Coetiroedd

Gorchuddiwyd Ystâd Elan a’r ardal o’i chwmpas mewn coedwig o dderw, bedw a chyll nes i gliriadau gan ddyn ar gyfer amaethyddiaeth ddechrau tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl.  Ugain mlynedd yn ôl ar Ystâd Elan cafwyd 350 hectar o goedwig conwydd a 100 hectar o goedwig lydanddail.  Perchnogir a rheolir y rhan fwyaf o’r coedwigoedd gan Dŵr Cymru Welsh Water, yn anad dim ar gyfer y bywyd gwyllt.  Mae’r goedwig lydanddail i gyd ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn adnabyddus fel “coetiroedd naturiol hanner hynafol”.   Y rhywogaeth ddominyddol yw’r Dderwen Ddi-goes.  Mae’n gwahaniaethu o’r Dderwen Goesynnog gan fonion byr y mes a bonion hir y dail; mae’r Dderwen Goesynnod yn wrthwyneb i hyn.

Rowan Tree in blossomPlannwyd y conwydd dros y 150 mlynedd diwethaf gan gynnwys rhywogaethau megis llarwydd, Sbriws Norwy a Sitca, ffynidwydd Douglas a ffynidwydd yr Alban.   Mae llawer o’r rhain wedi’u hail-blannu gan hadau brodorol sydd wedi’u casglu’n lleol er mwyn creu coetiroedd brodorol.  (Mae nawr llai na 350 hectar o goedwig gonwydd gan ei fod wedi ei drawsnewid i gyflwr brodorol.)  Dim ond un blanhigfa conwydd fydd yn cael ei gadw gan ei fod bellach wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y planhigion is.  Rheolir y goetir am ei bywyd gwyllt o flaen unrhyw enillion masnachol.  Mae’n le gwych i weld croesbigau, pilaod gwyrdd a chyffylogod.

Mae’r coed llydanddail brodorol yn cynnwys derwen ddi-goes, bedwen gyffredin, cyll, onnynn, helygen y geifr, draen gwynion, draen duon a gwern.  Cyflwynwyd ffawydd, masarn a chastanwydd, yn enwedig pan oedd Ystadai o fewn yr Ystâd cyn boddi’r dyffrynnoedd.

Bywyd gwyllt pwysica’r coetiroedd hynafol yw’r mwsoglau, cennau, rhedyn a ffwng.  Maent aml yn tyfu dros y coed oherwydd yr hinsawdd llaith a’r diffyg cymharol o lygredd aer.   Mae’r mathau o blanhigion sydd ar yr haenen waelod yn amrywio yn ôl y math o bridd gwaelodol a faint o bori ar glychau’r gog-mieri-rhedyn, llus i’r gwair a’r rhedyn sy’n dominyddu i’r ardaloedd sy’n cael eu dominyddu gan fwsoglau iach.

Mae coetiroedd gydag amrywiaeth strwythurol yn darparu cynefin llawer mwy cyfoethog mewn infertebratau na rhesi o goed o’r un oedran ac uchder.  Yn anffodus, prin bo diffyg ymyraeth yn mynd i ddarparu amrywiaeth digonol yn y mwyafrif o goetiroedd Prydain sydd wedi goroesi, felly mae angen rheolaeth gweithredol.  Yn y gorffennol mae llawer o arolygon wedi’u gwneud ar Goetiroedd Cwm Elan ac mae cynlluniau i ymgymryd â rhagor o reolaeth trwy Brosiect  Treftadaeth y Loteri.

Gwybedwr smotiog

Mae pren marw yn gydran hanfodol o’r coetir, a gellir yn hawdd ei anwybyddu a’i glirio fel rhwybeth sy’n ddiolwg neu oherwydd diogelwch neu daclusrwydd.  O ganlyniad, mae rhywogaeth o infertebratau sy’n dibynnu ar bren marw nawr o dan fygythiad.  Yng Nghwm Elan rydym yn ceisio cadw cymaint o gynefinoedd y pren marw o fewn y coetiroedd.  Gall hyn gynnwys canghennau marw, bonion a choed sy’n sefyll.

Mae Coetiroedd Cwm Elan yn gynefin pwysig iawn i’r Gwybedwr Brith sy’n dychwelyd i genhedlu bob blwyddyn.  Adar eraill y goetir yw telor y coed, tingoch, tylluan y coed a’r gwybedwr smotiog (ymyl y cynefin)