Adar Cwm Elan

Mae gan Gwm Elan 12 o Safloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd o dan adain Ardal Gwarchodaeth Arbennig Elenydd, o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt Ewropeaidd.  Mae wedi’i harolygu nifer o weithiau dros y blynyddoedd am ei phlanhigion a ffawna amrywiol, ac mae’r cofnodion yn rhoi darlun gwerthfawr o fioamrwyiaeth yr ardal. Ceir tua 400,000 o ymwelwyr i’r ardal yn flynyddol a gan fod llawer o rhain yn frwydfrydig dros yr adar a’r bywyd gwyllt, maent yn ychwanegu nifer o gipolygon achlysurol i’r rhestr.  O ganlyniad, mae’r adar ar Ystad Elan yn cael sylw trylwyr, gyda 180 o rywogaethau wedi’u cofnodi hyd yma.

Mae gan yr Ystâd wlypdiroedd, corsydd ar yr uwchdiroedd, dolydd, nentydd a choetiroedd cymysg ynghyd â chronfyedd dŵr, felly mae’r amgylchedd yn eithaf amrywiol.  Mae’r adar yn y cynefinoedd yma yn gyffredinol yn rhai a ddisgwylir i’w gweld ynghyd â rhai rhywogaethau sy’n eithaf cyfyngedig yn eu rhaniadau.  Mae’r rhai o’r cynefinoedd yn lleihau ac yn mynd yn dameidiog ar Ynysoedd Prydain.

Mae gan Ddyffrynoedd Claerwen ac Elan adar ymfudol sy’n hedfan heibio yn y gwanwyn a’r haf i diroedd bwydo a chenhedlu. Gellir gweld y Fôr-hwyaden Ddu ar y cronfeydd dŵr ac mae’r Fwyalchen y Mynydd fel arfer yn ymweld wrth ymfudo er mwyn bwydo ar y criafol.  Yn hwyr yn yr hydref, mae nifer fawr o ysguthaniaid wedi’u cofnodi, a gall yr Adar Adeingoch ac Adar yr Eira ymweld ac aros hyd Chwefror.  Mae rhai adar wedi’u cofnodi megis y Fronfraith Garreg Las, Gwylan Fach, Aderyn Drycin Manaw, Aderyn Drycin y Graig a’r Pibydd Torchog, yn cael eu hystyried fel rhai sydd tu allan i’w cynefin naturiol ond sydd wedi ‘galw heibio’.  Oherwydd y cynefinoedd amrywiol sydd ar yr Ystâd, mae yma amrywiaeth  o anifeiliaid a phlanhigion sydd braidd yn cael eu cofnodi oherwydd bod yr amgylchedd sy’n addas iddynt yn lleihau.  Mae’n hanfodol felly fod yr ardal arbennig yma yn cael ei gwarchod.

Mae rhywogaethau golfan y cynefin uwchdiroedd ar yr Ystâd yn cynnwys Corhedydd y Waun, Llinos, Ehedydd, Clochdar y Cerrig a Bras y Gors sy’n arhosol drwy’r flwyddyn.  Ymfudwyr yw’r Tinwen y Cerrig sy’n cyrraedd fel arfer ar ddiwedd mis Mawrth, ac sy’n cenhedlu mewn holltau creigiog ac mewn hen dyllau cwningod.  Daw Crec yr Eithin i genhedlu ym mis Ebrill ac fel arfer yn aros hyd ddiwedd mis Awst cyn dychwelyd i’r Affrig i dreulio misoedd y gaeaf.  Gellir eu gweld weithiau yn clwydo ar goed bach neu lwyni o gwmpas yr Ystâd. 

Mae Chwilgorn y Mynydd a’r Pibydd y Mawn yn dal i gael eu cofnodi mewn ardaloedd ehangach o’r uwchdiroedd o wair y Rhostir Porffor er bod y rhifau wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf.

Adar yr ucheldir a’r dolydd yw’r Gylfinir. Mae eu galwad byrlymus ac atgofus yn arwydd bod y gwanwyn ar ddod ac roeddynt ar un adeg yn cael eu clywed yn rheolaidd yng Nghwm Elan.  Mae’r Gylfinir yn dal i genhedlu yma ond mewn niferoedd llai.

Ymwelwyr y gaeaf i’r Ystâd yw’r Boda Tinwyn a’r Gïach ac mae’n well ganddynt yr ardaloedd gwlyb, a’r corsydd ar yr uwchdiroedd.  Gellir gweld y Cudyll Bach yn yr haf a’r hydref er bod rhai adar yn preswylo ac yn aros trwy gydol y flwyddyn.

Cyrhaedda’r Dylluan Glustiog ar gyfer y gaeaf ac maent yn gallu bod yn gyffredin os yw’n flwyddyn wael i’r Llygod y Gwair ar y cyfandir.  Gellir eu gweld weithiau yn hela dros ardaloedd agored o gorsydd a gwlypdiroedd.  Gellir gweld Mwyalchen y Mynydd yn y gwanwyn a’r hydref wrth iddynt alw heibio ar y ffordd i’w tiroedd cenhedlu a bwydo.  Roedd y Bronfreithod ymfudol yma yn arfer cenhedlu ar yr Ystâd, fodd bynnag nid yw arolygon diweddar yn dangos eu bod yn nythu yma bellach.  Mae hwn yn arwydd o’r dirywiad cyffredinol sydd i’w weld ar draws y wlad.  Mae’r adar yma ar Restr Goch Adar o Bryder Cadwraethol ac mae eu niferodd yn gostwng ar draws Ynysoedd Prydain fel adar sy’n cenhedlu.

Meadow PipitYm misoedd y gwanwyn a’r haf gall y dolydd gwair ar yr uwchdiroedd cynnal Gylfinir sy’n nythu, Corhedydd y Waun a’r Gog.  Mae’r Gog yn meddianu nyth Corhedydd y Waun, yn dodwy wyau ac yn gadael i’r adar bach yma magu eu babanod ac felly mae’r ddwy rhywogaeth yn aml yn cyd-fyw.

Corhedydd y Waun

Ceir Tylluan Wen yn y dolydd ar yr uwchdiroedd ac yn aml fe’u gwelir yn y caeau yn yr haf yn hela am Lygod y Gwair.  Mae nifer bach yn nythu ar yr Ystâd.

Uwchben y dolydd mae’r bryniau yn aml wedi’u gorchuddio gan redyn a grug ar ddiwedd yr haf.  Gelwir y cynefin nodweddiadol yma yn Ffridd yn y Gymraeg. Dyma ymylon yr uwchdiroedd ac mae’n ardal amlwg o fryn wedi’i orchuddio â gwair, brigiadau creigiog a choed wedi’u gwasgaru ar y bryniau sy’n cael eu defnyddio fel ‘pyst canu’ i Gorhedydd y Coed, Crec yr Eithin a Chlochdar y Cerrig.

Cofnodir y Cudyll Coch yn bennaf yn yr hydref wrth iddynt alw heibio’r Ystâd ac fe’u gwelir yn aml yn eistedd ar goed arunig ar y ffridd.  Nid ydynt fel arfer yn cenhedlu yng Nghwm Elan er roedd pâr wedi adeiladu nyth mewn coeden o dan un o’r argae.

Mae’r nentydd sy’n llifo’n gyflym ar yr Ystâd yn gartref i Aderyn Du’r Dŵr a’r Siglen Lwyd.  Maent yma trwy gydol y flwyddyn, ac yn cenhedlu ar lan yr afon yn y gwanwyn a’r haf.  Gwelir Aderyn Du’r Dŵr yn aml yn plymio i mewn i byllau o ddŵr i ddal infertebratau dyfrol, yn enwedig larfae’r pryfed y cerrig.

Aderyn trawiadol o felyn a llwyd yw’r Siglen Lwyd sy’n byw wrth ymyl dŵr sy’n llifo’n gyflym, ac mae’n nodedig am iddo siglo ei gynffon hir.  Fe’i welir yn aml ar lan y dŵr.

Gellir gweld Pibydd y Dorlan a’r Hwyaden Ddanheddog ar neu o gwmpas afonydd Claerwen ac Elan, ynghyd ac ar y cronfeydd dŵr.   Yn aml fe clywir Pibydd y Dorlan cyn eu gweld ac maent yn nodedig oherwydd eu galwad treiddgar, pibellog.  Dros y blynyddoedd diwethaf mae niferodd Pibydd y Dorlan wedi gostwng, ac maent ar hyn o bryd ar y restr melyngoch o Adar o Bryder Cadwraethol.

Ceir y Gwyach Fawr Gopog a’r Gwyach Fach gan amlaf ar y cronfeydd dŵr.  Mae’n well ganddynt pen bas y dŵr ac yn aml fe welir tasgiad bach o ddŵr wrth iddynt blymio’n aml.

Mae’r mathau o hwyaid sy’n cael eu cofnodi’n aml yn cynnwys Cornhwyaid, Hwyaden Wyllt ac yn fwy diweddar yr Hwyaden Gribog.  Yn tarddu o Asia, mae’r mewnfudwr lliwgar yma wedi cenhedlu’n llwyddiannus yn yr ardal ac weithiau yn cael ei gyfrif mewn ffigyrau dwbl ar y cronfeydd dŵr.

Mae’r Môr-hwyaden Ddu a’r Hwyaid Llygad Aur yn ymwelwyr gaeafol i’r cronfeydd dŵr, yn enwedig Dôl y Mynach yn Nyffryn Claerwen.

Cofnodir yr Wylan Benddu ar y cronfeydd dŵr fel arfer ym misoedd hwyr yr haf a’r Wylan Benddu Fawr, mewn niferoedd bach, yn enwedig ym misoedd y gaeaf.

Mae amrywiaeth cymysg o goetiroedd ar yr Ystâd yn cynnwys dwysedd cymharol uchel o goed Derw, yn enwedig y Dderw Di-Goes.  Mae’r mwsoglau, llys yr afu a chennau yn y cynefin coetiroedd yn llawn o bryfed ac mae’r lindys ‘Green Tortrix’ yn aml yn fwyd i’r adar ifanc.

Mae’r mathau o adar y coetiroedd sy’n dod i Gwm Elan er mwyn cenhedlu yn cynnwys ymfudwyr o’r Affrig megis y Pibydd Brith, Coch y Berllan a Telor y Coed.

Mae’r ymfudwyr y coetiroedd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf ac mae llawer ohonynt ar y restr Coch neu Felyngoch o Adar o Bryder Cadwraethol.  Ar hyn o bryd maent yn dychwelyd i’r coetiroedd gorllewinol bob blwyddyn i genhedlu ac felly mae’r coetiroedd yma ar yr Ystâd yn arbennig o bwysig.

Tingoch gwrywaidd

Mae’r Tingoch yn aderyn trawiadol y cynefin coetiroedd.  Mae hefyd yn rhywogaeth ymfudol, yn dod o’r Affrig i genhedlu yn ein coed cynhenid ac mae’n well ganddynt dyllau neu gilfachau mewn waliau, ond maent yn defnydio blychau nythu hefyd.  Fe welir y Pila Gwyrdd a’r Croesbig yn bennaf yn y coetiroedd conifferaidd, ac mae’r Gwyddwalch, Gwalch Glas a’r Boda yn preswylo yma

Mae’r ardaloedd conifferaidd yma yn darwagio fel rhan o reolaeth yr Ystâd, gan adael iddynt adfywio yn eu cyflwr naturiol o goetiroedd collddail.  Mae’r derw di-goes, sy’n llawn amrywiaeth,  yn gynhenid i’r ardal hon gydag isdyfiant amrywiol o fwsoglau, llys yr afu a chennau.  Mae’n gartref i nifer o bryfed mae’r adar, wrth gwrs, yn dibynnu arnynt am eu bwyd.

Pibydd Brith

Mae’r Pibydd Brith yn nythu mewn tyllau naturiol yn y coed ond maent yn barod i ddefnyddio’r blychau nythu.  Yn debyg i’r Pibydd brech, maent yn aml yn hedfan o gangen i ddal pryfed ac yna dychwelyd i’r un gangen.  Fodd bynnag, maent yn dueddol o hedfan i’r llawr yn fwy aml.

Mae Telor yr Ardd, Penddu, y Dryw Wen a Thelor y Coed hefyd yn ymwelwyr haf i’r coetiroedd, yn cyrraedd yn y gwanwyn i genhedlu. Maent yn nythu ar y llawr, yn aml mewn tir prysg a mieri er mwyn diogelwch, a maent i’w clywed yn canu o’r canghennau yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Mae cân unigryw a phrydferth y teloriaid i’w glywed yn y gwanwyn wrth iddynt chwilio am gymar, ac wedyn i ddal gafael ar eu tiriogaeth cenhedlu.

Mae cân  Telor yr Ardd a’r Penddu yn felodig ac fel ffliwt.  Fodd bynnag, mae eu cân yn debyg iawn ac anodd gwahaniaethu rhyngddynt yn eu cynefin.

Mae y Dryw Wen a Thelor y Coed yn debyg iawn o ran pryd a gwedd, ond mae eu cân yn wahanol iawn.  Mae gan y Dryw gân o ansawdd ddisgynnol a sŵn eithaf cerddorol.

Mae cân Telor y Coed yn nodedig gan iddo ddechrau fel tril, weithiau’n cael ei disgrifio fel ‘ceiniog troi’ ac wedyn yn newid i ddisgyniad pibell o nodau.  Mae Teloriaid y Coed yn nythu ar y llawr ymhlith y mwsogl ac isdyfiant y coetiroedd.

Mae rhywogaethau arhosol Prydeinig arall i’w canfod yn rhwydd yn y coetrioedd trwy gydol y flwyddyn, ac mae’r tri math o Gnocell y Coed wedi’u cofnodi ar yr Ystâd.

Mae’r Dylluan Frech yn cenhedlu mewn holltau yn y coed a gellir eu clywed yn yr hydref a’r gaeaf yn galw er mwyn sefydlu eu tiriogaeth.  Maent yn hela yn y coetiroedd am lygod a llygod y gwair ac hefyd am infertebratau oddi ar lawr y coetir.  Mae eu llygad wedi’u haddasu ar gyfer lefel isel o olau, ac mae’n fwy tebygol y cewch eu gweld a’u clywed wrth iddi nosi.
 

Gellir gweld y Barcud Coch golygus yn rhwydd ar draws yr Ystâd, ac er nad ydynt yn gyffredinol yn adar y coetiroedd, mae angen coed mawr arnynt ar gyfer nythu.  Bu bron i’r aderyn hardd hwn ddiflannu ym Mhrydain, ac nid oedd ond un pâr ar ôl yng Nghanolbarth Cymru tua tri deg mlynedd yn ôl.  Fe fu ymdrech gwarchod enfawr er mwyn diogelu dyfodol y Barcud Coch, a bellach maent i’w gweld ar draws Gwm Elan ynghyd â nifer o ardaloedd eraill Ynysoedd Prydain.