Seiclo ar y Ffyrdd
Mae gan Elan enw da am lwybrau seiclo mynydd naturiol, a adleisiwyd gan Red Bull trwy osod Elan in Wales ymhlith y deg uchaf o lwybrau seiclo mynydd.
Wedi’i leoli ymysg cefndir ysblennydd yr argaeau a’r cronfeydd dŵr Fictorianaidd, bryniau agored, hen reilffyrdd a choetiroedd, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd wrth i chi ddisgyn trwy’r cwm.
Ceir dewis o lwybrau, o ddechreuwyr i deithiau hirach a fwy technegol, ond mae croeso i bawb. Mae ein gwasanaeth llogi beiciau o’r Ganolfan Ymwelwyr yn ddi-drafferth ac fe fyddwch ar gefn eich beic cyn pen dim, cliciwch yma am ragor o wybodath.
Bydd ein partneriaid o mbwales.com yn eich cysylltu’n hwylus i lwybrau Elan a Rhaeadr (gan gynnwys llawrlwythiadau GPX i’ch dyfais GPS):
The Ant Hills: 1 – 1.5 awr/9 cilomedr (Glas)
O gwmpas Caban: 1 awr/ 15 cilomedr (Coch)
Gwersyll Rhufeinig: 3-4 awr/32 cilomedr (Coch)
Cylchdaith Nannerth: 3 awr/29 cilomedr (Coch)
Golf Links: 1 awr/13 cilomedr (Coch)
Cylchdaith Dyffryn Gwy: 2 awr/19 cilomedr (Coch)
Bwthyn Du: 3-4 awr/30 cilomedr (Du)
Elan Epig: 7 awr/60 cilomedr (Du)
Am ganllaw i system lliw y llwybrau (anhawster), cliciwch yma.
Am wybodaeth ynglyn â ‘Rheolau’r Llwybrau’, cliciwch yma.
Fe fyddwn yn ychwanegu rhagor o lwybrau yn fuan. Cadwch lygad barcud ar y dudalen hon neu gofrestrwch am ein cylchlythyr sydd wrth droed ein gwefan.