Byncws Cwm Clyd
Mae gan ein llety eang at bwrpas, bopeth sydd angen arnoch i gael amser da yn ystod eich arhosiad yng Nghwm Elan. Mae’r llety hunan arlwyol yn groesawgar a chyffyrddus gyda chyfleusterau wedi’u cynllunio’n addas sy’n eich galluogi i ymlacio ar ôl diwrnod yn yr awyr agored. Mae’r ardd heddychlon yn cynnig lle perffaith i fwynhau’r nosweithiau gyda lle i eistedd tu allan, a ffwrn cob yn cael ei gosod yn ystod yr haf.
Mae lleoliad Y Byncws yn hwylus ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr awyr agored megis cerdded, seiclo a physgota, ac yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr ym Mharc Wybren Dywyll Cwm Elan. Rydym yn cynnig awyrgylch ymlaciol gyda golygfeydd godidog a rhywbeth at ddant pawb.
Mae’r brif ystafell fyw yn cynnig cegin gyda ffwrn Rangemaster ac ystafell fwyta gyda thân llosgi coed, mae’r bloc cawod hefyd yn rhan o’r adeilad gyda 2 cuddygl cawod, 3 toiled a 2 basn ymolchi. Nodwch nad oes cyfleusterau dynion/menywod ar wahân.
Fe all Y Byncws gynnig llety i 21 o bobl mewn chwech ystafell ac fe ellir ei logi fel dau le ar wahân – chwech yn Y Cartws, ac 14 yn Y Tŷ Hir, gyda’r un ychwanegol yn yr ystafell sydd yn hygyrch i gadair olwyn yn yr ardal fwyta, fe ellir ychwanegu hwn tra’n bwcio.
Rhennir Y Tŷ Hir i 3 ystafell, ac fe all gael ei adael ar agor ar gyfer un grŵp mawr neu ei gloi’n unigol.
Mae’n berffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau neu ar gyfer dau deulu yn dod at ei gilydd.
Cyfleusterau
Yng nghanol Cwm Elan
Lle parcio ar gyfer nifer o geir
Cegin â chyfarpar llawn gyda Rangemaster, 2 oergell, 1 rhewgell, microdon, tegell ar gyfer yr hob, tostiwr
Tân llosgi coed
Ystafell sychu
- 3 toiled/2 gawod
- Dim ysmygu
- Byrddau bwyta sy’n eistedd hyd at 21
- Lle eistedd tu allan ac yn yr ardd
- Mae croeso i anifeiliaid anwes pan logir yr holl le
Pethau i’w nodi:
- Dim wi-fi
- Dim signal ffôn
- Generadur pŵer oddiar y grid
- Dim gwres yn yr ardaloedd cysgu
ARCHEBWCH NAWR:
Y Tŷ Hir:
- Hyd at 9 o bobl dros 2 ystafell: £180
- Rhif ychwanegol dros 9 person: £20 y person
- Y Tŷ Hir cyfan: £265
- Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £15 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)
Y Cartws:
- Ystafell bync (1 ystafell) – hyd at 4 o bobl: £80
- Y Cartws cyfan (2 ystafell) – hyd at 6 o bobl: £115