Gwartheg Pori Elan

Yn draddodiadaol, roedd cadw gwartheg ar raddfa fach yn rhan allweddol o ffermio yng Nghwm Elan. Heddiw, ychydig o ffermydd sy’n dal at yr arfer. Gwyddom fod pori eang gan wartheg ar lechweddau agored ac mewn rhai cynefinoedd caeëdig yn fuddiol i fyd natur – yn cynorthwyo i gynnal llain o dir agored ble y gall rhywogaethau helaeth o blanhigion, fungi ac anifeiliad ffynnu.

Rydym yn awyddus i annog ffermwyr i barhau i gadw gwartheg, gan gynyddu’r rhifau ac i bori’r gwartheg ar gynefinoedd allweddol lle y maent ar eu mwyaf buddiol i fyd natur. Cefnoga’r cynllun y ffermwyr i wneud hyn drwy oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n bodoli i ffermio gwartheg.

Annogir a hyrwyddir y prosiect yma i gadw gwartheg ar raddfa bach ar ffermydd yn ardal Cysylltiadau Elan.  Fe fydd hyn o fudd i natur ac i’r amrywiaeth o rywogaethau.  Yn bwysicach, ceir tystiolaeth bod cadw gwartheg yn help i wella ansawdd y tir pori ar gyfer defaid, gyda natur a chynhyrchiant ffermio ar eu hennill.

Dros y bum mlynedd nesaf, mae’r prosiect yn bwriadu:

  • cefnogi o leia pum fferm er mwyn ail-gyflwyno a/neu gynyddu’r nifer o wartheg
  • Datblygu ‘grŵp gwartheg’ er mwyn i’r ffermwyr sydd â diddordeb allu rhannu syniadau
  • 45 o wartheg yn gaeth i ardal pori Cysylltiadau Elan
  • Pob ffermwr Cysylltiadau Elan yn cael gwybodaeth am y prosiect
  • Adroddiad ar ddiwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
  • Cyfleu i gynulleidfa ehangach

Lawrlwythwch manylion y prosiect.