Caffi a Siop Anrhegion
CAFFI
Mae’r caffi yn gweini bwyd tymhorol, gan gynnwys panini, tatws pôb a phrif brydiau. Cacennau a phastai wedi’u gwneud yn lleol, ac rydym yn defnyddio cig a llysiau o ffynonellau lleol. Rydym yn cynnig nifer o brydiau ar gyfer llysieuwyr a phrydiau a chacennau yn rhydd o glwten.
Gwybodaeth ar gyfer bysiau moethus
Mae croeso cynnes i fysiau moethus, cysylltwch â ni, ac fe anfonwn Becyn Gweithredwr Bysiau atoch. Rhowch wybod os ydych yn bwriadu ymweld â ni er mwyn i ni wybod pryd i’ch disgwyl!
SIOP
Mae gennym siop sy’n llawn o anrhegion gydag ystod eang o fapiau defnyddiol, llyfrau, crefftiau a rhoddion o ffynonellau lleol.