Gwella Ein Coetiroedd

Mae Cwm Elan yn gartref i rai o’r coedlannau Derw Iwerydd a llydanddail pwysicaf yn Ewrop. Maent yn cynnal magwriaeth adar y goedwig , inferterbratau saprocsilig, is-blanhigion yn enwedig cennau, sydd, yng Nghwm Elan,  o bwysigrwydd fyd-eang o ganlyniad i’w hamrywiaeth a’u prinder. Ffurfia’r coetiroedd hyn craidd Ardal o Gadwriaeth Arbennig, yngyd â  Lleoliadau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’n bwysig i’r bywyd gwyllt allweddol sy’n ffynnu yma, ac i werth diwylliannol a thirwedd y coedtiroedd yma a’u coed hynafol, i adfer y cyflwr cywir i’r coedtiroedd.

Mae’r bwriad dros y bum mlynedd nesaf yn cynnwys y canlynol:

  • Gwella cyflwr ecolegol 109 hectar o goedtir ar gyfer y bywyd gwyllt â blaenoriaeth ganfyddadwy

  • Bydd y gwaith corfforol a gyflawnwyd wedi gwella cyflwr ecolegol cynefin trosiad llydanddail mewn ardaloedd a dargedwyd:

  • Clirio rhododendronau oddi ar 42 hectar o dir;

  • Dod â 81 hectar o goedtir o dan arfer tir pori cynaliadwy

  • Cwblhau teneuo 73 hectar er mwyn gwella isdyfiant ecolegol

  • Rheoli 9 hectar o redyn

  • Fe fydd coedtir Ardal Gadwraeth Arbennig yn fwy grymus oherwydd ehangiad cynefin y coedtir derwen ddi-goes gan gynnwys plannu y derw brodorol ar 8 hectar

  • Cynllun rheoli ar gyfer gosod tirweddau coedtir

  • Rheolaeth ar gyfer y 25 mlynedd nesaf, gyda gweledigaeth ar gyfer 200 mlynedd

  • Fe fydd pobl wedi gwrifoddoli eu hamser, dysgu sgiliau newydd ac wedi elwa ar fod allan yn amgylchedd naturiol Cwm Elan

Lawrlwythwch manylion y prosiect.