Buddsoddi yng Nghwm Elan

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Profiad ac Addysg » Buddsoddi yng Nghwm Elan

Mae Cwm Elan yn cynnig cyfleoedd i bobl i ddatblygu, magu hyder a dysgu sgiliau newydd. Daw’r cynllun hwn â gwir gwelliannau i fywydau pobl mewn angen drwy gefnogi, cynnwys ac integreiddio’r rhai sydd bellach o’r farchnad swyddi ‘nol i addysg ac hyfforddiant.

Bydd cyfres o weithgareddau dros y ddwy i bum mlynedd nesaf a fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflwyno gyrfaoedd a datblygu addysg mewn coedtiroedd. Bydd y gwaith a gwblheuir yn ystod y cyrsiau hyn yn cyfrannu at wella amgylchedd naturiol Cwm Elan ynghyd â darparu  gwell hygyrchedd i bobl wrth ymweld.

Cyflwynir cyrsiau hyfforddi cydnabyddedig o dri mis dwywaith y flwyddyn. At hyn, bydd dau gyfle ddatblygol y flwyddyn o gyrsiau dwys pum niwrnod gan gynnwys profiadau gwahanol o yrfaoedd ym meysydd coetiroedd.

Fe fydd Tir Coed yn defnyddio ei arbenigrwydd i arwain  trosglwyddiad a datblygiad y prosiect yma. Mae’r cyrsiau wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl sy’n dioddef o rwystrau emosiynol a chymdeithasol mawr, a lefelau gwanychol o bryder, straen a hunan-barch isel. Fe gynhelir dau gwrs hyfforddi tri mis o hyd bob blwyddyn, ble gall cyfranwyr ennill achrediad Agored Cymru (Lefel 1 – 2).  Fe fydd rhain o fudd i grwpiau gan gynnwys pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith nac hyfforddiant (NEET), troseddwyr ifanc, y tan-gyflogedig (oherwydd gwaith tymhorol a gwaith sgil isel sydd ar gael yng nghefn gwlad) a’r di-waith.  Fe fydd yr holl waith a wneir yn ystod y cyrsiau hyfforddi yn gwella amgylchedd naturiol Cwm Elan a mynediad pobl iddo.

Fe fydd hefyd dau gyfle y flwyddyn i wneud datblygiad canolbwyntiedig.  Fe fydd y cyrsiau hyfforddi dwys pum diwrnod yn cynnig profiad mewn gwahanol gyrfoedd sydd ar gael ym myd coed.  Cynigir y canlynol:

  • Coedwigaeth mecanaidd
  • Coedwigaeth gymdeithasol
  • Ecoleg
  • Crefftau traddodiadol
  • Adeiladwaith o fframau pren
  • Tanwydd pren

Dros gyfnod o bum mlynedd, y bwriad yw i roi profiad a hyfforddiant i 160 o bobl.

I ddarganfod mwy am y cyrsiau hyn cysylltwch ag Gayle Atherfold-Dudley

Lawrlwythwch manylion y prosiect.