Dathlu Etifeddiaeth

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr » Dathlu Etifeddiaeth

Dyddia hanes Cwm Elan yn ôl dros 4000 o flynyddoedd i’r Oes Efydd. Er cyn lleied y boblogaeth yn ystod y cyfnod modern mae’r tirwedd yn amrywiol yn archeolegol.

Ceisia Elan Links ymroi i wrthweithio’r bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu’r dreftadaeth naturiol, hynafol ynghyd â’r adeiladwaith hynafol drwy:

  • Adfer a chynnal y safleodd o dreftadaeth
  • Cofnodi’r hanes dynol ynghyd â hanesion pobl

Gwarchod Amgylchedd Hanesyddol Elan

Byddwn yn cadw safleoedd hanesyddol ac arteffactau, gan greu cofnod cywir sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Gwella’r Hygyrchedd i Dreftadaeth Adeiladau ac Archeolegol

Byddwn yn gwella mynediad i ymwelwyr i chwe safle  hanesyddol: yr argae hanner adeiledig Dol y Mynach,Safle’r Dam busters yn Nant y Gro, Safleoedd “pillbox” yr Ail Ryfel Byd, Gwersyll Gorymdeithio Rufeinig, Cloddfa Cwm Elan, Olion safle ffermio cwningod o’r Oesoedd Canol

Tŷ’r Peirianydd

Byddwn yn adfer byngalo Pen y Garreg o’r 19eg ganrif, cartref peiriannydd y brif argae, felly mae’n agored i ymwelwyr ac artistiaid.

Ffermdy Cwm Clyd

Byddwn yn adnewyddu fferm Cwm Clyd yn y 18fed ganrif i ddarparu llety i grwpiau mawr sy’n dymuno treulio amser yn yr ardal.

Casgliadau Pobl

Byddwn yn creu archif o ddogfennau, atgofion, lluniau ac arteffactau sy’n dathlu gorffennol a chyfoes yr ardal.

Chwaraewch Eich Rhan

Gydol y prosiect ceir nifer o gyfleoedd i wirfoddoli, gan gynnwys:

  • Cofnodwch straeon yr ardal
  • Archifaeth ac ymchwil
  • Rheoli casgliadau
  • Gwirfoddolwyr arolygu ansawdd