Pysgota
Mae tymor pysgota 2018 ar y cronfeydd dŵr o 20fed o Fawrth hyd 17eg o Hydref. Mae taflen wybodaeth am bysgota a thrwydded ar gael o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.
Rheolir pysgota bellach i ffwrdd ar Afon Gwy/Elan a Marteg ynghyd â Llyn Llyngwyn gan Gymdeithas Genweiriol Rhaeadr a Chwm Elan, rhif cyswllt (01597 810383) neu ewch at www.rhayaderangling.co.uk
Rhaid i bob pysgotwr dros 12 oed gael trwydded wialen. Mae’r rhain ar gael o Swyddfa Bost ac ar-lein. Ni roddir hawl bysgota heb drwydded wialen ddilys. Am wybodaeth am drwyddedau wialen ewch at Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ceir gwybodaeth am y gwahanol fathau o drwyddedausydd ar gael ar gyfer Cwm Elan isod:
Ceir tri math o drwydded:
TRWYDDED CRONFA DDŴR CWM ELAN
Mae hwn ar gyfer 35 cilomedr o draethlin Cronfeydd Dŵr Cwm Elan (Caban Coch, Garreg Ddu, Pen y Garreg a Craig Goch), ac eithrio ardal fechano gadwraeth pysgod a bywyd gwyllt rhwng Pont Penbont ac argae Pen y Garreg. Pysgota plu yn unig ar yr argaeau yma.
Pris: £12 y diwrnod, £4 trwydded iau (o dan 18 oed), mae tocynnau tymhorol hefyd ar gael.
Trwydded Gronfa Ddŵr Claerwen
Ar gyfer 20 cilomedr o draethlin ar gronfa ddŵr Claerwen, ac eithrio ardal fechan o gadwraeth pysgod a bywyd gwyllt ar y pen uchaf.
Yr holl nentydd sy’n bwydo cronfa ddŵr y Claerwen.
Y llynnoedd ar yr uwchdiroedd, ac eithrio Llyn Gwngu, Llyn Fyrddon Fach, Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Du. Pygsota plu yn unig ar yr argae yma.
Pris: £10 y dydd; £4 iau (o dan 18)
Trwydded Afon
Tymor pysgota brithyll: 3ydd o Fawrth hyd 30ain o Fedi
Tymor pysgota bras: 16eg o Fehefin hyd 14eg o Fawrth
Abwyd ar yr afonydd drwy ganiatâd Asiantaeth yr Amgylchedd, ni chaniateir cynrhon.
Mae pysgota ar Afon Claerwen o Argae Claerwen i lawr at bont y ffordd uwchben Cronfa Ddŵr Dôl y Mynach.
Pris: £7 y dydd, £4 Iau (o dan 18)
Nodwch:
- Ni roddir trwydded ar gyfer Ystâd Elan heb ddangos Trwydded Bysgota Eog a Brithyll Asiantaeth yr Amgylchedd neu brawf oedran os yn 11 neu’n iau.
- Nid oes trwyddedau ar gael i Gronfa Ddŵr Dôl y Mynach.
- Darllenwch y rheolau ar drwyddedau cyn pysgota.
- Ni chaniateir gwersylla na thanau.
- Ni chaniateir cychod na fflotiau.
- Cadwraeth natur: Mae’r rhan fwyaf o Ystâd Elan dan orchudd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n dod o fewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt Ewropeaidd ac Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria. Rhaid i bysgotwyr, fel pob ymwelwr i Ystâd Elan, beidio â gadael sbwriel nac ymddwyn mewn ffordd all fod yn niweidiol i gadwraeth y bywyd gwyllt, cyflenwad dŵr neu weithgarwch ffermio.