
Hen Dŷ
Yn fyr
- Cysgu 4-6
- Uned Tŷ Hir Llannerch y Cawr
- Mae opsiwn i archebu dau uned y Tŷ Hir gyda’i gilydd sy’n rhoi gostyngiad o 5%
- Newid drosodd ar Ddydd Gwener
- Anaddas ar gyfer plant ifanc neu’r eiddil
- Croesawgar i gŵn
- Ystlumod yn y to
- Dim derbyniad ffôn symudol ond mae llinell BT yn yr adeilad
- Dim wi-fi
Rhan uchaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Hen Dŷ, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd yr adeilad ym 1999 gan gadw nifer o’r nodweddion traddodiadol, ac erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio fel dau uned hunan arlwyol, yr Uchaf – Hen Dŷ a’r Isaf – Y Beudy. Gellir llogi’r ddau uned gyda’i gilydd sy’n rhoi gostyngiad o 5% (ar bris wythnos gyfan).
Lleolir Tŷ Hir Llannerch y Cawr ger gronfa ddŵr Dôl y Mynach yng Nghwm Claerwen gyda mynediad hawdd i brif ffordd Cwm Claerwen. Mae’r adeilad 7 milltir tu allan i dref Rhaeadr a thua 4.5 milltir o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.
Yn hanesyddol mi fuasai pobl wedi byw yn rhan Hen Dŷ o’r Tŷ Hir ac mae’n cynnwys lloriau fflagenni dilys, lle tân agored llydan, nenfydau â thrawstiau, grisiau cerrig (anwastad) dirdroad* a hyd yn oed ystlumod yn y to!
*Noder bod y lloriau yn anwastad oherwydd y lloriau anwastad a’r grisiau dirdroadol nid yw’r adeilad hwn yn addas ar gyfer yr eiddil neu phlant ifanc.
Llety
Cyfleusterau
Bath
Shower
Woodburner
Open Fire
Washing Machine
Tumble Dryer
Fridge
Freezer
TV & Freeview Channels
DVD
Payphone
Heating included
Electricity (via a generator) included
Linen & Towels provided
Logs & Kindling included
Picnic Area
Outdoor BBQ
Enclosed Garden
Travel Cot & High Chair
lleoliad

Archebwch Nawr
I archebu defnyddiwch y dewisydd mis uwchben y calendr er mwyn dewis eich mis dewisol. Gosodir yr adeilad o ddydd Gwener hyd ddydd Gwener felly mae’r rhifau amlwg yn dynodi pryd y gall y cyfnod rhentu ddechrau. Caniateir Arhosiad Byr o ddydd Gwener hyd ddydd Llun a dydd Llun hyd ddydd Gwener a gellir eu bwcio ar-lein. Os oes unrhyw
anhawster ffoniwch ni ar 01597 810449 neu ebostiwch info@elanvalleytrust.org