Llygaid ar wybren y nos – Mehefin 2002

Date: 
1 year 4 months ago

 

Cymylau Noctilucent

Cymylau noctilucent, 21ain o Fehefin, 2019 © Sam Price

Mis Mehefin yw tymor y Cymylau Noctilucent.  Efallai na fydd y tymor yma mor syfrdanol ac arddangosiad y llynedd ond mae’n dal werth aros i fyny ar gyfer gweld y ffenomen rhyfeddol hwn.  Edrychwch tua’r wybren ogleddol tua 90 munud i ychydig o oriau ar ôl i’r haul fachlud a chyn y wawr; efallai y gwelwch y cymylau gwawn o iâ yn yr uchderau sydd yn atmosffer uchaf y Ddaear (mesosffer) ac wedi’u goleuo gan belydrau’r haul. 

Mae dadl ynghylch achos y cymylau hyn, ond mae astudiaethau diweddar wedi archwilio allyriadau o beipen wacáu y Wennol Ofod, gronynnau llwch o ficro-feteorau neu losgfynyddoedd, a hyd yn oed y cynydd diweddar o allyriadau methan sy’n cyrraedd yr atmosffer uchaf.  Yr unig anghenion ar gyfer gweld rhain yw’ch llygaid sydd wedi addasu i’r tywyllwch a dillad cynnes.  Cadwch lygaid barcud ar ragolygon y tywydd, ewch at spaceweather.com neu fynnwch olwg ar ddiweddariad cyfranwyr – ar hyn o bryd, fe geir dangosiadau da yn Ewrop a dangosiadau gwanach ar hyn o bryd yn y DU.

Planedau

Gellir gweld y blaned Mercher yn wybren y gogledd orllewin ar ddechrau mis Mehefin, gan iddo fachlud ddwy awr cyn yr haul, ac fe fydd yn fwy anodd i’w gweld yn ystod gweddill y mis.

Ar ddechrau’r mis, mae’r blaned Iau yn codi yn wybren y de ddwyrain am 10:20yh ac yn weladwy tan godiad haul.   Mae’r blaned Sadwrn yn codi i’r dwyrain o’r blaned Iau ychydig o funudau yn ddiweddarach, gyda’i chylchoedd sy’n gwynebu’r gogledd ar ogwydd tuag atom.  Gall llif tyrfol a chynnes yr haf gwneud edrych ar fanylder y planedau hyn yn anodd, ond mae’n werth dyfalbarhau tan oriau mân y bore er mwyn gweld nodweddion diddorol ar y planedau hyn gyda thelesgop bach.  Edrychwch am gysylltiad boddhaol tua hanner nos ar y 9fed o Fehefin, pan fydd triawd o wrthrychau yn codi o’r de ddwyrain: Mae’r blaned Sadwrn a’r blaned Iau yn agos at ei gilydd, gyda’r Lleuad amgrwm yn pasio oddi tano.

 

Y Lleuad

Mae’r Lleuad Lawn ar y 5ed o Fehefin a’r Lleuad Newydd ar yr 21ain o Fehefin.  Ar y diwrnod hwn fe fydd hefyd tywylliad gogysgod, pan fydd rhan o’r Lleuad yn syrthio i gysgod y Ddaear.  Edrychwch am ychydig o dywylliad ar hanner de y Lleuad;  bron na fydd yn ganfyddadwy, hyd yn oed ar uchafbwynt y tywylliad, tua 8.25yh. 

Ceisiwch edrych am grater ardrawiad diddorol, ac am un sydd â phelydryn ardrawiad  a gellir ei weld gyda’r llygaid noeth, gan iddynt ymestyn dros ardal anhygoel o 800 cilomedr!

Crater Copernicus

Mae Crater Copernicus yn weladwy gyda ysbienddrych, ac mae ganddo ddiamedr o 93 cilomedr a hyd at 3.8 cilomedr o ddyfnder.  Fe’i enwyd ar ôl seryddwr o’r ail ganrif ar bymtheg Nicolaus Copernicus, a gredai fod y planedau yn cylchdroi o gwmpas yr Haul (Heliocentrism), sef damcaniaeth wyddonol ddadleuol ar y pryd, gan mai’r gred gyffredin oedd mai’r Ddaear oedd canolbwynt y bydysawd oedd yn ei cylchdroi (Geocentrism).  Credir i Giovanni Riccioli, a gyflwynodd  gyfundrefn enwau i nodweddion y Lleuad ym 1651, enwi crater Copernicus fel cefnogaeth gudd i’w theori Heliocentraidd.  Yr amser gorau i weld y crater yw yn ystod wythnos gyntaf Mehefin o 10yh, a’r un amser o’r nos ar y 29ain o fehefin pan fydd mewn cysgod.

 

Cytser y Mis – Lyra

Cytser bach yw Lyra ond un amlwg; diolch i’r seren llachar Vega, sef yr ail seren fwyaf llachar yn hemisffer y gogledd.  Pan fyddwch yn gweld y seren llachar, un o’r rhai cyntaf i ymddangos yn y wybren dywyll, fe fyddwch yn gweld ei phedair cydran arall sy’n ffurfio’r cytser yma, sy’n cynrychioli’r lyra, offeryn llinynnol hynafol.  Ymhlith rhai o dargedau telesgop diddordol, mae’r Nifwl Modrwy (Messier 57) wedi’i leoli ar droed y cytser, targed teilwng gyda thelesgopau mawr a bach.  Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, efallai bod y nifwl planedol sydd 2300 o flynyddoedd golau i ffwrdd, yn wan iawn oherwydd diffyg gwir dywyllwch. 

Ym mytholeg Roegaidd, mae Lyra yn cynrhychioli lyra’r bardd a’r cerddor Orpheus, mab Brenin Oeagrus.  Yn ei ieuenctid fe gafodd lyra aur oddi wrth y duw Groegaidd Apollo gan ei fod yn cyfansoddi cerddoriaeth yn fedrus iawn a allai hyd yn oed ‘swyno’r cerrig’.  Mewn gwirioedd, roedd wedi gallu achub Jason a’r Argonauts oddi wrth y Sirens angheuol trwy chwarae ei lyra er mwyn boddi sŵn eu galwadau. 

Yn drist, fe gollodd ei wraig Eurydice ar ôl iddi syrthio i mewn i nyth o wiberod tra’n dianc oddi wrth yr anrheithiwr Satyr a ymddangosodd ar ddiwrnod ei phriodas.  Ar ôl hudo’r duwiau gyda’i gerddoriaeth dwyfol, cynghorodd y duwiau i Orpheus deithio i Annwfn er mwyn achub ei wraig. Fe fyddai ond yn llwyddiannus os na fyddai yn edrych arni tan iddynt ddychwelyd.  Yn anffodus, fe anghofiodd am hyn ac  wrth iddo gael cipolwg ar ei wraig brydferth, fe ddiflannodd ac ni welodd byth mohoni eto. 

Lladdwyd Orpheus gan y Bacchantes am nad oedd wedi parchu eu duw, Dionysus.  Er teyrnged i’w fywyd, fe aeth y Muses â’i lyra i’r nefoedd, gan ddod yn gytser Lyra. 

Yn nhraddodiad Cymreig, fe adwaenir Lyra fel Telyn y Brenin Arthur (Telyn Arthur) neu Delyn y Brenin Dafydd.

 

Prosiect Fflwff y Gofod

Cymerwch ran mewn prosiect gwyddoniaeth dinesydd newydd sbon – helpwch adnabod galaethau pell sydd wedi cael eu darganfod gan y Fornax Deep Survey ond ni ellir eu hadnabod gan algorithmau.  Mae’r gwyddonwyr ar yr astudiaeth hon angen rhagoriaeth yr ymennydd dynol er mwyn gwahaniaethu galaethau pell o artiffactau.  Er mwyn dechrau, cliciwch ar y ddelwedd uchod i gymryd rhan yn yr astudiaeth.  Darllenwch fwy am y prosiect yma (yn Saesneg)

Angen help ar Fflwff y Gofod

Prosiect Fflwff y Gofod