GOLWG AR WYBREN Y NOS – MAWRTH 2020

Croeso i rifyn y mis hwn o ‘Golwg ar Wybren y Nos’, lle byddwn yn dewis uchafbwyntiau gorau’r mis i’w gweld gyda’r llygaid noeth, ysbienddrychau a thelesgopau. Nid oes angen berchen ar offer gweledol er mwyn syllu ar y sêr gan fod digon i weld wrth ddefnyddio’ch llygaid yn unig, yn enwedig y mis hwn, gyda llawer o ryfeddodau wybrennol ysblennydd i weld. Paratowch fflasg o’ch hoff ddiod poeth, gwisgwch ddillad cynnes ac ewch allan i’r awyr agored!
Goleuni Sidyddol
©Sam Price
Os oes gennych ffordd i syllu ar yr wybren dywyll, ymhell o lygredd goleuni’r trefi a’r dinasoedd, cadwch lygaid barcud allan am y Goleuni Sidyddol, sy’n ymddangos yn yr wybren orllewinol tua awr ar ôl machlud haul. Gyda llygaid sydd wedi cynefino â’r tywyllwch, edrychwch am gôn o olau sy’n disgleirio ar ongl o’r gorwel i fyny. Efallai y bydd yn edrych fel golau cryf, ffug sy’n cael ei lewyrchu tuag i fyny. Mae hwn yn rhyfeddod naturiol, wedi’i greu gan falurion o gomedau a llwch o wrthdrawiadau asteroidau yng Nghysawd yr Haul a gellir eu gweld yn ystod diwedd mis Chwefror, a thrwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill. Fe fydd angen cyfnos heb leuad i’w weld; mae’r cyfleoedd gorau rhwng y 10fed a’r 25ain o Fawrth. Tynnwyd y ddelwedd uchod ym Mharc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan.
Mae’r Lleuad Lawn ar y 9fed o Fawrth a’r Lleuad Newydd ar y 24ain o Fawrth.
Her y Gomed
Dyma her ar gyfer ysbienddrychau – ceisiwch weld comed! Mae Comed C/2017 T2 (PANSTARRS) ar hyn o bryd wedi’i lleoli’n dda yng nghytser Cassiopeia ac o fewn cyrraedd ysbienddrych 10x50. Ar noson ddi-leuad, dywyll ymhell o lygredd goleuni ceisiwch ddarganfod cytser Cassiopeia ar ffurf ‘W’, a fydd, erbyn 9yh, ar ei ochr. Chwiliwch am y ddwy seren ar frig y cytser a rhowch yr ysbienddrych at eich llygaid, gan sganio i fyny yn araf, hyd nes i chi weld smotyn gwyn, gwan.
Yn ystod y mis, fe fydd y comed yn symud tuag at gytser Camelopardalis, felly ceisiwch gadw golwg ar y gomed wrth iddi deithio tuag at yr haul, neu gyrraedd Perihelion, ar y 4ydd o Fai. Ni wyddys a fydd y gomed yn gloywi ymhellach neu beidio, gan iddi fod yn ddibynnol ar ei hymddygiad wrth iddi gael ei heffeithio gan wres yr haul. Cadwch lygaid barcud ar gynnydd y gomed gan efallai y bydd y llygaid noeth yn gallu ei gweld ym mis Mai – ond ni fyddwn yn gwybod tan o leiaf wythnos neu fwy cyn hynny.
Cysylltiad Llewyrchus
Mae’r blaned Gwener yn parhau i fod mewn lleoliad da yn yr wybren gorllewinol ac mae’n hyfryd ei gweld yn ymddangos yn y cyfnos fel un o ‘sêr’ cyntaf y noson. Fe fydd yn cyrraedd ei hestyniad mwyaf ar y 23ain o Fawrth – darllenwch fwy am ystyr hyn.
Ar gyfer y llygaid noeth, fe fydd cysylltiad llewyrchus arbennig y planedau yn digwydd tuag at ddiwedd y mis.
Ar y 18fed o Fawrth, fe fydd tair blaned a’r Lleuad yn rhannu cysylltiad – edrychwch tuag at wybren y de ddwyreiniol tua 4.30yb i weld y blaned Mawrth dim ond 1˚24’ oddi wrth y blaned Iau, y Lleuad tua 1.5˚o bellter, a’r blaned Sadwrn 7˚ yn gorwedd i’r dwyrain o’r olygfa hyn. Mae’r blaned Mercher yn codi o’r De Dde Ddwyrain tua 5.30yb; cyfle i weld pedair blaned ar yr un pryd!
Ar yr 20fed o Fawrth, fe fydd y blaned Iau yn codi dwy awr cyn y wawr trwy gydol y mis; fe fydd y planedau Mawrth a Sadwrn yn codi ochr yn ochr a’i gilydd. Fe ddigwydd triawd o gysylltiad rhyfeddol ar yr 20fed o Fawrth, gyda’r blaned Iau yn pasio’n hynod o agos 0˚42’ i’r gogledd o’r blaned Mawrth (o’n safbwynt ni). Yn ychwanegol, fe fydd y blaned Sadwrn tua 7˚ i’r dwyrain o’r ddwy blaned.
Fe allwch fwynhau cysylltiad agos rhwng y planedau Mawrth, Iau a Sadwrn tua’r un amser bob bore am weddill y mis. Ceisiwch astudio’r planedau a’u lleuadau trwy ysbienddrych, yn ddelfrydol wedi’i osod ar drybedd gadarn neu delesgop, os oes gennych un.
Perthyn y rhain i’r llygaid noeth
Cymerwyd NGC 4438 a NGC 4435 gan offer FORS2 o’r Very Large Telescope (Clod: ESO)
Os oes gennych delesgop ag agorfa o chwe modfedd neu uwch, chwiliwch am wybren dywyll a cheisiwch edrych am ddwy alaeth sy’n rhyngweithio yng nghytser Virgo a elwir ‘Y Llygaid’ – oherwydd iddynt fod yn debyg i bâr o lygaid tywynnol yn nyfnder y gofod. Fe’u hadwaenir hefyd fel NGC 4435 a NGC 4438 neu Arp 120, maent wedi’u lleoli 52 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear. Ar hyn o bryd maent 100,000 o flynyddoedd golau ar wahân, ac fe ddaethant mor agos â 16,000 o flynyddoedd golau ar wahân, a oedd yn ddigon agos i achosi ‘gwrthdrawiad’, pan rhwygwyd sêr, nwy a llwch i ffwrdd – mae disg anffurfiedig a chynffonau llanw’r NGC4435 yn dyst i’r gwrthdrawiad.
Dychmygwch linell yn mynd trwy seren Vindemiatrix yn Virgo a Denebola yn y Llew; lleolir yr alaethau bron yng nghanol y ddwy seren. Maent yn rhan o linyn alaeth hyfryd a adwaenir fel Cadwyn Markarian, ac fe fyddwn yn eu trafod y mis nesaf.