Cynllun Hyrddod Elan

Mae gan Gwm Elan ei brîd ddafad ei hun- y ddafad Mynydd Gymreig math Elan. Esblygodd nodweddion y brîd hwn dros genedlaethau o fugeilio a phori ar y llechweddau agored. Mae’r brîd dan fygythiad yn sgîl newidiadau polisïau amaethyddol ac amodau’r farchnad.

Bwriad y cynllun hwn yw i ddatblygu cynllun magu defaid cydweithredol ymhlith ffermwyr, er mwyn sicrhau stoc magu i’r dyfodol a fydd yn meddu’r nodweddion o ddycnwch priodol, a’r greddfau angenrheidiol, i ffynnu ar dirwedd agored Cwm Elan.

Fe fydd y cynllun hwn yn diogelu bridiau defaid Elan trwy gydlynu a hyrwyddo datblygiad cynllun arbrofi ŵyn gwryw ar gyfer y brîd defaid lleol.  Fe fydd ffermwyr sy’n rhan o’r cynllun yn cyd-weithio gan ddefnyddio model egwyddorion hunan-ddatganiedig i annog a galluogi mwy o ddefnydd ar stoc ddethol brîd math Cwm Elan.  Fe fydd cynllun arbrofi yr ŵyn gwryw o fudd gan roi hyder i’r ffermwyr, gwybodaeth a ffordd o gynyddu’r defnydd o hyrddod sydd wedi’u geni a’u magu’n lleol o fewn preiddiau ei gilydd, a thrwy hynny darparu’r nod o ddiogelu bas genetig brîd Cwm Elan.

Fe fydd y cynllun arbori ar agor i’r holl ffermwyr yn ardal Cysylltiadau Elan.  Fe fydd cyfanswm o 200 ŵyn gwryw yn cael eu dethol bob blwyddyn.  Fe fyddant yn cael eu hanfon ar wair tac dros y gaeaf.  Yn y gwanwyn, fe fyddant yn dychwelyd i’r lleoliad canolog yn ardal Cysylltiadau Elan.

Dros bum mlynedd y cynllun, y bwriad yw i gael:

  • Cynllun bridio defaid cyd-weithredol i ffermwyr Elan
  • Cofnodion blynyddol o ‘darddiad lleoliad’  defnydd yr hwrdd gan y ffermwyr sy’n cymryd rhan
  • 20 o bobl wedi’u hyfforddi mewn sgiliau bridio hyrddod
  • 10 diwrnod ar gyfer rhanddeiliaid
  • pob ffermwr Cysylltiadau Elan yn cael gwybodaeth am y cynllun
  • cyfleu i gynulleidfa ehangach

Lawrlwythwch manylion y prosiect.