CYFWELIAD Â MARCELO SÁNCHEZ-CAMUS – ARLUNYDD PRESWYL

Date: 
1 year 4 weeks ago

Ymarferydd creadigol yw R.M. Sánchez-Camus, a adwaenir fel Marcelo, o Ddinas Efrog Newydd i rieni a ymfudodd o Chile.  Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhyngweithio gyda’i gynulleidfa, digwyddiadau ysblennydd cyhoeddus, cyfundrefn gymdeithasol,  “the body politic” a dychymyg trefol.  Mae ei ymarferion celf yn cynnwys creu perfformiad cydweithredol, archwiliadau seicodaearyddol, gosodiadau a digwyddiadau byw celf cymdeithasol.  Mae Marcelo yn gydsylfaenydd Social Art Network Uk ac yn ddiweddar cydlynodd y Social Art Summit yn Sheffield a arweiniodd at y Social Art Biennial sef y cyntaf yn y byd.  Mae ganddo brofiad helaeth mewn celf ac iechyd ac mae’n canolbwyntio ar gelf fel ymyriad therapiwtig yn y broses o farw.  Mae’r partneriaid diweddaraf yn cynnwys Tate Exchange, Site Gallery, Freddom Festival, Artangel and People United.  Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys erthyglau i’r papur newyddion Righting on Social Practice, Defining Praxis in Social Engagement a’r llyfrau Applied Live Art: Co-authorship in Socially Engaged Site-Responsive Performance Practice a phennod yn End of Life Care: A guide for Therapists, Artists and Arts Therapists.

 

Beth a’ch denodd i breswylfa arlunydd yng Nghwm Elan?

Mae archwilio tirlun cefn gwlad o safbwynt ymarfer celf cymdeithasol ac ymateb i safleoedd yn rhywbeth rydw i wedi dechrau datblygu yn fy nghwaith.  Oherwydd fy mod yn gweithio gyda phobl a chymunedau rwyf yn aml mewn ardaloedd daearyddol cyddwysedig o ran poblogaeth, lle mae llawer yn hawlio lle.  Yn ddiweddar fe brynais fy eiddo tiriog cyntaf, 4 erw o goedwig hynafol o fewn rhan fwy o goetir ac rydw i wedi bod yn meddwl sut i barchu natur ac i feddwl amdano fel prosiect celf hir dymor.  Felly mae’r posibilrwydd o gael byw mewn bwthyn oddiar grid a gweithio mewn gwarchodfa natur penodol, yn ffordd berffaith o gyfuno’r holl ddiddordebau.  Rydw i hefyd yn caru Cymru, rydw i’n gwneud llawer o deithiau ar y beic, cerdded a gwersylla ac wedi archwilio rhannau o’r wlad, ond roeddwn yn chwilio am ffordd i wneud cysylltiadau gyda’r pobl hyn.  Rydw i’n hunanddibynnol iawn ac roedd y syniad o gael preswylfa ar fy mhen fy hun ac i wneud cysylltiadau â’r trigolion lleol ond hefyd gan dreulio amser ar fy mhen fy hun gyda natur, yn ddelfrydol.

 

Dwedwch wrthym am eich prosiect a sut wnaethoch chi ei ddatblygu.

Mae’r prosiect sy’n dod at ei derfyn cyn hir yn rhyw fath o ganllaw cydymaith amgen i’r cwm.  Mae gan y llyfr 60 o dudalennau ac mae’n gyfuniad o lyfr celf, canllaw cerdded a rhyw fath o helfa drysor.  Fy niddordeb oedd i greu rhywbeth a oedd yn adlewyrchu’r nifer o hanesion sy’n hongian fel niwl yn y cwm, a cheisio dod o hyd i ffordd greadigol o ddod â hanes, ymfudiad, planhigion, ac wrth gwrs y gamp beirianneg a newidiodd a chadwodd yr ardal eang hon, i greu llyfr ar gyfer eich poced ar gyfer eich diwrnodau allan yn darganfod.  Ysbrydolwyd y llyfr i raddau gan lyfr byr arall The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley a greuwyd gan un o beirianwyr yr argaeau R. Eustace Tickell ar ddiwedd yr 1800au.  Chwiliais am y mannau iddo sefyll arnynt wrth iddo fraslunio’r cwm cyn iddo gael ei foddi gan wneud fy lluniau fy hun o’r mannau hynny.  Trwy hyn roeddwn yn gallu gweld y newidiadau yn y tirlun ac effaith y cronfeydd dŵr a gwarchod y safleoedd o’u cwmpas.  Treuliais lawer o amser yn cwrdd â phobl, sgwrsio â’r trigolion, staff Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Dŵr Cymru, treulio amser gyda’r Cediwaid a chael sgyrsiau anffurfiol â’r cerddwyr a’r seiclwyr sy’n gwneud eu ffordd trwy’r cwm.  Dyma’r deunydd a ysbrydolodd yr hanesion sydd yn y llyfr, ac mae pob stori wedi’i ddatblygu o safle penodol lle ail-greuais un o frasluniau Tickell ond ei weld trwy lygaid y presennol.  Un o’r sgyrsiau mwyaf ystyrlon i mi gael oedd gyda’r tirlun, teimlais nid yn unig bod yr ardal hon yn arbennig yn ei harddwch ond roedd ganddi egni penodol a oeddwn eisiau ei disgrifio fel bod annibynnol.  Felly mae llawer o anthropomorffaeth yn y llyfr.  Wrth ddilyn ymlaen ar hyd y llinellau mwyaf cudd fe ddes i o hyd i ambell ffordd o ddod â’r syniadau o hunan myfyrdod, yr hud o ddigwyddiad a rhifyddeg a hyd yn oed tarot i mewn i’r gwaith.  Mae hyn i gyda yn wahoddiad i brofi’r llyfr fel gwaith celf rhyngweithiol, un sy’n tanio’r dychymyg tra’ch bod allan yn crwydro.

 

Beth oedd eich hoff brofiad yn ystod y cyfnod preswyl?

Mae llawer o brofiadau ar y brig felly ceisiaf fod yn fyr!  Mae dod i adnabod y Barcud Coch wedi bod yn hudol, rydw i’n teimlo perthynas go iawn gyda’r aderyn gwyllt yma sy wedi bod o dan ormes, ac wedi brwydro yn erbyn difodiant.  Maent yn anifeiliaid hudol ac mae cael cymaint ohonynt o gwmpas yn creu awyrgylch unigryw nad wyf wedi ei brofi erioed o’r blaen.  Ni anghofiaf fy nheithiau cerdded dyddiol tu ôl i’r bwthyn, ac mae’r tŷ wedi’i leoli ar lwybr perffaith i fan anghyfannedd, ac ni welais neb wrth i mi grwydo yn ystod y bore i weld yr haul yn codi.  Roedd byw oddi ar y grid yn llawer o waith, ond fe wnes i wir fwynhau.  Mae treigl amser yn arafu ac yn gwneud i chi ganolbwyntio ar bethau sylfaenol bywyd: cadw’n sych, cadw’n gynnes, cadw’n lân.  Mae cael Rayburn fel cydletywr yn waith caled!  Yn olaf, y profiad mwyaf hudol oedd i gwrdd â phobl ymroddgar a brwdfrydig oedd yn byw a gweithio i, ac i gwmpas y cwm.  Mae cariad at y tirwedd ac angerdd am y lle, roedd yn wir anrhydedd cael fy nghroesawu a’m gwneud i deimlo’n gartrefol.  Rydw i wedi dechrau deall yn fwy am y balchder prydferth sydd gan y Cymry tuag at eu gwlad, hanes pwerus di-baid gyda diwylliant unigryw a chryf sy’n amlwg wedi’i gysylltu â’r tirwedd.

 

Beth ydych chi wedi dysgu am eich hun/eich gwaith?

Un o’r anrhegion mwyaf cyffrous mae’r cyfnod preswyl wedi’i roi i mi yw’r cyfle i fynd â fy ymarfer a’i leoli o fewn tirwedd gwledig gan ddatblygu modelau newydd ar gyfer cynhyrchu gwaith.  Cefais gyfle  ac  amser i dynnu lluniau ac i ysgrifennu’n farddonol, gan ymarfer rhan o fy ymennydd rydw i’n rhannu ac eraill ond ddim yn gofalu digon amdano ar gyfer fy hun.  Gyda’r prosiect roeddwn i’n gallu dysgu ffordd newydd o wneud y ddau, sy’n teimlo’n hynod o bwysig.  Rydw i’n sylweddoli nawr eich bod chi ac eraill yn elwa o wir berthynas gydweithredol.  Felly, o bosob,  beth rydw i wedi dysgu yw sut i rannu â mi fy hun.  Hyn yw gwerth cyfnod preswyl i arlunydd, lle allwch dreulio amser o ansawdd i fod yn greadigol.  Mae’r llyfr  hwn yn hollol gydweithredol gyda llawer o elfennau ‘aml-awdur’ ond eto fy llyfr celf fi ydwyw.  Felly rhywffordd rydw i wedi dechrau darganfod ffordd ddiddorol o weithio trwy fy ymarferiad cymdeithasol.

 

Sut bydd eich amser yng Nghwm Elan yn dylanwadu ar eich gwaith yn y dyfodol?

Mae cael llyfr wedi’i gyhoeddi gyda thestun barddonol wedi fy ysbrydoli i ddod â mwy o’r math hyn o waith i brosectau’r dyfodol.  Yn y blynyddoedd diwethaf rydw i’n ysgrifennu’n fwy damcaniaethol ac academaidd, ond rydw i’n barod i newid, neu o leiaf dod â’r rhan greadigol yn ôl i’r amlwg.  Felly, o ran sut rydw i’n gweld fy hun fel arlunydd a fy nghynnyrch mae hwn wedi bod yn amser arbennig iawn.  Mae gennyf hefyd y coetiroedd rydw i’n mynd i’w defnyddio fel gwaith celf cydweithredol mawr gan wahodd arlunwyr i ymateb i natur a chreu gwaith cydweithredol â’r goedwig.  Rydw i’n gweld hwn fel corff o waith sy’n tyfu, darn a all gymryd 20 mlynedd i’w gwblhau.  Gan fy mod yn gweithio mewn ffordd greadigol sy’n broses seiliedig, weithiau nid oes gwrthrych na nwyddau ar ôl i’w harddangos.  Ar gyfer y prosiect hwn rydw i’n gadael y llyfr sy’n cael ei werthu yn y Ganolfan Ymwelwyr ac yn CARAD.  Roedd yn bwysig i mi i wneud rhywbeth hygyrch ond arbennig.  Wrth symud i’r dyfodol gallaf weld gwir werth gwrthrych celf rydych chi’n gallu fforddio i brynu ac i’w gael, mae rhywbeth arbennig am y berchnogaeth hynny a’r weithred o rannu.  Mae wedi bod yn bwerus i gael profi’r cyfnod preswyl ac i fod mor agos at gwblhau’r llyfr arbennig hwn i’r cwm.  Gobeithiaf fod llawer mwy o lyfrau i ddod yn y dyfodol!

 

I ddarllen rhagor am ein harlunwyr preswyl eraill, gweler isod:

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-zillah-bowes-arlunydd-preswyl

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-gyda-daniel-crawshaw-arlunydd-preswyl

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-gyda-ts-anna-adri-schokker-arlunydd-preswyl

 

 

Elan yn Galw

“Mae gan y llyfr 60 o dudalennau ac mae’n gyfuniad o lyfr celf, canllaw cerdded a rhyw fath o helfa drysor.  Fy niddordeb oedd i greu rhywbeth a oedd yn adlewyrchu’r nifer o hanesion sy’n hongian fel niwl yn y cwm, a cheisio dod o hyd i ffordd greadigol o ddod â hanes, ymfudiad, planhigion, ac wrth gwrs y gamp beirianneg a newidiodd a chadwodd yr ardal eang hon, i greu llyfr ar gyfer eich poced ar gyfer eich diwrnodau allan yn darganfod.” – R.M. Sánchez-Camus (Marcelo)

“Mae’r gair hyfryd yn aml yn cael ei or-ddefnyddio ac yn cael ei danbrisio, ond dyma’r gair y byddwn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio “Elan yn Galw” a’r teithiau cerdded mae’n disgrifio.  Mae’n hyfryd, ac mae teithio gyda’r llyfr i mewn i Gwm Elan yn brofiad sy’n ail swyno ac yn dyfnhau perthynas y darllenydd ynghyd â’i brofiad o’r tirwedd, pa mor gyfarwydd y maent ag e.” – Catherine Allen, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: CARAD ac Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr