Llygaid ar wybren y nos – Mehefin 2019

Date: 
10 months 2 days ago

Mae mis Mehefin yn fis tawel ar gyfer syllu ar y sêr gan fod y nosweithiau yn rhy llachar ar gyfer gweld gwrthrychau wybrennol yn eu holl ogoniant.  Y newyddion da yw bod dal planedau i’w hastudio, a chyfle i weld cymylau Notilucent, gwelwch gysgod y ddaear yn cael ei daflu i’r wybren a dros y ddau fis nesaf, fe fyddwn yn canolbwyntio ar sêr dwbl.  Treuliwch amser yn astudio’r lleuad y mis yma os oes gennych ysbienddrych neu delesgop bach.  Fe fydd y Lleuad Newydd yn ymddangos ar y 3ydd o Fehefin a’r Lleuad Lawn ar yr 17fed o Fehefin.

Pedair Seren mewn Dau


Nid yw un o’r sêr dwbl mwyaf poblogaidd yn yr wybren yn ddwbl – ond mae’n ddwbl-dwbl.  Yng nghlwstwr Lyra, sydd mewn lle da ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae Epsilon Lyrae yn ffurfio pwynt ar driongl perffaith.

Defnyddiwch eich ysbienddrych i rannu’r Epsilon Lyrae i’w dwy seren gydrannol, sydd â 10,000 gwaith y pellter rhwng y ddaear a’r haul rhyngddynt, ac os oes gennych delesgop bach defnyddiwch y chwyddhad uchaf ar gyfer rhannu’r ddwy seren yn bedair!  Mae’r system bedrwbl yn hudol; mae’r sêr yn cylchu ei gilydd bob 1000 mlynedd ac ym 1986 canfyddwyd pumed seren wrth ddefnyddio offer arbenigol.  Yn ychwanegol, gall hyd at 10 seren gyfagos bod yn rhan o’r system hon.

 

 

 

 

 

 

Planedau’r Haf


Mae’n werth astudio rhai planedau’r mis yma.  Mae’r blaned Mercher ar ei hestyniad mwyaf, neu ar ei hongl fwyaf o’r haul ar 23ain o Fehefin am 10yh, felly ceisiwch ei gweld wedi machlud haul.  Mae wedi ei lleoli yn isel yn yr wybren gogledd orllewinol.  Mae cyfle i weld y lleuad gilgant denau, Mawrth a Mercher gyda’i gilydd, yn yr wybren gogledd orllewinol ar y 5ed o Fehefin tua 10.20 yh.

Mae Iau yn codi am 10yh ar ddechrau’r mis a 7.45yh ar y diwedd.  Ar y 10fed o Fehefin, fe fydd y blaned ar wrthwynebiad ac ar ei agosaf i’r ddaear.  Mae’r blaned hon yn un ddiddorol i’w harsyllu; nid oherwydd am y sbotyn Mawr Coch enwog, sydd wedi bod yn ‘datod’ yn ddiweddar, ond mae’r profiad o weld cysgod lleuadau Iau yn teithio ar draws wyneb y planed (a elwir yn croesiad) yn gallu bod yn hynod.  Dyma gyfrifiannell i’ch cynorthwyo ar gyfer darganfod yr amserau ble mae’r croesiad yn digwydd.

Gall ein hatmosffer fod yn eithaf cynhyrfus yn ystod nosweithiau’r haf sy’n ei gwneud yn anodd i weld Iau mewn unrhyw fanylder – ond gydag amynedd, gall yr ychydig eiliadau o lonyddwch rhoi cyfle cyffroes i weld y croesiadau hynny a nodweddion planedol eraill.

Mae Sadwrn yn codi am 12.15yb ar ddechrau’r mis ac am 10.05yh ar y diwedd.  Ar y 18fed o Fehefin, fe fydd y Lleuad a Sadwrn yn codi gyda’i gilydd o 11yh ac yn rhannu’r un esgyniad.  Fe fydd y Lleuad yn pasio hyd yn oed yn agosach i Sadwrn am tua 4.47yb 0˚26’ ond efallai fe fydd gwawrio’r haul yn rhwysto’r olygfa.  Fe allwch syllu arnynt gyda thelesgop, ysbienddrych neu’r llygad noeth!

Gwregus Fenws


Diolch delwedd: Full moon rising near Linz, Austria by Sb2s3 (CC BY-SA 4.0)

Os ydych chi allan yn mwynhau nosweithiau’r haf, edrychwch am ryfeddod atmosfferig na fydd angen unrhyw offer i’w gweld.  Mae Gwregus Fenws yn digwydd ar ôl machlud yr haul neu cyn y wawr, trwy gydol y flwyddyn.  Fe welwch streipen gochlyd, pinc uwchben gwregus llwyd, llydanach yn isel ar y gorwel, yn y dwyrain ar ôl machlud yr haul ac yn y gorllewin ar ôl y wawr.   Fe fydd angen golwg dda o’r gorwel isel er mwyn ei weld.  Y rhan llwyd yw cysgod y Ddaear yn cael ei estyn i’r wybren a’r streipen gochlud, pinc yw golau’r haul.  Ni enwir Gwregus Fenws ar ôl y blaned, ond ar ôl y dduwies Roegaidd, Fenws.