GOLWG AR WYBREN Y NOS – MIS AWST 2022

Published: 2 August 2022
Croeso i rifyn mis Awst o Olwg ar Wybren y nos. Mae gwir dywyllwch wedi dychwelyd; sy’n golygu y byddwch yn gallu gweld y Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant. Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn cyhoeddi dechrau tymor syllu ar y sêr ac mae yna llawer o wrthrychau gwych yn nyfnder yr wybren i’w gweld trwy delesgop, ysbienddrych a’r llygaid noeth. Fe fyddwn yn dethol rhai o’r trysorau gorau i chi eu gweld yn ystod mis Awst.