Ceidwaid Cwm Elan
Yn fyr
Profwch Saffari gyda’n Ceidwaid!
Fe fydd ein Ceidwaid gwybodus wrth eu boddau yn cyd-deithio â chi ar eich ymweliad. Fe fyddwch yn gweld cymaint mwy. Dyma’r ffordd berffaith o wneud y mwya o’ch diwrnod. Am ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau ewch â thaflen ddigwyddiadau neu edrychwch ar “Beth sydd Ymlaen” ar y wefan neu gysylltwch â’n Ceidwaid ar 01597 810880 neu ebostiwch ni.
Mae’n tîm o Geidwaid yn gwneud gwaith gwarchod natur ymarferol, ynghyd ag ysgrifennu cynlluniau goruchwyliaeth, taflenni a gwybodaeth arall am y bywyd gwyllt, a helpu’r nifer o ymwelwyr i Ystâd Elan i fwynhau ac i werthfawrogi cefn gwlad a’i bywyd gwyllt. Mae’r Ceidwad Addysg yn arwain ysgolion yn eu hastudiaethau maes. Mae mwy nag ugain o baneli gwybodaeth am y bywyd gwyllt o gwmpas yr Ystâd. Ceir gwybodaeth am y cynefinoedd gwahanol drwy 180 cilomedr o lwybrau â chyfeirbwyntiau a thaflenni ynghyd â Llwybr Natur Coedwig Cnwch a Llwybr Cwm Elan. Mae’r Ceidwaid wedi gosod mwy na 300 o flychau nythu ar gyfer Gwybedog Brith, Adar Coch y Fflam, Titw(s) a Thylluanod y Coed ynghyd â 50 o flychau nythu ar gyfer yr ystlumod.
Mae ardal Ystâd Elan yn 180 sgwâr cilomedr; mae ganddi 12 o Safleodd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol a nifer helaeth o anifeiliaid a phlanhigion prin. Mae’n denu dros 400,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gwaith Ceidwaid Cwm Elan felly yn amrwyiol iawn ac yn gyffredinol yn dod o dan dri phennawd:
Rheoli’r Ystâd yn Ymarferol
- Gwarchod ac atgyweirio’r llwybrau a’r mannau adloniant sy’n bodoli.
- Agor a chreu llwybrau newydd.
- Rheolaeth ar warchod bywyd gwyllt yn ymarferol.
- Casglu sbwriel o lefydd picnic, afonydd, glannau’r cronfeydd dŵr ac ochrau’r ffyrdd.
Dehongliad
- Arwain a chefnogi ysgolion a cholegau gyda’u gwaith amgylcheddol a’u hymweliadau â’r Ystâd.
- Arwain teithiau tywys, digwyddiadau bywyd gwyllt ac i’r teulu, rhoi sgyrsiau a darlithoedd.
- Ymchwilio a chynhyrchu deunydd dehongliadol megis taflenni, arddangosfeydd a phaneli dehongliadol.
- Gofalu am arddangosfeydd y Ganolfan Ymwelwyr a rhaglenni clywedol a gweledol.
- Ateb ymholiadau am Gwm Elan. Cynnig cyngor, awgrymiadau a gwybodaeth i’r cyhoedd a sefydliadau.
Cadw Trefn
- Gwarchod yr holl fywyd gwyllt, y deuddeg Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a 800 hectar Gwarchodfa Natur Genedlaethol Claerwen.
- Patrolio’r Ystâd er mwyn gwarchod y cyflenwad dŵr ac i atal unrhyw weithgareddau anghyfreithlon a niweidiol.
Lleolir y Tîm o Geidwaid yn y Ganolfan Ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ac maent yn barod i drafod unrhyw ymholidau sydd gennych. Galwch yn ein swyddfa, neu ffoniwch ni ar (01597) 810880.
Mae’n tîm yn cynnwys Ceidwad Addysg yr Amgylchedd a all helpu gydag ymweliadau addysgol i’r Ystâd, naill a’i ysgolion cynradd neu uwchradd, colegau a phrifysgolion. Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar gyfer ymweliadau hunan-dywysedig, ynghyd â gweithgareddau a arweinir gan Geidwaid a theithiau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni addysgol neu ffoniwch y Ceidwad Addysg ar (01597 810390).