Llygredd Goleuni
Yn y DU heddiw, mae llai na 10% o’r boblogaeth yn gallu agor eu llenni ar wybren wirioneddol dywyll, oherwydd cynlluniau goleuo’r awyr agored gwael ac aneffeithiol. Dros ganrif yn ôl, roedd pobl mewn ardaloedd trefol yn gallu gweld y Llwybr Llaethog o’u gerddi! Nid yn unig bod y genedlaeth ifanc yn cael ei amddifadu o weld y wybren nos yn ei chyflwr naturiol ond mae hefyd goblygiadau i’n hiechyd, bywyd gwyllt, a threuliant ynni. Mae Cymdeithas Wybren Dywyll Rhyngwladol wedi darparu fideo gyda chyflwyniad byr i “Colli’r Tywyllwch” (ceir dewis arall o ieithoedd ar www.darksky.org).
Tra bod statws Parc Wybren Dywyll Cwm Elan yn galluogi pobl i fwynhau wybren wirioneddol dywyll a hefyd yn gwarchod ei rhywogaethau a’i gyfoedd o amrywiaeth, gall pawb cymryd camau bach i wella eu cynlluniau goleuo, lleihau llygredd goleuni a fydd yn y pendraw yn lleihau eu costau ynni.
Pethau allwch chi wneud i leihau llygredd goleuni
Pan yn prynu goleuni allanol, mae ffordd i’w gosod sy’n sicrhau na fydd gormodedd o oleuni yn disgleirio i’r awyr. Cydnabyddir bod angen goleuni allanol ar gyfer rhesymau diogelwch ond ystyriwch y ffactorau hyn er mwyn cyfrannu at leihau llygredd goleuni:
- Sicrhewch fod eich goleuni wedi ei gysgodi yn gyfan ( Mae torri i ffwrdd yn llwyr yn berffaith)
- Nid yw’r goleuni yn fwy llachar nag sydd angen ac ond yn goleuo’r lle sydd angen
- Cael ei roi ymlaen yn ôl yr angen – mae hyn yn lleihau’r llygredd goleuni lleol ond hefyd yn gostwng eich bil trydan! Gall golau halogen 500 wat gostio £90 ychwanegol y flwyddyn
- Lleihau gollyngiad golau glas
Isod ceir esiamplau o osodiadau golau cywir ac anghywir (llun gan www.darksky.org):