GOLWG AR WYBREN Y NOS – MIS MAWRTH 2022

Date: 
3 months 4 weeks ago

Croeso i rifyn y mis hwn o ‘Golwg ar Wybren y Nos’, lle byddwn yn dewis  uchafbwyntiau gorau’r mis i’w gweld gyda’r llygaid noeth, ysbienddrychau a thelesgopau.  

Mae’r Lleuad Lawn ar y 18fed o Fawrth a’r Lleuad Newydd ar y 2il o Fawrth.

Cysylltiad 25ain o Fawrth

Ar gyfer y rhai sy’n codi’n gynnar, edrychwch am gysylltiad hyfryd y planedau ar y 25ain o Fawrth.  Fe fydd y blaned lachar Gwener yn ymuno â’r planedau Iau a Mawrth sydd wedi’u lleoli’n isel ar y gorwel de-ddwyreiniol.  Dros yr wythnos nesaf tua’r un amser, fe fydd y triawd o blanedau yn gwawrio gyda’i gilydd.

Goleuni Sidyddol

Edrychwch am y Goleuni Sidyddol rhyfeddol, a welir mewn ardaloedd wybren dywyll megis ym Mharc Wybren Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, ac mewn ardaloedd gwledig ymhell o lygredd goleuni y trefi a'r dinasoedd.  Mae'n ymddangos yn yr wybren orllewinol tuag awr ar ôl iddi fachlud.  Gyda llygaid sydd wedi addasu i'r tywyllwch, edrychwch am gôn o olau sy'n disgleirio ar ongl o'r gorwel i fyny.  Efallai y bydd yn edrych fel golau cryf, artiffisial sy'n goleuo i fyny.  Credir mae ffenomen naturiol yw hwn wedi'I greu gan falurion o gomedau a llwch o asteroidau yn gwrthdaro yng nghysawd ein Haul, ac fe gellir ei weld ar ddiwedd mis Chwefror, a thrwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill.

Melotte 111

Fe lleolir y Clwstwr Agored Melotte 111 yng nghytser Coma Berenices, sy’n cynnwys 40 o sêr llachar.  Yn yr oesoedd cynnar, credir iddo gynrychioli cynffon Leo.  Yn 240 CC, fe’i enwyd ar ôl gwallt Bernice, sef Brenhines yr Aifft ar y pryd.  Yn ôl y chwedl, fe aberthodd ei gwallt i Aphrodite er mwyn sicrhau dychweliad diogel ei gŵr, a oedd yn ymladd yn erbyn y Seleuciaid yn ystod trydydd Rhyfel y Syriaid. 

Y ffordd orau i weld y gwrthrych hwn yw trwy ysbienddrych, er bod y sêr unigol yn edrych yn llachar trwy delesgop, fodd bynnag wedi’u gwasgaru’n llac.  Gellir ei weld hefyd gyda’r llygaid noeth fel clytwaith o sêr aneglur yn agos at ei gilydd.

Fe lleolir y Clwstwr Agored Melotte 111 yng nghytser Coma Berenices, sy’n cynnwys 40 o sêr llachar.  Yn yr oesoedd cynnar, credir iddo gynrychioli cynffon Leo.  Yn 240 CC, fe’i enwyd ar ôl gwallt Bernice, sef Brenhines yr Aifft ar y pryd.  Yn ôl y chwedl, fe aberthodd ei gwallt i Aphrodite er mwyn sicrhau dychweliad diogel ei gŵr, a oedd yn ymladd yn erbyn y Seleuciaid yn ystod trydydd Rhyfel y Syriaid. 

Y ffordd orau i weld y gwrthrych hwn yw trwy ysbienddrych, er bod y sêr unigol yn edrych yn llachar trwy delesgop, fodd bynnag wedi’u gwasgaru’n llac.  Gellir ei weld hefyd gyda’r llygaid noeth fel clytwaith o sêr aneglur yn agos at ei gilydd.

Messier 3, Messier 53 a yr Galaeth Lygad du

Defnyddiwch eich telesgopau er mwyn darganfod dau glwstwr crwn a galaeth ddiddorol yng nghytser Coma Berenices, a fydd mewn lleoliad da yn wybren y nos am hanner nos.  Mae’r sêr yn Coma Berenices yn eithaf aneglur ac yn anodd eu darganfod, felly fe fydd angen wybren wledig er mwyn eu gweld.  Edrychwch am y ‘marc cwestiwn yn ôl’ sy’n cynrychioli pen balch Leo ac edrychwch yn syth tua’r dwyrain am y seren lachar Arcturus, sydd yng nghytser Boötes.  Fe fydd angen llygaid sydd wedi cynefino â’r tywyllwch er mwyn gweld y dair seren lachar sy’n ffurfio’r asterism ar siap ongl sgwâr sef Coma Berenices.

Lleoliad:  RA 13h 42m 11.62s | Dec +28° 22′ 38.2″

Clwstwr crwn yw Messier 3 ac yn cystadlu ag ysblander Clwstwr Great Hercules (M13) sy’n fwy poblogaidd.  Mae’n edrych yn rhyfeddol trwy delesgop ag agorfa 8 modfedd neu’n fwy, ac mae’n hawdd credu fod y clwstwr hwn yn cynnwys dros hanner miliwn o sêr.  Mae wedi’i leoli 34,000 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, a gellir hefyd gweld y gwrthrych hwn trwy ysbienddrych.

Lleoliad: RA 13h 12m 55.25s | Dec +18° 10′ 05.4″

Ail glwstwr crwn yn Coma Berenices yw Messier 53, wedi’i leoli 58,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd, sy’n ei wneud yn un o’r clystyrau crwn pellaf o’r Ddaear.  Mae’r clwstwr hwn yn cynnwys hyd at 500,000 o sêr.  Nid yw’n ymddangos mor fanwl gyda thelesgop oherwydd y pellter.

Lleoliad: RA 12h 56m 44s | Dec +21° 40′ 58″

Mae’r Alaeth Lygaid Du (M64) yn gorwedd yng nghanol Coma Berenices ac mae 24 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear.  Gellir astudio’r gwrthrych hwn trwy delesgop llai ac mae’n ddiddordol oherwydd iddo ymddwyn yn anarferol:  mae ardaloedd allanol o’r alaeth yn cylchdroi yn y cyfeiriad gwrthwyneb o’i craidd.  Ni wyddys yn iawn am y  rheswm dros y rhyfeddod hwn, ond cred arbenigwyr efallai oherwydd canlyniad galaeth lai yn cyfuno â M64.  Rhwng ardaloedd mewnol ac allanol yr alaeth hon mae ardal weithredol o sêr yn ffurfio.  O dan yr wybren dywyll a gyda amodau da ar gyfer gwylio, gellir gweld y llwybr o lwch tywyll trwy delesgop ag agorfa o bedwar modfedd neu uwch.  Fe fydd telesop fwy yn datgelu corongylch allanol yr alaeth.