

Mae gan Gwm Elan amryw rhywogaeth a chynefin prin. Er mwyn sicrhau eu parhad a’u ffyniant yn y dyfodol, mae’n bwysig i wybod eu lleoliad ac unrhyw newidiadau  all fod yn eu nifer gydag amser. Gweithreda Cysylltiadau Elan er mwyn ymateb i’r gofynion hyn.

Bydd y cynllun hwn yn cyfuno sgiliau y cadwriaethwyr natur proffesiynol a’r gwirfoddolwyr cymwys i chwilio am rywogaethau prin, cofnodi newidiadau mewn bioamrywiaeth ac ymgymryd â gweithgarwch i gynnal rhywogaethau a chynefinoedd pwysig mewn cydweithrediad â’r cynlluniau treftadaeth naturiol eraill.

Dros y bum mlynedd nesaf, canolbwyntir gweithgareddau ar agweddau rheolaeth neu arweinyddiaeth ar sail gwybodaeth gan ddefnyddio cofnodion blaenorol, a gwybodaeth lleol ac arbenigol.   Sefydla’r gwaith yma gwaelodlinau, monitro newidiadau a bwydo i mewn i werthusiad terfynol y prosiect.

Fe fydd y prosiect yn:

  • Monitro ardaloedd yn rheolaidd er mwyn gwerthuso prosiectau treftadaeth naturiol eraill o fewn cynllun Cysylltiadau Elan

  • Diweddaru Cynllun Gweithredu Bioamrwyiol Elan

  • Creu cofnodion newydd ar gyfer y Ganolfan Gofnodion lleol

  • Galluogi gweithgareddau gwirfoddoli i gefnogi rhywogaethau pwysig a chynefinoedd

  • Gweld 100 o wirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau monitro bioamrywiol a gweithredoedd cadwraeth naturiol

Lawrlwythwch manylion y prosiect.