Hanes
Wrth i chi fwynhau llonyddwch a thawelwch Cwm Elan mae’n anodd dychmychu fod ganddo hanes mor hir ac amrwyiol. 4,000 o flynyddoedd yn ôl gwnaeth pobl Oes y Cerrig eu cartrefi yn y fforestydd derw, bedw a chyll. Daeth y Celtiaid a’r Rhufeiniaid i’w dilyn.Yn ddiweddarach mwynwyd adnoddau Elan. Erbyn hyn mae argaeau a chronfeydd dŵr Elan yn darparu dŵr ar gyfer poblogaethau arwyddocaol.
Llinell Amser
4000CC Dechreuodd pobl Oes y Cerrig clirio’r fforestydd derw, bedw a chyll ar raddfa fach.
2000CC Cododd trigolion Oes yr Efydd carneddau a meini.
500CC Cyrhaeddodd Celtiaid Ordofigiaidd o Ewrop.
87CC-400OC Cyfnod y Feddiannaeth Rhufeinig, sefydlwyd gwersyll milwrol dros dro yn Esgair Perfedd.
500OC Dechreuodd mynachod Celtaidd ffermio’n barhaol ar y bryniau.
600OC Sefydlwyd anheddiad mynychaidd yn Nôl y Mynach.
1171 Adeiladwyd Castell Rhaeadr gan un o dywysogion Cymru, Rhys ap Gruffudd.
1184 Rhoddwyd tiroedd plwyf Cwmdeuddwr, gan gynnwys ardaloedd Elan a Chlaerwen, i Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur gan Rhys ap Gruffudd.
1195 Gorchfygwyd Rhys ap Gruffudd gan Mortimer yng Nghastell y Paun
1231 Dinistrwyd Castell Rhaeadr gan Llywelyn Fawr.
1300au Gorchmynodd Edward 1 clirio eang o fforestydd Elan, gan fod y coed yn rhoi lloches i ladron.
1536 Daeth y Ddeddf Uno â Chymru o dan gyfraith Lloegr. Daeth tiroedd mynachaidd yn eiddo i Goron Harri’r VIII.
1796-1877 Bu mwyngloddio metalau’n gynhyrchiol yng Nghwm Elan.
1798 Ymwelodd y bardd William Lisle Bowles â Chwm Elan a chyhoeddodd y gerdd Coombe-Ellen.
1811 Daeth Thomas Grove yr ieuengaf (cefnder Shelley) yn Feistr ar Ystâd Cwm Elan.
1811 Ymwelodd y bardd Percy Bysshe Shelley â Chwm Elan rhwng mis Mehefin a mis Awst.
1812 Ym mis Ebrill dychwelodd Shelley gyda’i wraig Harriet er mwyn ymsefydlu yng Nghwm Elan, y tro hwn yn byw yn Nantgwyllt. Roedd rhaid iddynt adael eu cartref erbyn mis Mehefin oherwydd amgylchiadau ariannol a gwleidyddol.
1843-1844 Arweiniodd dirwasgiad economaidd cyffredinol ac anfodlonrwydd hir gyda’r tollau at Derfysgoedd Beca, a enwyd oherwydd roedd yr ymosodwyr yn cuddwisgo trwy pardduo eu hwynebau a gwisgo dillad menywod.
Diwedd yr 1800au Roedd herwhela yn digwydd fel her i’r ymgais i reoleiddio pysgodfeydd yr eogiaid.
1883-1899
Roedd mwyngloddio Nant y Garw yng Nghwm Rhiwnant yn gynhyrchiol.
1892 Dechreuodd y gwaith ar adeiladu argaeau Cwm Elan.
1904 Cwblhawyd argaeau Cwm Elan ac fe’u hagorwyd gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra.
1914-1918
1939-1945 Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Gwarchodwyd yr argaeau rhag ymosodiadau.
1946 Dechreuodd y gwaith ar argae Claerwen.
1952 Agorwyd argae’r Claerwen gan y Frenhines Elizabeth II fel un o’i dyletswyddau cyntaf fel brenhines.
1965 Dynodwyd safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig cyntaf ar yr Ystâd.
1974 Dynodwyd y cwmnïau dŵr unigol a rhoddwyd y cyfrifoldeb i Dŵr Cymru Welsh Water ar gyfer Ystâd Elan, argaeau a chronfeydd dŵr.
1985 Agorwyd Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
1989 Mae Elan yn cael ei chynnwys yn Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwm Elan ar ôl preifateiddio’r cwmnïoedd dŵr er mwyn gwarchod y bywyd gwyllt ar yr Ystâd ac i hywyddo mynediad a dealltwriaeth y cyhoedd.
1995 Dynodwyd Ardal Gwarchodaeth Arbenig i Elenydd-Mallaen o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt Ewropeaidd.
1997 Agorwyd estyniad newydd y Ganolfan Ymwelwyr.
2002 Mae argae’r Claerwen yn dathlu hanner can mlynedd ers i’r cyhoedd allu ei weld o’r tu mewn.
2004 Mae Argae Cwm Elan yn dathlu canmlwyddiant, gyda digwyddiadau arbennig.