GOLWG AR WYBREN Y NOS: TACHWEDD 2020

Date: 
4 months 2 days ago

Croeso i rifyn mis Tachwedd o Olwg ar Wybren y Nos.  Mae’n bosib  bod cynfyngiadau Covid-19 lleol yn eich ardal chi, ond fe allwch ddal i syllu ar wybren y nos o glydwch eich gardd.  Fe fyddwn yn dethol ambell i uchafbwynt o’r hyn sydd yn wybren y nos y mis hwn.

Mae yna ychydig o blanedau i’w hastudio yn ystod mis Tachwedd y gellir eu gweld o erddi trefol.  Mae’r blaned Mawrth yn dal i ddisgleirio fel seren goch yn ystod y nos.  Trwy gydol y mis mae’n pylu o’i maint llawn, wedi wythnosau o wrthwyneb, pan oedd y blaned mwya agos at y ddaear; ar ôl hynny, mae’r pellter yn cynyddu ac fe ymddengys y blaned fel petai yn lleihau mewn maint.  Os oes gennych delesgop, edrychwch am gap iâ y pegyn deheuol.

Cyfle i Chwilio am y Blaned Mercher

Ar y 10fed o Dachwedd, fe fydd y blaned Mercher ar ei hestyniad gorllewinol mwyaf, sy’n golygu y bydd yn weladwy am gyfnod cyn y Wawr, sy’n dda am blaned israddol (y planedau tua’r haul ac sydd â’u horbitau sy’n agosach i’r Haul nag i’r Ddaear). Mae’r mis hwn yn cynnig cyfle gwych i astudio’r blaned fach ond nerthol hon.  Chwiliwch amdani wrth iddi godi tua 6yb ar ddechrau’r mis, gan godi’n gynharach tan 5.30yb ar yr 8fed o Dachwedd.  Fe fydd y blaned yn weladwy am o leia awr cyn y wawr – cadwch eich ysbienddrych wrth law er mwyn ei gweld – efallai y gallwch ei gweld gyda’r llygaid noeth.

 

Os bydd angen cymorth arnoch i weld y Blaned Mawrth, fe fydd cyfle gwych ar y 13fed o Dachwedd os ydych yn barod i godi’n gynnar ac os oes gennych olwg clir o orwel isel!  O 6yb, fe fydd y Blaned Mercher yng nghwmni’r Lleuad a’r Blaned Gwener.  Ceisiwch weld gilgant Lleuad denau iawn yn llewyrch daear, yn pontio rhwng y blaned Gwener ar bellter o 4˚, ac yn lleoliad dau o’r gloch – mae’r blaned Mercher yn gorwedd 8˚o dan y Lleuad yn lleoliad saith o’r gloch.  Cyplysiad hyfryd i ddechrau’ch dydd.

Fe fydd Lleuad Newydd ar y 15fed o Dachwedd a’r Lleuad Lawn ar y 30ain o Dachwedd.  Fe fydd diffyg ar y lleuad penwmbral ar y 30ain o Dachwedd ond fe fydd gwylwyr yn y DU yn ei golli gan fydd y diffyg ar y lleuad yn dechrau adeg ciliad y lleuad.

Esiampl o Gyplysiad Lleuad/y Blaned Gwener. ©Sam Price

Ar y 12fed o Dachwedd o 4.30yb fe fydd y Lleuad yn mynd heibio’r blaned Gwener ar 4˚(neu lled tri bys wedi’u dal hyd braich) ac fe fydd yn olygfa hyfryd trwy ysbienddrych ac yn destun ffotograffiaeth da, yn enwedig yng ngoleuni llewyrch daear.  Fe fyddwch yn gallu gweld y cyplysiad hyd at y wawr.

Cawodydd o Sêr Gwib

Fe fydd ychydig o gawodydd sêr gwib y mis hon: fe fydd y gawod   Taurid Deheuol yn cyrraedd ei hanterth tuag at ganol nos ar y 5ed o Dachwedd ac yn ystod yr oriau mân ar y 6ed o Dachwedd.  Fe fydd y gawod Taurid Gogleddol yn cyrraedd ei hanterth tua canol nos ar y 12fed o Dachwedd ac yn ystod oriau mân y 13fed o Dachwedd.  Serch hynny eleni, efallai mai ond pump cawod yr awr ar gyflymder zenithal y gallwn ddisgwyl, mae’r gawod o sêr gwib yn adnabyddus am ei phelenni dân.

Mae’r gawod o sêr gwib yn cyrraedd ei hanterth ar y 18fed o Dachwedd am 5yb ar raddfa o 15 meteorau yr awr.  Ar gyfartaledd bob 33 mlynedd, fe welir gawod o sêr gwib gyda channoedd o sêr wib; digwyddodd yr un ddiwethaf yn 2001 a chyn hynny ar y 17fed o Dachwedd 1966, gyda miloedd o feteorau yn “syrthio fel glaw” am gyfnod o 15 munud yn ystod oriau mân y bore, a gwylwyr yn Ne America yn gwylio “ glaw o feteorau, yn troi yn genllysg o feteorau ac yn olaf storm o feteorau, gormod i’w cyfrif erbyn 3.50yb, Amser Tawelfor.  Yn reddfol, fe geision ni guddio ein golygon rhag y malurion wybrennol dychmygol.”  Mae’r storm drawiadol nesaf i’w disgwyl tua 2034.

Gorsaf Ofod Ryngwladol yn Mynd Heibio ym mis Tachwedd

Gorsaf Ofod Ryngwladol ©NASA

Fe fydd yr Orsaf Ofod Ryngwladol yn teithio trwy wybren y DU yn ystod mis Tachwedd a dyma’r dyddiadau a’r amseroedd i’w gweld – yn ffodus, mae ychydig o deithiau yn ystod y cyfnos cynnar os nad ydych eisiau codi’n gynnar!  Rydym wedi dewis y teithiau mwyaf llachar:

DYDDIAD

DISGLEIRDEB

AMSER CYCHWYN

UCHDER/
CYFEIRIAD

UCHAFSWM AMSER

UCHDER MWYAF

 

AMSER GOSOD

UCHDER/
CYFEIRIAD

01/11 -3.8   05:45 25° Gn 05:46 81° De 05:50 10° Dn
02/11  -3.7 04:59 77° De-Ddn 04:59   77°

De-Ddn

05:02 10° Dn
02/11 -3.3  06:32 10° Gn 06:35 54°

De De Gn

06:39 10° Dn De
Ddn
03/11 -3.6 05:46 27° Gn 05:48  66°

De De Gn

05:51 10° Dn De
Ddn
04/11 -3.6  05:00 69° De-Ddn 05:00 69°

De-Ddn

05:03 10°Dn De
Ddn
04/11 -2.6  06:33 10° Gn 06:36 32°

De De Gn

06:39 10° De-Ddn
05/11 -3.1 05:47 26°Gn De Gn  05:49 42°

De De Gn

05:52 10° De-Ddn
06/11 -3.1 05:01 47°De De Ddn 05:01 47°

De De Ddn

05:04 10° Dn De
Ddn
07/11 -2.3 05:49 21° Gn De Gn 05:50 24°

De De Gn

05:52 10° De De Ddn
08/11 -2.1 05:03 26° De 05:03 26° De 05:05 10° De-Ddn
22/11  -2.0 18:39 10° De Gn 18:41 25° De 18:41 25° De
23/11 -2.3 17:51 10°Dn De Ddn 17:54 24°

De De Ddn

17:55 22°De-Ddn

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â’r safle hwn (fe allwch rhoi eich lleoliad er mwyn gweld amserau taith yr Orsaf Ofod Ryngwladol)

 

Cytser y mis:  Orïon

Cytser Orïon dros Gronfa Ddŵr Caban Coach ©Sam Price

Mae’r cytser nerthol a hynod hwn yn arddurno’r wybren aeafol.  Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r cytser yn codi yn y dwyrain tua 8.30yh ac yn weladwy trwy gydol y nos. 

Mae’n cynnwys ambell i nifwl, gan gynnwys yr enwog M42 neu Nifwl Orïon, un o feithrinfeydd serol fwyaf y Llwybr Llaethog, sy’n cynhyrchu tua 1000 o sêr gyda 700 dal ar wahanol gyfnodau o ffurfiant.  Gellir gweld M42 gyda’r llygaid noeth ac mae’n bleser ei weld trwy ysbienddrych, ac mae’n ymddangos fel màs llachar, disgleiriol.  Trwy delesgop yn yr wybren dywyll, mae adeiladwaith y nifwl yn hynod yn enwedig gyda chwyddiad cynyddol;  fe allwch weld pedair seren sy’n cynnwys Clwstwr Trapesiwm, â goleuni’r sêr yn goleuo cymylau’r nifwl sy’n eu hamgylchynu. 

Mae nifer o chwedlau yn gysylltiedig â Chyster Orïon.  Ym Mytholeg Roegaidd, mae Orïon yn syrthio mewn cariad â Pleione, mam y Saith Chwaer (Pleiades) gan eu dilyn am saith mlynedd.  Fe ymyrrodd Zeus gan eu dal a’u gosod nhw yn yr wybren.

Yn niwylliant Sumeria, fe adwaenir Orïon fel URU AN-NA, neu “Goleuni’r Nefoedd”, yn ei gysylltu â hanes eu harwr yn ymladd GUD AN-NA, sef “Tarw’r Nefoedd’.

Credir i Orïon fod yn enwog yn niwylliant hynafol yr Eifftwyr;  credir i’r Pharoaid gael eu trawsffurfio i Osiris ar ôl iddynt farw.  Mae damcaniaeth i Byramidiau Giza gael eu hadeiladu er mwyn copïo Cytser Orïon, gyda’r siafftiau awyr yn Siambr y Brenin wedi’u halinio’n uniongyrchol gydag Alnitak, seren gyntaf  Llathen Fair.