GOLWG AR WYBREN Y NOS: CHWEFROR 2021

Croeso i Olwg ar Wybren y Nos ar gyfer mis Chwefror, gan ddewis y gwrthrychau gorau yn wybren y nos i’w gweld trwy ddefnyddio telesgopau, ysbienddrych neu’r llygaid noeth. Mae’r nos dal yn dywyll am gyfnod hir sy’n berffaith ar gyfer pobl sy’ ddim eisiau aros i fyny’n hwyr er mwyn archwilio wybren y nos. Gellir gweld y rhan fwyaf o’r gwrthrychau sydd wedi’u rhestri yn rhifyn y mis hwn yn hawdd mewn wybren fwy llachar, ac nid oes angen teithio i safle dywyll.
Un gwrthrych diddorol yn ystod yr hwyrnos yw’r Orsaf Ofod Ryngwladol llachar a fydd yn teithio uwch ein pennau rhwng 5.50yh a 7.30yh yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror. Mae’n olygfa arbennig ac yn hwyl ar gyfer y plant gan ei bod yn teithio heibio fel seren araf, ond llachar.
Croesiad yr Orsaf Ofod Ryngwladol ©Sam Price
Ni fydd angen unrhyw offer optegol arnoch er mwyn gweld yr Orsaf Ofod Ryngwladol, dim ond eich llygaid noeth! Rhestrir y dyddiadau a’r amserau isod:
1af o Chwefror – Codi am 17:50 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 17:57 yn yr wybren ddwyrain-de orllewinol
1af o Chwefror – Codi am 19:27 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 19:30 yn yr wybren dde-dde orllewinol
2il o Chwefror – Codi am 18:40 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 18:45 yn yr wybren dde-ddwyreiniol
3ydd o Chwefror – Codi am 17:52 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 17:59 yn yr wybren dde-ddwyreiniol
3ydd o Chwefror – Codi am 19:30 yn yr wybren orllewin-dde orllewinol ac yn machlud am 19:33 yn yr wybren dde-dde orllewinol
4ydd o Chwefror – Codi am 18:42 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 18:47 yn yr wybren ddeheuol
5ed o Chwefror – Codi am 17:54 yn yr wybren orllewinol ac yn machlud am 18:00 yn yr wybren dde-dde ddwyreiniol
7fed o Chwefror – Codi am 17:57 yn yr wybren orllewin – dde orllewinol
Isod ceir fideo o sut mae’r Orsaf Ofod Ryngwladol yn edrych wrth iddi deithio trwy’r wybren:
©Sorcha Lewis
Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 11eg o Chwefror a’r Lleuad Lawn ar y 27ain o Chwefror. Adwaenir Lleuad Lawn y mis hwn gan y Americaniaid Brodorol fel Lleuad yr Eira, a hefyd fel y Lleuad Lwgu, gan adwaenir mis Chwefror fel mis eiraog. Roedd newyn ar ei waethaf yn ystod y mis hwn, wrth i’r cyflenwadau cadw lleihau, helgig yn brin a phobl yn hiraethu am ddyddiau cynhesach gyda’r ddaear yn dadmer er mwyn allu plannu hadau.
Edrychwch allan am gydgysylltiad diddorol o wrthrychau cain dros gyfnod o dri diwrnod o’r 17eg o Chwefror hyd y 19eg o Chwefror. Ar yr 17eg o Chwefror ar ôl iddi nosi, edrychwch tua’r de-ddwyrain a chwiliwch am y lleuad ar gynnydd. Defnyddiwch delesgop bach, chwiliwch am y Lleuad gan ei defnyddio i’ch arwain at y blaned Wranws, sydd yn y safle 2 o’r gloch i’r Lleuad. Fe fyddwch ond yn gweld arlliw gwyrdd, gwan ond fe fyddwch yn edrych ar gawr iâ sydd 2.9515 o filiynau o gilometrau i ffwrdd oddi wrthym. Mae mis Chwefror yn rhoi’r cyfle olaf i chwilio am y cawr iâ Wranws wrth iddi golli uchder yn ystod y mis hwn.
Ar y 18fed o Chwefror, fe fydd y Lleuad yn symud 4.1 gradd i’r de o’r blaned Mawrth; sydd ychydig dros led bys wedi’i ddal ar hyd braich.
Ar y 19eg o Chwefror, fe fydd y Lleuad yn ffurfio triongl ongl sgwâr gyda Pleiades a’r seren lachar Aldebaran yng nghytser y Tarw, a fydd yn edrych yn wych gyda’r llygaid noeth ac yn rhoi cyfle i archwilio’r gwrthrychau gydag ysbienddrych. Fe fydd gweld y blaned goch Mawrth a’r cawr coch Aldebaran gyda’r Lleuad yn y canol yn olygfa arbennig.
Clwstwr Comed Pefriol
Clwstwr o sêr eithaf anadnabyddus yw ein dewis ar gyfer y targed telesgop y mis hwn: mae’r Twinkling Comet Cluster (NGC 2420) yng nghytser yr Efeilliaid. Mae wedi’i leoli yn agos at gyhydedd seryddol, sef llinell ddychmygol sy’n rhedeg yn yr wybren ar hyd yr un lefel â chyhydedd y Ddaear. Er mwyn gweld y gwrthrych hwn fe fydd angen wybren hanner wledig gyda llai o lygredd golau. Fe allwch weld y clwstwr hwn gydag ysbienddrych ag agorfa 50-60mm, ond fe fydd telesgopau gydag agorfa o 80mm ac uwch yn datgelu ansawdd comedaidd i’r clwstwr o sêr agored hwn. Er mwyn dargafnod y clwstwr agored hwn, chwiliwch am y seren Pollux yn yr Efeilliaid ac ewch chwech gradd i’r de-ddwyrain.
Mae Stephen O’Meara, sef seryddwr amatur amlwg ac awdur, yn disgrifio’r clwstwr hwn megis, “.... clwstwr agored o wead cain a chyfoethog, ac yn brydferth iawn” .... a, “ .... chwech gradd i’r de de-ddwyrain o Pollus, fe welais ffurf gomedaidd crwn yn dod i’r golwg. Stopiodd fy nghalon; roedd y gwrthrych tryledol yn edrych yn ysblennydd yn erbyn brithder golau’r sêr – fel pêl eira fach aneglur ... Ond wrth i mi edrych yn fanylach gwelais ‘darth y gomed’ yn disgleirio wrth edrych draw. Wrth gynyddu’r chwyddiad, fe dorrodd y ‘tarth’ i fyrddiynau o gemau bach, pefriol.
Cymerwch ran yng nghyfrif y sêr CPRE
Orion dros Gaban Coch ©Sam Price
Gweithgarwch arall i chi allu wneud o’ch gardd yw’r cyfrif sêr blynyddol. Ymunwch drwy ddewis noson glir rhwn y 6ed a’r 14eg o Chwefror 2021, ac edrych i fyny at gytser Orion a rhoi gwybod i’r CPRE (Campaign to Protect Rural England) faint o sêr i chi ddargafnod. Gwasgwch yma am fwy o wybodaeth.