Cyfarwyddiadau
Lleolir Cwm Elan ym Mhowys yng nghanolbarth Cymru, dwy awr o Birmingham a Chaerdydd. Mae’n daith hawdd o dref Rhaeadr gerllaw.
Ceir cludiant cyhoeddus da o Raeadr. Dyma ddolennau ddefnyddiol wrth i chi gynllunio’ch taith:
I gwblhau’ch taith i Gwm Elan gallwch ddefnyddio gwasanaeth Tacsi S.P. Cars (Simon Price) – ffoniwch 01597 810666 gan roi 2 awr o rybudd ymlaen llaw. Mae’r gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae consesiynau ar gael.
Os ydych yn gyrru o Raeadr, dilynwch y B4518 i’r gorllewin allan o’r dref. Mae arwydd i’r chwith i’r Ganolfan Ymwelwyr ar ôl tair milltir.
I ddefnyddwyr Sat Nav nodwch fod y côd post LD6 5HP yn mynd â chi bron i’r Ganolfan Ymwelwyr .... ond ar ôl i chi droi o’r B4518 anwybyddwch unrhyw gyngor i groesi’r bont haearn dros yr afon; gyrrwch yn lle dros y grid gwartheg ac mae’r Ganolfan Ymwelwyr o’ch blaen. Os ydych chi’n teithio o’r Gogledd i Raeadr ar yr A470 bydd eich Sat Nav yn ceisio’ch anfon trwy bentref Llanwrthwl; nid yw hwn yn addas ar gyfer bysys moethus neu gerbydau mwy gan ei fod yn mynd â chi drwy lonydd gwledig a chul. Am daith fwy uniongyrchol ewch i Raeadr a throwch i’r chwith wrth y Cloc Coffa.
Cyfeirnod Grid | SN 928 646 (N52.2694 W3.5724) |
Côd Post | LD6 5HP |
Mapiau Google | Cliciwch yma |