Llygaid ar awyr y nos - Medi 2019

Croeso i rifyn mis hwn o “Golwg ar Wybren y Nos”. Wrth i ni ffarwelio â’r haf, mae’r nosweithiau tywyll yn cyhoeddi dechrau’r tymor seryddiaeth. I’r rhai ohonoch sy’n mwynhau edrych ar y Llwybr Llaethog, fe fydd yn gwneud ffurf bwa o’r gogledd i’r de wrth iddo ymddangos yn nhywyllwch y wybren – golygfa godidog os fyddwch yn eistedd allan yn yr awyr agored liw nos. Mae’n werth mynd ar wibdaeth i safle wybren dywyll i weld ffurfiant cymhleth ein galaeth.
Golau Sidyddol
Mae’r golau Sidyddol yn dychwelyd y mis hwn ond fe fydd rhaid i chi godi’n gynnar i’w weld – dewiswch fore clir, heb leuad tua 3.30yb ac edrychwch tua’r dwyrain. Yr amser gorau i’w weld yw pythefnos cyntaf mis Medi.
Lleuad, Sadwrn a Thriongl yr Haf
Mae yna gysylltiad dymunol ar yr 8fed o Fedi, lle bydd y lleuad ar ei thri chwarter ac ar ei chynnydd yn agos at Sadwrn, ar bellter o 3˚(tua lled dau fys, a hyd braich). Fe fydd Cylchoedd Sadwrn lled y pen ar agor ac yn werth eu hastudio â thelesgop. Arhoswch am gyfnodau llonydd er mwyn edrych ar fanylion y cymylau ar arwyneb y ‘cewri nwy’ a’r cylchoedd. Fe fydd Triongl yr Haf yn weladwy wrth i’r cysylltiad symud oddi tano.
Fe fydd y Lleuad Lawn ar y 14fed o Fedi a’r Lleuad Newydd ar yr 28ain o Fedi.
Ffigar-êt Eddie
Peth prin yw gweld clwstwr ysbienddrych da. Nid oes ganddo enw swyddogol, heblaw am “Ffigar-êt Eddie” – gan iddo gael ei ddarganfod gan Eddie Carpenter, seryddwr amatur o Brydain.
Trwy’r ysbienddrych, gellir gweld 20 o sêr ar drac mewn ffurf “ffigar-êt” uwchben y ddwy seren Ruchbah a Navi, sy’n rhan o’r clwstwr Cassiopeia. Er bod y sêr yn wan i’n llygaid ni (gellir ond eu gweld trwy ysbienddrych neu delescop bach) maent yn cynnwys yn bennaf y brif sêr dilynol F a G, 3 cawr mawr, seren carbon a deuaidd ynghyd â seren lluosol!
I ddarganfod mwy am y sêr a’u dosbarthiadau, gwyliwch y fideo byr hwn (yn Saesneg):
Clwstwr Troellog yn Perseus
Targed dymunol ar gyfer y telesgop am y mis hwn yw’r Clwstwr Troellog (Messier 34). Mae’r clwstwr llachar hwn wedi’i leoli 1500 o flynyddoedd golau i ffwrdd yng nghlwstwr Perseus, a gellir ei weld gyda’r llygad noeth yn y wybren dywyll. Defnyddiwch delesgop bach gyda chwyddiad isel i weld 20 o sêr – fe ddangosa telesgop mwy hyd at 80; astudiwch nhw i weld sawl un sydd mewn pâr. Mae’r clwstwr yma yn cynnwys hyd at 400 o sêr a hwn yw’r saithfed gwrthrych Messier agosaf i’r ddaear. Fodd bynnag, fe fyddai’n cymryd 26,791,500 o flynyddoedd i’w gyrraedd mewn llong ofod gyffredin!
Digwyddiadau Syllu ar y Sêr sy’n hwyl ac yn addas ar gyfer y teulu yng Nghwm Elan yr Hydref yma
Os hoffech wybod mwy am syllu ar y sêr, mae Cwm Elan yn cynnal digwyddiadau hwylus sy’n addas ar gyfer y teulu yr hydref yma, wedi’u hariannu gan brosiect “Day2Stay” Regional Tourism Engagement Fund (RTEF’s). Darganfyddwch bywyd gwyllt y nos yng Nghwarchodfa Natur Gilfach ar y 19ed o Fedi, neu ymunwch â Kama Roberts ar y 19ain o Fedi wrth iddi’ch arwain ar daith gerdded fer tra’n adrodd straeon am darddiad y clystyrau o dan wybren dywyll syfrdanol Cwm Elan. Os hoffech wybod sut i ddechrau sut i wylio’r sêr, mae yna barti sêr ar y 1af o Hydref sy’n cynnwys swper ysgafn o gawl, sgwrs ar syllu ar y sêr gydag ysbienddrych gyda Steve Tonkin ac os bydd hi’n glir, sesiwn arsyllu o dan y sêr. Fe fydd angen llogi lle ar gyfer yr holl dddigwyddiadau, cliciwch yma ar ragor o wybodaeth.