Y Rheilffordd
Adeiladwyd Rheilffordd Cwm Elan ar gyfer hwyluso’r gwaith o adeiladu argae i Gorfforaeth Dŵr Birmingham.
Y rheilffyrdd oedd y ffyrdd mwya cyffredin o gludiant.Roedd un yn cludo offer, deunydd a dynion i safleoedd yr argaeau, ymwelwyr o Birmingham a hefyd y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 21ain o Orffennaf 1904.
Dechreuwyd y gwaith o adeiladu’r rheilffordd ym 1893 a chwblhawyd y gwaith ym 1896. Adeiladwyd o ledau rheilffyrdd safonol mewn pedwar rhan. Roedd cromliniau byr y traciau yn gofyn am locomotif echelydd byr.
Adeiladwyd cyffordd ddwbl i ymuno â Rheilffordd y Cambria ger Rhaeadr.
Archwiliwyd a phasiwyd Llinell Gangen Rheilffordd Cwm Elan gan arolygwr o’r Bwrdd Masnach ym mis Gorffennaf 1894 a dymaddechrau swyddogol cangen Rheilffordd Cwm Elan.
Aeth Rheilffordd 4 i argae pella Craig Goch. Bu rhaid ffrwydro hanner ffordd ar hyd y llwybr a dileu’r adeiladu am dri mis, gan roi iddo’r enw ‘Ceunant y Diafol’!
Enwyd y locomotifau ar ôl afonydd a nentydd ar yr Ystâd. Cafwyd y ddau cyntaf ym mis Ebrill 1894 a’u henwi yn Elan a Claerwen. Ymunodd Nant Gwyllt a Methan ym mis Hydref 1894 a Rhiwnant a Calettwr ym 1895.
Trawsnewidiwyd y Ganolfan Ymwelwyr o’r hen weithdai ac roedd rhan o’r maes parcio yn safle i sied y locomotifau a’r leiniau aros.
Erbyn 1898 roedd y graddiannau serth 1:33 ar ambell ran o’r rheilffordd wedi achosi niwed i’r locomotifau gwreiddiol, a phrynwyd Coel a Marchnant.
Ar ei amser brysuraf roedd gan y rheilffordd 53 cilometr (33 milltir) o drac. Defnyddiwyd 17 cerbyd er mwyn cludo’r gweithwyr i’w safleoedd gwaith a defnyddiwyd y traciau ar gyfer craeniau wedi’u pweru ag ager, driliau trydan a malwyr. Ar anterth yr adeiladu symudwyd 1000 o dunelli o ddeunydd bob dydd!
Gwerthwyd locomotifau Gwaith Dŵr Corfforaeth Birmingham ym 1906.
Datgysylltwyd Cyffordd Ddwbl Cwm Elan ym 1908.
Yn olaf caewyd Rheilffordd Cwm Elan ym 1916.
Yn 2004, i ddathlu canmlwyddiant agor yr argaeau, fe lwyddon i ddod â’r unig locomotifi oroesi (Rhiwnant) yn ôl i Gwm Elan o berchennog preifat yn Ne Ddwyain Lleogr.
Heddiw, fe allwch ddilyn hen lwybr y rheilffordd ar Lwybr Cwm Elan, sy’n ymestyn am 13 cilomedr (8 milltir) o Gwmdauddwr (tu allan i Raeadr) i argae Craig Goch. Mae hwn yn cydrhedeg â phedwar argae gyda golygfeydd godidog, a gellir ei ddefnyddio gan gerddwyr, seiclwyr, merlotwyr a’r rhai llai abl.
Ceir mwy o wybodaeth am reilffordd Cwm Elan yn llyfr C.W. Judge ‘The Elan Valley Railway’, a gyhoeddir gan Oakwood Press.