GOLWG AR WYBREN Y NOS – MAI 2019

Croeso i’n rhifyn mis Mai o “Golwg ar Wybren y Nos”. Er bod wybren y nos yn goleuo wrth i ni symud tuag at dymor yr haf, mae dal rhyfeddod i’w gweld gyda’r llygaid heb gymorth, ysbienddrychau a thelesgopau. Mae hanner y DU dal yn gallu mwynhau ychydig o wythnosau ar ddechrau’r mis i wneud y gorau o dywyllwch llwyr, cyn i’r haul fachlud tua 18˚ dan y gorwel – sy’n creu cyfnos parhaus trwy’r nos, hyd nes i’r ‘Tywyllwch Astro’ ddychwelyd ar ddiwedd mis Gorffennaf/dechrau mis Awst.
Messier 10 – a dau am bris un

M10 By Hewholooks - Own work, CC BY-SA 3.0
Gwrthrych sy’n ddibynnol ar wybren dywyll yw’r Clwstwr crwn yn Ophiuchus: Messier 10. Wedi’i leoli yng nghytserau Ophiuchus, mae tua 14,300 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear ac yn cynnwys 100,000 o sêr, tua’r un maint â Chlwstwr Hercules Crwn, ond sydd â hanner o’i fàs solar (200,000 o fasau solar).
Darganfyddodd Charles Messier y gwrthrych yma ym 1764 gan ychwanegu at ei gatalog gan ei ddisgrifio fel “nifwl, heb sêr, yng ngwregysau Ophiuchus; ger y 30ain seren o’r cytser hwnnw, o’r chweched maint, yn ôl Flamsteed. Mae’r nifwl hwn yn brydferth ac yn grwn; gellir ei weld ond gydag anhawster trwy delescop cyffredin o 3-troedfedd (Hyd Ffocal).”
Gwyddom ei fod yn un o’r clystyrau crwn ifanca oherwydd nad oes ganddo llawer o fetel a bod ond 3.5% o’r elfennau trwm a geir yn yr haul! Fe fydd telesgop 3 modfedd yn datgelu craidd canolog llachar, ac fe fydd un 8 modfedd yn dechrau cydrannu’r sêr ar chwyddhad uwch. Am her, ceisiwch ei ddarganfod gydag ysbienddrych yn wybren y nos; fe ddylai gydrannu fel darn bach, aneglur. Gwrthrych ychwanegol yw ddarganfod ydyw M12, clwstwr crwn hen sydd o bosib mor hen â’r Bydysawd ei hun!
Clwstwr y Frodrwy Ddyweddïad
Ceisiwch ddod o hyd i’r clwstwr yma sy’n debyg i fodrwy ddyweddïad. Fe fydd angen ysbeinddrych a thelesgop ar gyfer y gwrthrych hwn. Seren y Gogledd, neu Seren y Pegwn, yw’r seren mwyaf llachar yn y clwstwr hwn ac mae’n debyg i ddiemwnt sy’n tywynnu. Chwiliwch am glwstwr ar ffurf modrwy gydag oddeutu wyth o sêr sy’n llai llachar. Os ydych chi eisiau gweld sut mae’n edrych, cliciwch ar y botwm yma. Seren ambegynol yw Seren y Pegwn, sy’n golygu nad ydyw byth yn machlud – ac yn ychwanegol, mae’n gorwedd mewn llinell uniongyrchol gydag echel cylchdroadol y Ddaear a Phegwn Wybrennol y Gogledd, sy’n ei wneud yn fan gyfeirnod ardderchog ar gyfer alinio rhai mowntiau telescopau sy’n symud ar hyd echel cylchdroadol y Ddaear.
Cawod o Sêr Gwib Mis Mai
Mae cawod o sêr gwib mis Mai, Eta Acuarids, yn cyrraedd ei anterth yn oriau mân y bore ar y 5ed. Mae’r Ddaear yn mynd trwy ffrydiau o falurion Comed Haley o’r 24ain o Ebrill hyd yr 20fed o Fai. Rhagwelir y bydd y flwyddyn hon yn un da am gawodydd o sêr gwib, gan iddo fod ar ei anterth yn ystod y Lleuad Newydd. Y man gorau i weld cawod o sêr gwib yw mewn ardal heb lygredd goleuni gwneud a phan nad yw’r lleuad i’w gweld yn yr wybren. Disgwylir y bydd tua 40 o feteorau yr awr i’w gweld. Oherwydd lleoliad isel yr Eta Aquarids, bydd mynediad i orwel deheulol, da yn ddelfrydol.
Cymylau’r Nos Crychdonnog

Noctilucent clouds over Uppsala, Sweden. By Gofororbit - Own work, CC BY-SA 4.0
Er bod y wybren yn goleuo i gyfnos parhaol yn ystod misoedd yr haf, mae’r cymylau Noctilucent awyrol yn rhoi sioe aruthrol o ganol mis Mai hyd ddechrau mis Awst. Edrychwch i’r wybren ogleddol oddeutu canol nos ac efallai welwch y cymylau gwawn hyn sydd wedi’u ffurfio gan iâ yn yr uchderau, sydd yn atmosffer uchaf y Ddaear (mesosffer) ac wedi’u goleuo â phelydrau’r haul. Mae tarddiad y cymylau hyn yn ddadleuol, ond mae astudiaethau diweddar wedi archwilio i allyriadau gwacáu y Wennol Ofod, gronynnau llwch oddi wrth feteorau micro neu losgfynyddoedd, a hyd yn oed y cynnydd diweddaraf mewn allyriadau llosgnwy yn cyrraedd yr atmosffer uchaf; gyda’r moleciwlau wedyn yn cynhyrchu anwedd dŵr sy’n cyfrannu at arddangosfeydd y cymylau. Yr unig beth sydd angen arnoch er mwyn eu gweld yw’ch llygaid, wedi eu haddasu i’r tywyllwch, a dillad cynnes.
Ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig dros bethau sy’n perthynol i’r lleuad, fe fydd Lleuad Newydd ar y 4ydd o Fai a Lleuad Lawn ar yr 19eg o Fai.