CYFWELIAD GYDA DANIEL CRAWSHAW – ARLUNYDD PRESWYL

Date: 
6 months 2 weeks ago

Magwyd Daniel Crawshaw ar y Gororau ac mae bellach yn byw a gweithio yn Llundain.  Mae’n gwneud lluniau a ysbrydolwyd gan lefydd anghysbell, mynyddig ac mae wedi teithio’n helaeth yn y DU a thu hwnt.

 

Yn 2013 roedd yn arlunydd preswyl ym Mharc Cenedlaethol Alpine yn Victoria, Awstralia.  Cafwyd rhagolwg o’r sioe gorffenedig a elwid ‘High Country Gothic’ yn Ymddiriedolaeth Sidney Nolan yn Llanandras cyn teithio i amgueddfeydd rhanbarthol yn Awstralia.  Gwnaethpwyd cyfres o bedwar llun mawr mewn ymateb i fforestydd anfaddeugar Victoria ac fe’u prynwyd gan Oriel Gelf Gippsland yn 2014.

 

Mae Daniel yn parhau i gadw cysylltiad agos â Chymru ac wedi bod yn preswylio yn Mharc Cenedlaethol Eryri.  Fe’i gynrychiolir gan Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd ac mae’n cynnal arddangosfeydd yn aml yng Nghymru, gan ennill cydnabyddiaeth am ei luniau sensitif ac atgofus.

 

BETH OEDD APÊL CYFNOD PRESWYL YNG NGHWM ELAN?

 

Fe’m magwyd yn yr ardal hon ac rwy wedi bod yn artist gweithredol am nifer o flynyddoedd yn Llundain.  Roedd y syniad o ddychwelyd i Ganolbarth Cymru am gyfnod o astudiaeth ddwys yn apelio ataf o’r dechrau.  Rydw i’n gweithio gyda lluniau tirlun a’n cysylltiadau â lleoedd, felly roedd y syniad o ddarganfod Cwm Elan, lle nad oeddwn yn ei adnabod a oedd unwaith ar drothwy fy nhrws, yn atyniadol.

 

Roedd cael gweithle mewn dinas brysur yn hynod, ond, i mi, mae bywyd ond yn gwneud synnwyr gyda chyfnod allan yn y tirlun yn casglu deunydd.  Mae’r broses creadigol i mi yn golygu dod â’r profiadau yn ôl i’r stiwdio a gweithio o’r cof mewn gwagle gwrthrychol.  Yn aml rydw i’n gyfyngedig i ychydig o ddyddiau i ffwrdd – efallai yn crwydro yn y Pyrenees neu’n aros mewn byncws yn Eryri.  Mae’r cyfnod preswyl yma yn golygu cymryd amser estynedig i ffwrdd mewn man anghysbell a fydd yn caniatáu ymchwiliad trochiad trylwyr. Dyma gyfle!

 

Dwedwch wrthym am eich prosiect a sut rydych wedi’i ddatblygu

 

Roeddwn i eisiau cyfuno cerdded yn y tirwedd ag ymchwil hanesyddol fel bo’r lluniau wedi’u seilio ar argraffiadau a gwybodaeth gefndirol.  Fel arfer rydw i’n cerdded a thynnu lluniau, ond yma roeddwn yn awyddus i archwilio a chofleidio syniadau a chyfryngau a fyddai’n cyfrannu at fy lluniau mewn modd mwy uniongyrchol.

 

Rhannais fy nghyfnod preswyl i bedair wythnos wahanol trwy’r Gwanwyn.  Tra’n cerdded bron bob dydd, archwiliais yn eang.  Weithiau crwydrais y tu hwnt i’r dalgylch cyn dychwelyd, gan deimlo’r tir o dan fy nhraed yn union fel y byddai teithiwr cannoedd o flynyddoedd yn ôl.  Troediais lawer o dir a’r teithiau yn gynyddol ddiddorol wrth i’r lleoliad suddo i’m hybwyddyddiaeth mewn dirgel ffyrdd – fel petaent yn cropian i mewn trwy’r drws cefn.  Cefais fy hun yn archwilio arwynebedd y dŵr yn ceisio gweld trwyddo, yn lledu fy nychymyg gyda’r dasg o wagio’r dyffrynnoedd a darganfod agweddau ar y berthynas rhwng y gorffennol a’r cyfoes.

 

Roedd fy ymchwil arall yn amrywiol; delweddau archif o’r argaeau wrth iddynt gael eu hadeiladu, cysylltiadau’r Ail Ryfel Byd, mapiau o’r tir gwreiddiol, olrhain cwrs y bibell i Birmingham ac archwilio’r cysylltiad â Shelley.  (Gwnaeth y bardd ymweliadau niferus, gan gael ei ysbrydoli ymhell cyn dyfodiad y llynnoedd).  Dechreuodd fy stiwdio lenwi â chymysgwch o ddelweddau perthnasol.

 

Roedd dod o hyd i gydbwysedd rhwng mewnsylliad ac ymwneud â’r gymuned leol hefyd yn nod pwysig.  Roeddwn yn awyddus o’r dechrau i rannu fy mhrofiadau gyda meddyliau hen ac ifanc.  Daeth ymweliadau ag ysgolion a gweithdai yn allweddol i alluogi eraill i weithio’n uniongyrchol gyda fy neunydd ac i weld yr ardal o safbwyntiau newydd.

 

Dechreuais weithio yn fy stiwdio o’m cyfeiriadau ffotograffiaeth mewn cyfres agos gyda phalet unffurf.  Ar raddfa fach ymddangosodd fy mheintiau fel cofebau bychan rhithiol, fel petai rhywbeth coll o’r gorffennol yn ceisio cyhoeddi ei bodolaeth.  Gwneuthum ddarluniau o wrthrychau yn yr amgueddfa y gallent cael eu hysgubo yn y dilyw gan eu hysgythru ar bapur fel petaent wedi profi triniaeth pwysau uchel.   

 

Beth oedd eich hoff brofiad yn ystod eich cyfnod preswyl?

 

Roedd sylwi ar ddosbarthiadau yn cynhyrchu gwaith gydag egni a sensitifrwydd yn ystod eu hamser ysgol yn wych.  I raddau, er yn bell o fy nheithiau cerdded pell roeddent fel petaent yn dod ag ysbryd y lle i’w peintiadau.  Hyfryd oedd cynnig offer, cyd-destun a gwagle creadigol iddynt i’w lenwi.

 

Nid yw rhyfeddod peintio yn gynhenid soffistigedig, yr allwedd yw dod o hyd i ryw fath o alcemeg.  Gweithiodd y myfyrwyr o fy neunydd crai gan greu rhai darnau gwych.  Gweithiais gydag oedolion yn CARAD gan ddefnyddio’r un ffynhonellau a chyfyngiadau i’r graddau bod yna gorpws o waith wedi’i gynhyrchu sy’n pontio’r cenedlaethau.

 

At hyn wrth ystyried cyfnod fy wythnosau o Ionawr i Fai, cefais ymdeimlad o’r Gwanwyn yn ymwthio allan o’r tywyllwch.  Roedd teimlo gwres yr haul am 7yh ar hwyrnos o Fai yn foment i’w wir drysori.  Myfyriais am yr holl flynyddoedd hynny pan oedd pobl yn byw heb drydan a gydag adnoddau prin.  Rhyfedd mewn cyfnod preswyl yw profi’r fath  mewnwelediad syml.

 

Beth ydych chi wedi dysgu am eich hun/eich gwaith?

 

Roedd yn fwriad gennyf i ymchwilio fy hanes teuluol a’r treftadaeth dadleoli sydd yn bresennol mewn unrhyw gynllun cronda ddŵr.  Fel llawer o bobl roedd gen i argraff plentyndod ond nid oeddwn yn gwybod amdano mewn unrhyw fanylder.

 

Y braslun oedd bod fy mam wedi’i symud o Birmingham i’r Gororau yn dilyn marwolaeth ei thad yn ystod Blitz 1940.  O ganlyniad, fe ges i a fy mrodyr a’m chwiorydd ein magu yn Sir Faesyfed.  Yn sgil fy nghyfnod preswyl daeth dyddiadur fy nhad-cu i’r golwg, fe ddes i o hyd i gartref plentyndod fy mam, a safle’r ffatri lle bu farw fy nhad-cu.  Roedd yntau’n ‘warchodwr-tân’ a threuliodd nosweithiau tywyll y bomio yn chwarae cardiau gyda’i gyd-weithwyr rhag ofn i’r adeiladau gael eu taro.  Pan oedd adref, a bod y gaeaf rhewllyd yn caniatáu, aeth ati i balu lle ychwanegol i’r lloches cyrch awyr.  Mae ei gofnod yn diweddu yn sydyn yn Hydref 1940 wrth i Archdales gael ei ddinistrio yn ystod cyrch awyr yn y nos gan adael fy mam-gu a fy mam a oedd ar y pryd yn chwe mis oed.

Mae’r hanes hwn yn fy atgoffa bod adeoli yn aml ynghlwm â pherthyn, adnabyddiaeth a theulu gan weu llwybr cymhleth.  Mae Cymru a’i thirwedd i mi, i raddau helaeth, yn gartref mabwysiedig.  At hyn nid oeddwn wedi rhagweld gwrthdaro cynhenid Cwm Elan, mor amlwg fel y bo modd ei esgeuluso.  Islais prydferthwch tawel, mewn gwirionedd yn cuddio lleoliad sydd wedi profi trawsnewid a thrawma hanesyddol colli tirlun gweithiol.  Bellach mae gennyf ddealltwriaeth dyfnach bod pobl a lle wedi’u cysylltu a bod ein cymdogaeth yn dynodi ein perthyn a’n adnabyddiaeth.  Rhaid i gynlluniau datblygu “er lles pawb” parchu gwerthoedd cysylltiol tir a chymuned.

 

Gall amser fod yn rhywbeth rhyfedd ac mae’n elfen gref i’r cyfnod preswyl hwn. Dangosodd i mi y gall unigrwydd a chaledi domestig fod yn rhan o ddisgyblaeth sy’n croesi llinell rhwng lle, perthyn a datblygiad creadigol.  Fel arfer yr rwyf yn cofleidio unigrwydd ond mae’r cyfnod preswyl hwn wedi ei fireinio yn hollol i mi fel offeryn archwilio.

 

Sut y bydd eich amser yng Nghwm Elan yn dylanwadu ar eich gwaith yn y dyfodol?

 

Mae gennyf gyfoeth o ddeunydd crai i’w bori, mae lluniau yn britho fy stiwdio ac fe fydd yn cymryd amser i wneud synnwyr o lawer o ddechreuadau.  Rwyf yn hoff o weithio dros rychwant o raddfeydd ac mae gennyf rhai cynfasiau mawr 2m yn barod i weithio arnynt.  Eisoes mae fy nghyfres o beintiadau bach yn dwyn y teitl ‘Ghost Notes’ wedi’i harddangos ac wedi derbyn derbyniad da; gyda rhai eisoes wedi’u prynu gan gasglwyr!  Felly mae digon o reswm dros barhau â rhain.  Rwyf hefyd wedi bod yn peintio ar bapur, sy’n faes newydd i mi ac sy’n rhoi ansawdd o amwysedd sy’n apelio ataf.

 

Mae rhai o’r themau o Elan yn cyd-fynd â mewnwelediadau a ddatblygais wedi cyfnod yn Awstralia ac rwy’n gwybod y bydd y themau hyn yn lliwio fy meddyliau am flynyddoedd i ddod.  Yn enwedig yn yr amcangyfrif isel sydd gennym o’r cysylltiadau rhwng tir, cymuned, teulu a iechyd cymdeithasol.  Mae fy nghyfnod wedi ail gadarnhau nad oes angen teithio i lefydd pellenig er mwyn deall y berthynas rhwng lle ac adnoddau a bod llawer o themau byd eang i’w gweld yn lleol.

 

Ar sawl lefel mae fy lluniau yn gynrychiolaeth syml ac fe fydd y cyfnod preswyl yn rhoi cyfeiriadau newydd a fydd o bosib yn tanlinellu fy nghwaith.  Gobeithiaf y bydd yn arwain at luniau newydd sy’n cyfeirio at absenoldeb yn y tirwedd a’r hyn sy’n gorwedd o dan neu du hwnt i’r llun.  Rwyf yn gyson yn ceisio mynegi y cysylltiad tenau hwnnw i le, y synnwyr o adnabyddiaeth y tu hwnt i leoliad daearyddol.  Dysgodd Elan i mi y gall etifeddiaeth y gorffennol, ‘ysbrydion’ ein rhagflaenwyr fod yn agosach i’n profiadau dyddiol nac yr ydym yn tybio.

 

I ddarllen rhagor am ein harlunwyr preswyl eraill, gweler isod:

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-gyda-ts-anna-adri-schokker-arlunydd-preswyl

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-zillah-bowes-arlunydd-preswyl

https://www.elanvalley.org.uk/news/article/cyfweliad-marcelo-s-nchez-camus-arlunydd-preswyl