Cerdded
P’un a’i os ydych eisiau mynd am dro hamddenol neu daith gerdded heriol mae gan Elan rhywbeth at ddant pawb. Mae hawl i grwydro’n rhydd dros ran eang o’r 72 milltir sgwâr ar yr Ystâd, a dros 80 milltir o hawliau tramwy dynodedig. Mae llawer o lwybrau cerdded gyda chymysgedd da o ran hyd ar gyfer gwahanol lefelau, gan gynnwys llwybrau natur a llwybrau cerdded hynod o hardd.
Mae Llwybr Cwm Elan yn ffefryn oherwydd ei lwybrau sydd wedi’u darmaceiddio gan ddilyn hen lwybr Rheilffordd Cwm Elan. Gellir eiddefnyddio gan gerddwyr, ceffylau a seiclwyr ac maent yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn.
Gall tir y bryniau ar yr Ystâd fod yn heriol, yn amrwyio rhwng twmpathau o wair rhos porffor i fannau dwfn o figwyn. Yn ychwanegol, ceir nifer o lwybrau defaid a all gael eu camgymryd am lwybrau’r ucheldiroedd. Mae’n angenrheidiol cael ychydig o sgiliau mordwyo, ac mae angen mapiau Arolwg yr Ordnans a chwmpawd ar gyfer y llwybrau hirach a geir yn y pecyn ‘Hillwalks’ o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Cerdded Cŵn yn Elan
Yma yng Nghwm Elan rydym yn dwlu ar gŵn. Pa ffordd well o dreulio amser yn cerdded yn yr awyr iach tra’n profi cefn gwlad prydferth.
Fel ymhobman gofynnwn i chi fod yn gyfrifol tra’n cerdded eich cŵn. Mae llawer o dda byw’n crwydro’n rhydd o gwmpas yr Ystâd felly rhaid cadw cŵn o dan reolaeth, ac mae eu cadw ar dennyn yn hanfodol er diogelwch a lles yr anifeiliaid sydd ar yr Ystâd. Mae gennym nifer o lwybrau braf ar yr Ystâd – holwch wrth y Ddesg Wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr am gyngor ac addasrwydd.
Baw Cŵn – Rydym yn hynod falch o’n Ystâd 72 milltir sgwâr, a gyda miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn rydymyn awyddus i sicrhau bod ein cefn gwlad mewn cyflwr da ar gyfer pawb. I leihau’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â baw cŵn, rydym yn gweithredu polisi o ‘gwialen a fflicio’ ar y llwybrau. Bagiwch baw eich ci ac ewch ag e adre, neu ffeindiwch gwialen a ffliciwch y baw ymhell oddi ar y llwybr neu o dan lwyni. Os nad ydych yn gallu ei facio, mynnwch wialen a’i fflicio! Fe allwch gwaredu’ch baw ci sydd wedi’i fagio yn y biniau sydd o gwmpas ein Canolfan Ymwelwyr. Peidiwch â bagio’r baw ci a gadael y bagiau plastig allan ar yr Ystâd. Mae gennym nifer o safleoedd SSSI pwysig ac mae plastig yn ymyrryd â’r ecosystemau bregus. Mae gennym fagiau baw am ddim wrth y Ddesg Wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr os nad oes rhai gennych.
Nodwch fod signal ffonau symudol yn wan iawn ar y rhwydweithiau i gyd yn yr ardal hon. Peidiwch â mynd i mewn i ardaloedd sydd wedi’u ffensio o gwmpas ffermydd oni bai i chi gael caniatâd y ffermwr.
Mae teithiau cerdded tywys ar gael trwy gydol y flwyddyn. Ewch ar ein calendr digwyddiadau am y teithiau cerdded tywys sydd ar ddod a Dyddiau Agored yr Argaeau.
Os ydych eisiau cyngor am y llwybrau cerdded yn Elan cysylltwch â’n Ceidwaid neu ewch i’r Ganolfan Ymwelwyr.