Daeareg

Moroedd Hynafol a drift cyfandirol

Ffurfiwyd y creigiau gwaelodol o dan dirwedd Cwm Elan allan o waddodiona dyddodwyd rhwng 445 a 433 o filiynau o flynyddoedd yn ôl, yng nghyfnod yr Ordoficaidd hwyr a’r Silwraidd cynnar.  Enwyd y cyfnodau daearegol yma ar ôl dau lwyth Brydeinig a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a’r Feddiannaeth Rufeinig.  Roedd tiriogaeth yr Ordivicii, sy’n golygu ymladdwyr morthwyl, yn cynnwys Mynyddoedd y Cambria a Chwm Elan.

Dyddodwyd y gwaddodion hynafol hynmewn basn môr dwfn, a elwir nawr yn Fasn Cymreig.  Ffurfiwyd hwn ar ymyl  microgyfandir yr Afalonia Dwyreiniol, pryd hynny ger Pegwn y De, pan dorrodd i ffwrdd o ehangdirdeheuol enfawr y Gondwana.  Miliynau o flynyddoedd yn ddiweddarach rhannwyd gweddill y Gondwana yn Affrica, De America, India, Awstralasia ac Antarctica.  Ond roedd tynged gwahanol i Ddwyrain Afalonia, a ddaeth yn Ne Prydain (gan gynnwys Cymru), De Iwerddon a rhannau o ogledd a dwyrain Ewrop.  Cawsant eu cludo tua’r gogledd gan grymusterau platiaudectoneg gan wrthdaro gydag ehangder cyfandirol enfawr arall o’r enw Laurentia (Gogledd America, Yr Ynys Las, Yr Alban a Gogledd Iwerddon).  Digwyddodd y gwrthdrawiad yma tua 425 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ar 25 gradd o’r de i’r cyhydedd, gan greu cyfandir y Laurussia (yr Hen Gyfandir Tywodfaen Coch) a unodd gogledd a de Prydain ac Iwerddon ar yr ymyl deheuol.

Eirlithradau Tanddwr

Yn ystod ei daith 50 o filiynau o flynyddoedd tua’r gogledd casglodd y Basn Cymreig trwch mawr o laid a thywod a olchwyd o ucheldir y de a’r dwyrain.  Ymgaslodd y rhan fwyaf ar sgafell fas ar ymyl Afalonia gan adeiladu’r sgafell allan i fôr dyfnach.  O’r diwedd daeth y pentyrrau o waddodion yn ansefydlog gan achosi eirlithradau tanddwr i raeadru i lawr i waelod y môr dwfn.  Gelwir y cerrynt hyn yn gerhyntau tyrfedd a llifodd i lawr y llethr sgafell gan ffurfio ffaniau delta tanfor enfawr.

Ffurfiant Tyrbiditigure

Ffigwr 1. Ffurfiant Tyrbiditigure

Ffurfiwyd holl greigiau ardal Cwm Elan allan o waddodion a dyddodwyd gan gerhyntau tyrfedd ac fe’u gelwir yn dyrbidit.  Yn raddol, claddwyd y gwaddodion a’u cywasgu gan bwysau’r gwaddodion uwchben, gwasgwyd peth o’r dŵr allan a thyfodd crisialau yn y gofod bach rhwng y graen, a’u huno â’i gilydd i ffurfio creigiau.  Mae’r gwelyau tyrbidit unigol wedi eu graddio gyda’r gwaddodion tryma megis cerrig crynion, graean, tywod neu silt ar y gwaelod gan esgyn i’r llaid ysgafna ar y brig.  Mae’r haenau garw yn gwrthsefyll erydiad yn well ac yn dueddol o ffurfio’r pentiroedd creigiog.

Daeargrynfeydd a Chanionau Tanfor

Mae’r Caban Conglomrate yn dyrbidit arbennig a greuwyd gan fàs plastig o gerrig crynion, tywod a llaid.  Pan gafodd ei aflonyddu, o bosib gan ddaeargrynfeydd, rhuthrodd y màs i lawr y llethr cyfandirol ar gyflymder uchel iawn gan gerfio canion tanfor trwy’r dyrbiditmain.  Mae’r graig amryfaen yma yn galed a gwydn iawn.  Ffurfiodd Drygarn Fawr, y man uchaf yn yr ardal, y tir uchel i’r de a’r dwyrain o’r Ganolfan Ymelwyr a’r clegyr ar ochrau gogleddol a deheuol argae Caban Coch, Craig Gigfran a Craig Cnwch.  Dyna paham yr adeiladwyd yr argae yma, yn y dyffryn cul rhwng y clegyr.  Cloddiwyd y graig o Graig Gigfran a’i ddefnyddio  fel y deunydd crai ar gyfer y rhan fwyaf o’r argaeau.  Nawr defnyddir y chwarel fel maes parcio.

 

Ffigwr 2. Craig Gigfran with thick sequense of the Caban Conglomerate Formation turbidites. Courtesy of Dilys Harlow.

Cyfoeth Mwynau

Rhwng 405 a 390 o filiynau o flynyddoedd yn ôl cafodd y Basn Cymreig ei wasgu’n raddol gan ragor o symudiadau’r plât tectonig.  O ganlyniad, cywasgwyd y creigiau, eu gwthio i fyny’n rymrus, eu plygu a’u torri.  Oherwydd y gwres a’r pwysau a gynhyrchwyd ym mherfedd y creigiau anffurf, trawnewidiwyd y cerrig llaid i lechi gan wasgu’r dŵr o’r mandyllau rhwng y graen.  Treiddiodd y dŵr poeth, gwasgeddedig trwy’r creigiau gan doddi allan mwynau megis plwm, copr a sinc.  Yn raddol, treiddiodd yr hylif llawn mwynau i mewn i’r toriadau, eu ehangu a’u hymestyn gan broses a elwir yn doriad hydrolig, gan achosi’r mwynau i grisialu fel gwythiennau o fewn y toriadau.  Cloddiwyd am blwm, copr a sinc yng nghwm Rhiwnant a Chwm Elan o ddiwedd y ddeunawfed ganrif a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Mae’r hen weithiau dal i’w gweld a gellir ymweld â nhw.

  

Ffigwr 3. Cwm Elan Mines. Courtesy of David James

Oes yr Iâ

Dechreuodd Oes yr Iâ diwethaf 2.6 o filiynau o flynyddoedd yn ôl.  Tybiwn fod y rhan fwyaf o Gymru wedi’i gorchuddio â iâ yn ystod y cyfnod yma ond tystiolaeth o’r cyfnod diwethaf sydd gennym.  Dechreuodd hwn 26,000 o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd o’r diwedd 11,700 o flynyddoedd yn ôl.  Am o leia 11,000 o flynyddoedd roedd canolbarth Cymru wedi’i gorchuddio â llen iâ trwchus a oedd yn llifo’n rheiddiol tuag allan, gan grafu i ffwrdd niferoedd anhysbys o greigiau.  Ffurfiwyd y rhan fwyaf o ucheldir ardal Elan o greigiau o galedrwydd tebyg, felly canlyniad effaith yr iâ oedd creu llwyfandir dyranedig ar yr ucheldir, gydag ond ychydig o’r tir uwch â haen waelodol o greigiau cymharol caled.  Mae’n debyg y sgrafellwyd y rhan fwyaf  o lynnoedd ar yr llwyfandirallan o greigiau lleol a oedd yn fwy meddal gan yr iâ wrth iddo basio.  Llifodd yr iâ i lawr cymoedd afonydd a oedd eisioes yn bodoli,  gan eu gwneud yn fwy dwfn, fflat a llydan ac felly creu tirffurf dyffryn ffurf U , fel y gwelir yng Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen.

Wrth i’r rhewlif doddi fe greodd lyn ym mlaenddŵr Elan yn Gors Lwyd gan greu tirwedd unigryw o ddyddodion gwely’r llyn.  Wrth i’r llyn gorlifo i’r gorllewin, ychwanegodd at yr erydiad iâ cynharach i ffurfio ceunant serth ar ffurf V yng Nghwm Ystwyth uchaf.  Creuodd llifeirianto ddŵr tawdd rhagor o geunentydd ar ffurf V trwy Gwm Elan a Dyffryn Claerwen.  Mewn man arall iriwyd gwaelod ac ochrau’r cwm â chlog glai a chreigiau wedi’u malu a adawyd pan doddodd yr iâ.  Mae hwn erbyn hyn yn cynnal y coetiroedd. Yn nes ymlaen daeth y dyffrynoedd dwfn hyn yn safleoedd perffaith ar gyfer cronfeydd dŵr.

Ffigwr 4 Gors Lwydigure. Courtesy of Bob Vaughan

Mae’r rhan fwyaf o’r tir uchaf gwastatedig uwchben y dyffrynoedd â haen waelodol o garreg laid sydd ddim yn draenio’n dda.  O ganlyniad, mae llystyfiant corsog wedi ffynnu, gan gynhyrchu haenau trwchus o fawn o dan y gorgorsydd pwysig.  Lle mae’r graig gwaelodol yn fwy mandyllog mae’r dolydd ar yr ucheldir a’r rhostiroedd sychach yn ffynnu.

Mae tirwedd Cwm Elan yn seiliedig ar ei hanes daearegol.

Text courtesy of Dilys Harlow