Cyflenwi Birmingham
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yng nghyfnod y Chwyldro Diwydiannol, tyfodd poblogaeth Birmingham yn gyflym. Nid oedd llawer o ddŵr glân ac roedd heintiau o glefydau a gludwyd gan ddŵr gan gynnwys teiffoid, colera a dolur rhydd. Dechreuwyd ymgais gan Gyngor Dinas Birmingham, o dan arweiniad Joseph Chamberlain, i chwilio am gyflenwad dŵr glân i’r ddinas.
Roedd James Mansergh eisioes wedi nodi potensial Cwm Elan a Dyffryn Claerwen fel storfa ddŵr; roedd gan yr ardal:-
- Ar gyfartaledd glawiad blynyddol o 1830mm.
- Cymoedd cul i lawr yr afon a fyddai’n gwneud adeiladu’r argaeau yn haws. Creigweliau anathraidd a fyddai’n atal y dŵr rhag dryddiferu.
- Uchder –mae’r ardal gan mwyaf yn uwch na Birmingham sy’n galluogi’r dŵr i gael ei gludo gan ddisgyrchiant, heb angen iddo gael ei bwmpio.
Cytunodd Corfforiaeth Birmingham a phasiwyd Deddf Seneddol i brynu’n orfodol holl dalgylch dŵr yng Nghwm Elan a Dyffryn Claernwen (180 sgwâr cilomedr). Arweiniodd y dewis o Gwm Elan fel ffynhonell cyflenwad dŵr Birmingham at greu tirwedd newydd ysblennydd yng Nghanolbarth Cymru.
Tynnir y dŵr oddi wrth Dŵr y Foel iweithfeydd trin dŵr Severn Trent. Caiff ei lanhau gan welyau tywod ffilter disgyrchiant cyflym ac ychwanegir clorin, fflworid a chalch (er mwyn niwtraleiddio’r dŵr asidig).
Saif Tŵr y Foel 52m uwchben Cronfa Ddŵr Frankley yn Birmingham. Mae graddiant y draphont sy’n eu cysylltu ar gyfartaledd yn 1 mewn 2,300, sy’n galluogi’r dŵr i lifo trwy ddisgyrchiant.
Tynnir dŵr oddi wrth gronfa ddŵr Caban Coch i weithfeydd trin Dŵr Cymru sy’n rhoi cyflenwad i’r ardal leol. Gall 360 miliwn o litrau o ddŵr ar gyfartaledd gael eu tynnu bob dydd ar gyfer cyflenwi Birmingham. Unwaith y cwblhawyd argae’r Claerwen fe fu bron dwyaith o ddŵr ychwanegol ar gael i Birmingham.