
Y Beudy
Yn fyr
- Cysgu 3-5
- Uned o Dŷ Hir Llannerch y Cawr
- Mae opsiwn i archebu dau uned y Tŷ Hir gyda’i gilydd sy’n rhoi gostyngiad o 5%
- Newid drosodd ar ddydd Gwener
- Caniateir archebu rhan o’r wythnos (Gwener-Llun, Llun-Gwener)
- Nid yw’n addas ar gyfer plant ifanc neu’r eiddil
- Croesawir cŵn
- Ystlumod yn y to
- Dim derbyniad ffôn symudol ond mae llinell BT yn yr adeiladau
- Dim wi-fi
Rhan isaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Y Beudy, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.Adnewyddwyd yr adeilad ym 1999 gan gadw llawer o’r nodweddion traddodiadol ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel dau uned hunan arlwyol sef yr uchaf – Hen Dŷ a’r isaf – Y Beudy. Gellir archebu’r ddau uned gyda’i gilyddsy’n rhoi gostyngiad o 5% (ar bris wythnos gyfan).
Lleolir Tŷ Hir Llannerch y Cawr ger cronfa ddŵr Dôl y Mynach yng Nghwm Claerwen a cheir mynediad hawdd i brif ffordd Cwm Claerwen.Mae’r adeilad 7 milltir tu allan i dref Rhaeadr a thua 4.5 milltir o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.
Yn hanesyddol mi fuasai rhan Y Beudy yn y Tŷ hir wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer da byw gan ychwanegu y llawr cyntaf yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu’n gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg.Mae Y Beudy yn cynnwys nodweddion dilys trawiadol megis lloriau o goblau a fflagenni, nenfydau â thrawstiau, ystrwythurau o bren a hyd yn oed ystlumod yn y to!
*Noder bod y lloriau yn anwastad oherwydd y coblau ac felly yn llai addas ar gyfer yr ifanc a’r eiddil.
Llety
Cyfleusterau
Bath
Shower
Woodburner
Open Fire
Washing Machine
Tumble Dryer
Fridge
Freezer
TV & Freeview Channels
DVD
Payphone
Heating included
Electricity (via a generator) included
Linen & Towels provided
Logs & Kindling included
Picnic Area
Outdoor BBQ
Enclosed Garden
Travel Cot & High Chair
lleoliad

Archebwch Nawr
Archebwch nawr
I archebu defnyddiwch y dewisydd mis uwchben y calendr er mwyn dod o hyd i’ch mis dewisol. Gosodir yr adeilad o ddydd Gwener hyd ddydd Gwener felly mae’r rhifau amlwg yn dynodi pryd y gall y cyfnod rhentu ddechrau. Caniateir Arhosiad Byr o ddydd Gwener hyd ddydd Llun a dydd Llun hyd ddydd Gwener a gellir eu bwcio ar-lein. Os oes unrhyw anhawster ffoniwch ni ar 01597 810449 neu ebostiwch info@elanvalleytrust.org
Nodwch wrth lanw’r wybodaeth ganlynol eich bod yn caniatáu i’ch data personol gael ei gadw. Cedwir y data ar gyfer gwneud y bwcio ac ni rennir neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall.