Dehongli Elan

Mae Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn denu oddeutu 154,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar greu ffyrdd arloesol o ddehongli, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu, archwilio a rhyngweithio.  Gydol y cynllun, cynhelir arddangosfeydd arbennig yng Nghanolfan yr Ymwelwyr ar y cyd ag Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr Gŵy er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r newydd.

O 2019 ymlaen bydd cyfarpar ac adnoddau newydd wedi eu gosod yn y Ganolfan Ymwelwyr, gan gynnwys bwrdd darganfod i blant a sach deithio ddarganfod at ddefnydd teuluoedd.  Bydd hyn yn annog teuluoedd i brofi Cwm Elan mewn ffordd wahanol.

Dros y bum mlynedd nesaf, fe fyddwn yn darparu arddangosfeydd a gwybodaeth ar themau yn cynnwys:

  • Diogelu tirwedd naturiol Elan, gan gynnwys pam bod y gwaith gwarchod sy’n cael ei wneud fel rhan o cynllun Cysylltiadau Elan yn bwysig ar gyfer cynnal ecosystem eiddil y Cwm.
  • Treftadaeth ddynol Elan – cyflwynir naratif o gwmpas y gwaith sy’n digwydd i adfer adeiladwaith Elan, ac i ddarganfod sut mae ein gweithgareddau wedi ffurfio’r tirwedd, a sut mae’n dal i’w ddylanwadu.
  • Crynhoi Elan – gwahodd ymwelwyr i fynegi sut mae pobl yn rhyngweithio ag Elan nawr.
  • Dyfodol Elan – canolbwyntio ar ddyfodol Elan a’r dŵr, yn enwedig ym maes cynaliadwyedd a chyfrifoldeb am adnoddau’r byd.

Ein bwriad ar gyfer y prosiect yma yw :

  • Datblygu 10 arddangosfa Cysylltiadau Elan bob blwyddyn – pump yng  Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan a phump yn CARAD
  • Creu Bwrdd Darganfod i Blant yn y Ganolfan Ymwelwyr
  • Datblygu pecyn gwybodaeth ar gefn i’r teulu
  • Sicrhau fod prosiectau Cysylltiadau Elan yn cael eu cyfleu a’u hyrwyddo trwy wahanol gyfryngau

Lawrlwythwch manylion y prosiect.