GOLWG AR WYBREN Y NOS - MIS HYDREF 2021

Croeso i’r diweddaraf ar wybren y nos ar gyfer mis Hydref 2021. Mae hwn yn fis gwych ar gyfer syllu ar y sêr, gan fod y gwir nosweithiau tywyll yn disgyn tua 8.30yh o ddechrau’r mis, sy’n caniatáu i syllwyr y sêr brwdfrydig ddechrau’n gynnar er mwyn darganfod eu hoff wrthrychau gwybrennol. Fe fydd y canllaw hwn yn cynnig gwrthrychau diddorol i’w hastudio gyda’r llygaid noeth, ysbrienddrych neu delesgop.
Defnyddiwch eich llygaid i weld dau gawod o feteorau a chysylltiad
Y gawod feteor gyntaf nodedig y mis hwn yw’r Draconids, sy’n cyrraedd ei hanterth ar yr 8fed o Hydref. Mae’r gawod o feteorau hon yn bennaf yn ddiargraff gydag ond pum meteor yr awr ar y mwyaf. Fodd bynnaf, fe all fod yn annarogan – gyda’r pelydrol yn tarddu o gytser Drago y ddraig, ac fe all y gawod o feteorau hon ymddwyn fel draig yn deffro, gan gynhyrchu, yn sydyn, cannoedd o feteorau! Fe ddigwyddodd ffrwydriadau o gannoedd o ‘sêr gwib’ yn ystod y blynyddoedd 1933, 1946, 2011 (fe welwyd 600 o feteorau) a 2018. Fe achosir cawod o feteorau gan y Ddaear yn teithio trwy ffrwd o falurion a adawyd gan y gomed 21P/Giacobini-Zinner. A fydd 2021 yn flwyddyn dda?
Ar y 9fed o Hydref, edrychwch i’r de-orllewin ychydig ar ôl i’r haul fachlud a gwyliwch gysylltiad hyfryd yn ymddangos yn wybren yr hwyr, yn isel ar y gorwel. Fe fydd y Lleuad tri diwrnod 2˚51’ gradd i ffwrdd o’r blaned Gwener. Daliwch nhw cyn iddyn nhw fachlud.
Fe fydd y gawod o feteorau Orionid ar ei hanterth ar noson y 21ain o Hydref. Yn anffodus, fe fydd golau’r Lleuad yn amharu gyda’r gawod, sydd â 15 meteor yr awr yn ystod yr anterth. Mae’n werth chwilio am y meteorau llachar gan fod tuedd ganddynt i adael dilyniant parhaus o nwy wedi’u hïoneiddio. Mae’r gawod belydrol yng nghytser Orion ac yn gysylltiol â Chomed Halley. Fe ddigwydd y Lleuad Newydd y mis hwn ar y 6ed o Hydref a’r Lleuad Lawn ar yr 20fed o Hydref.
Defnyddiwch eich Ysbienddrych
Fe ymddangosa’r Helix Nebula fel y gwrthrych mwyaf annhebygol i weld gydag ysbienddrych, ond mae’n un o’r gwrthrychau mwyaf prin sy’n fwy hawdd ei weld na gyda thelesgop mawr.
Gan fod disgleirdeb isel ar wyneb y nebula yma sydd wedi’i ledaenu dros ardal eang, mae chwyddhad isel gyda llawer o wybren dywyll yn creu cyferbyniad da ac yn galluogi’r Helix Nebula i gael ei weld gydag ysbienddrych a thelesgop bach. Er mwyn ei weld, edrychwch am gytser y Dyfrwr ac ewch â’ch ysbienddrych yn araf o dan draed y cytser. Fe ddylech weld siap bwganaidd, lledwyrdd yn debyg mewn golwg i’r Dumbbell Nebula. Fe orwedd y nebula planedol hwn 694.7 o flynyddoedd golau i ffwrdd ohonom ni.
Ar gyfer defnyddiwr y telesgop
Lleoliad: RA=21h 33.5m, Dec+-00˚49’
Mae Messier 2 yn glwstwr crwn arbennig sy’n werth ei weld y mis hwn. Mae nid yn unig yn un o’r clystyrau mwyaf hysbys, mae hefyd yn un o’r rhai hynaf. Mae 55,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym ni yng nghytser y Dyfrwr.
Mewn amodau gwylio eithriadol mewn ardal dywyll, fe ellir hyd yn oed ei weld gyda’r llygaid noeth ond mae’n edrych yn arbennig trwy delesgop 4 modfedd ac uwch. Po fwyaf yw’r telesgop, y mwyaf o sêr unigol y gellir cydrannu. Trefniant helaeth yw clystyrau crwn sydd â thynfa disgyrchiant at ei gilydd. Mae Messier 2 yn cynnwys 150,000 o sêr. Fe allwch hefyd, geisio darganfod Messier 15 (Clwstwr Pegasus) sy’n drysor hydrefol i’w dargafnod.