GOLWG AR WYBREN Y NOS – EBRILL 2021

Date: 
2 weeks 21 hours ago

Croeso i rifyn mis Ebrill o ‘Golwg ar Wybren y Nos’, ble fyddwn yn dewis  y gwrthrychau gorau yn wybren y nos y gallwch eu gweld gyda’r llygaid noeth, ysbienddrych a thelesgop.

Gorleuad mis Ebrill

Fe ddigwydd y Lleuad Newydd ar y 12fed o Ebrill a’r Lleuad Lawn ar y 27ain o Ebrill, pan adwaenir hi fel ‘gorleuad’.  Dyma’r cyntaf o dair orleuad yn 2021; fe fydd ar ei mwya agos (perige) i’r Ddaear, sef 357,378 cilometr (224,000 milltir) i ffwrdd oddi wrthym.   Pellter pellach y Lleuad oddi wrthym yw 405,000 cilometr (251,655 milltir). Mae’n bosib yr ymddengys y Lleuad ychydig yn fwy ac yn fwy llachar nag arfer.

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: Lleuad Lawn dros Graig Goch ©Sorcha Lewis

 

 

 

Cawod Sêr Wib Lyrid

Fe fydd cawod sêr wib Lyrid yn digwydd rhwng yr 16eg – 25ain o Ebrill, ac yn cyrraedd ei hanterth ar noson y 22ain o Ebrill ac yn ystod oriau mân y bore ar y 23ain o Ebrill, yn ymbelydru o gytser Lyra.  Yn gyffredinol, mae’n cynhyrchu 18 meteor yr awr ar gyfradd ei phegwn anterthol (ZHR).  Yn anffodus, mae hyn tua’r un amser â’r Lleuad Lawn, felly fe fydd y cyfle i’w gweld yn brin.  Er presenoldeb y Lleuad, edrychwch unrhyw le yn wybren y nos am olion llwch llachar, oediog y gall y Lyridau gynhyrchu – neu arhoswch tan tua 3.30 yb, pan fydd y Lleuad yn isel yn yr wybren.  Mae Comed C/1861 GI Thatcher yn gyfrifol am y gawod sêr wib hyn wrth i’r Ddaear fynd heibio’i holion llwchlyd.

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: Prokhor Minin ar Unsplash

Adnabod gyda’r llygaid noeth: cyfarfyddiad agos rhwng y Lleuad a’r Blaned Mawrth

Ar yr 17eg o Ebrill, edrychwch ar yr wybren orllewinol am gyfarfod agos rhwng y Lleuad a’r Blaned Mawrth.   Ond 0.8˚o bellter fydd rhyngddynt, sydd ond ychydig yn llai na lled eich bys bach wedi’i ddal ar hyd braich.

Adnabod gydag Ysbienddrych: Seren Ddwbl

I’r rhai ohonoch sy’n hoffi her, ceisiwch ddod o hyd i ddwy seren sydd mor llachar a’i gilydd a sy’n cylchdroi ei gilydd bob wyth mlynedd a hanner.  Wedi’i leoli yng nghytser Boötis, chwiliwch am Arcturus ac edrychwch am ffurf sydd bron fel diemwnt/barcud yn rhan uchaf y cytser.  Edrychwch am y seren ar yr uchafbwynt a’r brif seren ar y fraich dde estynedig ar gytser Hercules.

Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: v1 (de) a v2 (chwith) Boötis yng ngholau optegol.

Gyda’ch llygaid wedi canolbwyntio ar yr ardal sydd oddeutu rhwng y ddau cytser, codwch eich ysbienddrych yn araf i’ch llygaid a chwiliwch am ddau seren sydd mor llachar a’i gilydd a mwynhewch gwrthgyferbyniad y lliwiau.  V1 Boo yw’r seren oren tra bo V2 yn wynnach.

Gan David Ritter – ei waith ei hun, CC BY-SA 4.0

Adnabod gyda thelesgop: Galaeth Llygad Du

Cydnabyddiaeth y ddelwedd:  NASA a Thîm Hubble Heritage (AURA/STScI); Cydnabyddiaeth: S. Smartt (Sefydliad Seryddiaeth) a D. Richstone (Prifysgol Michigan).

I’r rhai ohonoch sydd yn berchen ar delesgop sydd ag agorfa o maint chwech modfedd neu fwy, mae’r Alaeth Llygad Du (Messier 64) yn alaeth hyfryd i’w hastudio ac yn her ddiddorol.  Wedi’i lleoli yng nghytser Coma Berenices, mae 17 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd.

Fe’i hadwaenir am ei fand enfawr o lwch sy’n rhannol cuddio’r craidd llachar a gellir gweld y nodwedd tywyll gyda’ch llygaid noeth.  Mae’r alaeth hon yn unigryw oherwydd bod yr ardaloedd pellenig yn cylchdroi yn y cyfeiriad gwrthgyferbyniol yn y nwyon mewnol.  Credir i hwn gael ei achosi pan bu gwrthdrawiad rhwng gaelaeth gyfagos ac uno â M64 tua biliwn o flynyddoedd yn ôl.