GOLWG AR WYBREN Y NOS: MIS HYDREF 2020

Date: 
7 months 2 weeks ago

Croeso i rifyn mis Hydref o Olwg ar Wybren y Nos, lle fyddwn yn dewis rhai o uchafbwyntiau seryddol orau’r mis.  Mae’r tywyllwch yn disgyn yn gynharach yn yr hwyr, felly ni fydd rhaid i chi ddewis rhwng cysgu neu syllu ar y sêr!  Mae’r Llwybr Llaethog yn ymddangos i’r de-orllewin wrth iddi ddechrau nosi gan edrych yn ysblennydd yn yr wybren dywyll, yn bell o lygredd goleuni.  Darllenwch ymlaen er mwyn dargarfod beth arall sydd i’w weld ym mhrydferthwch ein hwybren dywyll.

 

Dwy Leuad Lawn

Mae dwy leuad lawn y mis hwn:  digwydd yr un cyntaf ar 1 Hydref, a adwaenir yn draddodiadol fel Lleuad Fedi, a’r ail ar 31 Hydref, a adwaenir fel Lleuad yr Heliwr, neu’r Lleuad Las, gan mai dyma’r ail Leuad Lawn i ddigwydd mewn mis.  Fe gwymp y Lleuad Newydd ar 16 Hydref.

 

Yr Orionids

Earthgrazer dros argae Craig Goch ©Sean Weekly

Mae’r Gawod o Sêr Gwib yr Orionid ar ei hanterth yn hwyr ar nos 20 Hydref ac yn oriau mân y bore ar 21 Hydref.  Ni fydd y Lleuad yn yr wybren i ymyrryd, felly efallai y gwelwch hyd at 20 o sêr gwib yr awr.  Er fod y ‘sêr gwib’ yn gymharol wan, maent yn gadael dilyniannau parhaus o nwy wedi’u ïoneiddio.

Yn ychwanegol, wrth i’r goleuni pelydrol ddigwydd ger Cytser Orion sy’n codi o 10.45yh, efallai y cewch gipolwg ar yr 'Earth Grazers’ prin.  Mae meteorau yn sgimio arwyneb ein hatmosffer fel cerrig wastad yn teithio dros arwyneb y dŵr.  O safle isel ar y gorwel, maent yn teithio’n llorweddol uwchben, a dyna paham maent yn ymddangos yn hir ac yn llachar.

 

Dau Gysylltiad

Cysylltiad y Lleuad/Blaned Mawrth ar 6 Medi 2020 ©Allen Lloyd   

Os wnaethoch golli cysylltiad y Lleuad/planed Mawrth y mis diwethaf, fe gewch ail gyfle i weld y Blaned Goch yn agos iawn at y Lleuad.

Ar 3 Hydref dim ond 1.1˚fydd yn gwahanu’r Lleuad a’r blaned Mawrth.  Edrychwch tua’r de-orllewin oddeutu 6yb i weld yr olygfa hyfryd hon.  Os oes gennych delesgop, edrychwch am gap iâ pegynol, gwyn y blaned Mawrth, sy’n gyferbyniad hyfryd ag arwyneb coch y blaned.

Ar 22 Hydref, fe ddigwydd ail gyfarfyddiad agos pan fydd y Lleuad a’r Blaned Iau yn wahanedig gan bellter o 2.9˚.  Mae’n olygfa ddymunol yn wybren y cyfnos.  Edrychwch tua’r wybren ddeheuol a cheisiwch weld y blaned Sadwrn yn dilyn y ddau.  Fe fydd edrych trwy ysbienddrych yn datgelu lleuadau’r blaned Iau ac mae’n bleser i astudio llinell derfyn y Lleuad, lle mae’r cysgod yn cwrdd â’r nodweddion goleuedig.

 

Cytser y Mis – Y Tarw

Y mis hwn, fe fyddwn yn edrych ar y chwedl sydd y tu ôl i Gytser y Tarw.  Mae’n codi yn wybren y gogledd-ddwyrain oddeutu 8yh, ac fe welwch y Cytser Pleiades hyfryd gyda gweddill y cytser yn dilyn.  Edrychwch am asterism ‘V’ sydd i’r ochr ac sy’n cynnwys pump seren sydd o dan y Cytser Pleiades.  Os ydych o dan wybren wledig, fe fyddwch yn gallu gweld dau o ‘goesau a breichiau’r’ cyster yn pelydru o bedwar safle o’r ‘V’.  Y ddwy ‘goes’ ar yr ochr chwith yw cyrn y Tarw ac mae’r ‘V’ yn cynrychioli ei ben.

Yn y chwedl Roegaidd, mae’r tarw yma yn cynrychioli Zeus.  Yn ei ymgais i garu Europa, merch brydferth y Brenin Agenor, fe newidiodd Zeus i mewn i darw ac ymunodd a gyr o wartheg brenhinol.  Fe sylwodd Europa ar Zeus yn pori a phenderfynodd eistedd ar ei gefn.  Fe aeth Zeus ag Europa dros Fôr Egeaidd i Greta.  Unwaith iddyn nhw gyrraedd pen eu taith, fe wnaeth ddatgelu ei wir hunan a rhoddi llawer o anrhegion hael iddi.  Fe syrthiodd hi mewn cariad a chafodd y ddau tri mab gyda’i gilydd a byw’n hapus am byth.  Mewn teyrnged i’w fywyd, rhoddodd Zeus y tarw yn yr wybren. 

Os oes gennych ysbienddrych neu delesgop, edrychwch am ddarn o uwchnofa ddiweddar a elwir yn Crab Nebula, neu Messier 1, sydd tua 6500 o flynyddoedd golau i ffwrdd.  Trwy ysbienddrych o dan wybren dywyll, fe fydd yn ymddangos fel smotyn llwyd, pell ac fe fydd yn ymddangos yn fwy llachar trwy delesgop bach.  Efallai y datgelir, trwy delesgop ehangach o 12 modfedd neu fwy, ei strwythur ffilamentog. 

Clod:  NASA, ESA, J. Hester ac A. Loll (Prifysgol Talaith Arizona)

Mae’r nifwl yma yn weddol newydd; fe’i ddarganfyddwyd ym 1054 gan seryddwyr Tsieineaidd, a welodd seren anghyfarwydd ymhlith cytser y Tarw, a oedd yn uwchnofa (seren yn ffrwydro ar ddiwedd ei bywyd).  Dengys gofnodion hanesyddol bod y seren newydd hon yn fwy llachar na’r blaned Gwener a’r trydydd gwrthrych mwyaf llachar ar ôl yr Haul a’r Lleuad.  Parhaodd yr olygfa hynod hon dros dair wythnos gan bylu’n sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.  Mae hanesion eraill o’r rhyfeddod hwn mewn mannau eraill o’r byd yn ystod y cyfnod hwn. 

Ni ddarganfyddwyd y nifwl tan 1731, pan sylweddolodd John Bevis ar y smotyn cymylog trwy ei delesgop bach, ac fe ddarganfyddodd  Charles Messier, heliwr y comedau, y nifwl yn annibynnol tuag ugain mlynedd yn ddiweddarach, gan ychwanegu at ei gatalog o wrthrychau nad oeddynt i gael eu camgymryd fel comedau.   Ym 1844, fe astudiodd y trydydd Iarll Rosse y nifwl trwy ei delesgop enfawr o 34 modfedd gan ei gymharu â chefn cranc, gan roi iddo ei enw.

Ar 25 Hydref am 2yb fe ddaw tymor yr haf ym Mhrydain i ben, felly symudwch eich clociau yn ôl un awr.